Mae’n bwysig iawn i ni eich bod yn gallu newid eich cynlluniau teithio’n rhwydd dan yr amgylchiadau eithafol hyn.
Ad-daliadau am docynnau a gafodd eu prynu ar gyfer 23-27ain Rhagfyr
Tocynnau Ymlaen Llaw
Bydd cwsmeriaid a oedd wedi prynu tocynnau Ymlaen Llaw ar ôl 24 Tachwedd 2020 i deithio rhwng 23 a 27 Rhagfyr 2020 yn gallu newid eu taith i deithio rywbryd eto am ddim neu gael ad-daliad am eu tocynnau.
Os bydd cwsmeriaid eisiau newid eu taith
Os ydych chi eisiau newid eich taith tocyn Ymlaen Llaw, rhaid i chi adael yr un orsaf a chyrraedd yr un orsaf â’r daith wreiddiol.
- Bydd yn rhaid i gwsmeriaid dalu unrhyw wahaniaeth yn y pris.
- Rhaid i gwsmeriaid newid eu taith cyn amser y daith wreiddiol, neu bydd unrhyw newidiadau a wneir i docynnau Ymlaen Llaw ar ôl i’r gwasanaeth hwnnw adael yn annilys.
Os bydd cwsmeriaid eisiau ad-daliad
Os oedd cwsmeriaid wedi prynu unrhyw docynnau Ymlaen Llaw, Unrhyw Bryd, Cyfnodau Tawelach a Chyfnodau Tawelach Fyth ar neu ar ôl 24 Tachwedd 2020 i deithio rhwng 23 a 27 Rhagfyr 2020, mae ganddynt hawl i gael ad-daliad am eu tocyn(nau) am ddim
- Rhaid i’r sawl a oedd wedi gwerthu'r tocyn i chi yn y lle cyntaf brosesu’r ad-daliad, felly dim ond os oeddech chi wedi prynu tocynnau ar ein ap, ar ein gwefan neu yn un o’n gorsafoedd gallwn ni roi ad-daliad i chi.
- Bydd yr ad-daliadau’n cael eu talu drwy ddefnyddio’r un dull roeddech chi wedi’i ddefnyddio i brynu’r tocyn yn y lle cyntaf.
Ers 23 Mawrth 2020, rydym wedi gwneud nifer o newidiadau dros dro ar gyfer y rhai y mae eu cynlluniau teithio’n newid yn annisgwyl oherwydd y Coronafeirws. Rydym wedi gwneud y canlynol:
-
Hepgor y ffi weinyddol o £10 i newid eich taith.
-
Ad-daliad llawn heb ffi weinyddol ar docynnau Cyfnodau Tawelach, Cyfnodau Tawelach Byth, Unrhyw Dro ac Ymlaen Llaw.
-
Ymestyn y cyfnod y cewch wneud cais am ad-daliad o 28 diwrnod i 56 diwrnod.
Gan fod y rhan fwyaf o’n gwasanaethau'n rhedeg eto a’r ad-daliadau yn ymwneud â’r cyfyngiadau symud wedi’u prosesu, mae'r newidiadau dros dro hyn yn dod i ben.
Hyd at 6ed Medi 2020:
-
Does dim modd cael ad-daliad ar gyfer tocynnau Ymlaen llaw (oni bai fod rhywbeth yn tarfu ar y daith a archebwyd sy’n golygu nad ydych yn teithio), ond gallwch newid eich taith.
- Os oes gennych docyn Cyfnodau Tawelach, Cyfnodau Tawelach Byth neu Unrhyw Dro, gallwch gael ad-daliad llawn heb unrhyw ffi weinyddol.
- Os oes gennych chi Docyn Tymor sydd heb ddod i ben, gallwch wneud cais am ad-daliad. Byddwn yn cyfrifo'r swm i’w ad-dalu yn ôl y gwerth sydd ar ôl ar eich tocyn. Gellir ôl-ddyddio’r ad-daliad hwn hyd at 56 diwrnod o’r adeg y’i cyflwynir i’r dyddiad diwethaf y'i defnyddiwyd os nad oeddech chi’n gallu teithio.
- Cewch wneud cais am ad-daliad o 56 diwrnod ar ôl y dyddiad y daw eich tocyn i ben.
O 7fed Medi 2020:
- Does dim modd cael ad-daliad ar gyfer tocynnau Ymlaen llaw (oni bai fod rhywbeth yn tarfu ar y daith a archebwyd sy’n golygu nad ydych yn teithio), ond gallwch newid eich taith.
- Os oes gennych docyn Cyfnodau Tawelach, Cyfnodau Tawelach Byth neu Unrhyw Dro, gallwch wneud cais am ad-daliad ar docyn heb ei ddefnyddio. Efallai y bydd angen talu ffi weinyddol.
- Os oes gennych chi Docyn Tymor sydd heb ddod i ben, gallwch wneud cais am ad-daliad. Byddwn yn cyfrifo'r swm i’w ad-dalu yn ôl y gwerth sydd ar ôl ar eich tocyn. Does dim modd ôl-ddyddio’r ad-daliad hwn.
- Bydd y cyfnod lle gallwch wneud cais am ad-daliad yn cael ei ostwng o 56 diwrnod i 28 diwrnod ar ôl y dyddiad y daw eich tocyn i ben.
Er mwyn helpu ein cwsmeriaid i gadw pellter cymdeithasol, rydym wedi rhoi systemau ar waith i chi gael gwneud cais am ad-daliadau o bell, i leihau cyswllt rhwng teithwyr a staff, a chadw pawb yn fwy diogel.
Peidiwch â mynd i’n swyddfeydd tocynnau ar hyn o bryd i wneud cais am ad-daliad.
Ar hyn o bryd, mae’n cymryd 30 diwrnod ar gyfartaledd i brosesu ad-daliadau - diweddarwyd ddiwethaf 17 Awst 2020.
TOCYNNAU UNFFORDD, DWYFFORDD AC YMLAEN LLAW:
Prynwyd o TrC Ar-lein | Prynwyd drwy Orsaf neu Beiriant Gwerthu Tocynnau TrC | |
Rydw i eisiau canslo fy nhaith a chael ad-daliad: Sylwer: |
Os oeddech chi wedi prynu’r tocynnau ar-lein a’ch bod eisoes wedi’u casglu. Anfonwch neges e-bost gyda llun o’r tocynnau wedi’u torri yn eu hanner i: |
Os oeddech chi wedi prynu eich tocyn mewn gorsaf neu drwy Beiriant Gwerthu Tocynnau a'ch bod eisiau gwneud cais am ad-daliad, postiwch eich tocyn i: Cais am Ad-daliad Rhadbost CYSYLLTIADAU CWSMERIAID RHEILFFYRDD TRC gyda eich enw a cyfeiriad. Peidiwch mynd i swyddfa prynu tocynnau ystod y cyfnod yma. |
Rydw i eisiau newid fy nhocyn: Sylwer: |
|
Os oeddech chi wedi prynu eich tocyn mewn gorsaf neu drwy Beiriant Gwerthu Tocynnau a'ch bod eisiau gwneud cais am ad-daliad, postiwch eich tocyn i: Cais am Ad-daliad gyda eich enw a cyfeiriad. Peidiwch mynd i swyddfa prynu tocynnau ystod y cyfnod yma. |
Purchased from TfW Online | |
I want to cancel my trip and get a refund: |
If tickets bought online and have already been collected. |
I want to change my ticket: No admin fee will be charged |
|
Purchased at TfW Station or Ticket Vending Machine | |
I want to cancel my trip and get a refund: |
If you bought your ticket at our station or Ticket Vending Machine and would like to apply for refund, please post your ticket to: Refund Request with your name, address. Please do not go into our ticket booking offices at this time. |
I want to change my ticket: No admin fee will be charged |
If you bought your ticket at our station or Ticket Vending Machine and would like to apply for refund, please post your ticket to: Refund Request with your name and address. Please do not go into our ticket booking offices at this time. |
Cwestiynau ac Atebion am docynnau Advance
Tocynnau Tymor:
-
Gallwn ad-dalu Tocynnau Tymor unrhyw bryd a byddwn yn cyfrifo'r swm i’w ad-dalu yn ôl y gwerth sydd ar ôl ar eich tocyn. Rydym yn gwneud hyn drwy dynnu gwerth unrhyw docynnau eraill y gallech fod wedi’u defnyddio i deithio yn yr un cyfnod tan i chi roi’r gorau i ddefnyddio eich Tocyn Tymor.
-
Yn gyffredinol gallwn roi ad-daliad i chi os oes:
-
Saith diwrnod (neu fwy) ar ôl ar y Tocyn Tymor sy'n ddilys am un i ddeg mis
-
Tri diwrnod (neu fwy) ar ôl ar Docyn Tymor wythnosol
-
Ar gyfer Tocyn Tymor blynyddol, efallai na fydd gwerth ariannol ar ôl arno os yw’n cael ei ildio yn ystod y ddau fis olaf cyn iddo ddod i ben. Does dim gwerth ad-daliad i docynnau Tymor Blynyddol ar ôl 10 mis a 12 diwrnod, ond maen nhw’n dal yn ddilys i deithio nes daw’r dyddiad i ben, a gallwch barhau i fwynhau unrhyw fuddion Cerdyn Aur gyda nhw
-
-
Defnyddiwch y Cyfrifiannell Ad-daliad Tocynnau i gyfrifo swm yr ad-daliad ar gyfer eich tocyn chi
-
Hyd at 6 Medi: Gellir ôl-ddyddio’r ad-daliad hwn hyd at 56 diwrnod o’r adeg y’i cyflwynir i’r dyddiad diwethaf y'i defnyddiwyd os nad oeddech chi’n gallu teithio.
-
Ar ôl 7 Medi: Gellir ôl-ddyddio’r ad-daliad hwn hyd at 28 diwrnod o’r adeg y’i cyflwynir i’r dyddiad diwethaf y'i defnyddiwyd os nad oeddech chi’n gallu teithio.
-
Os nad oeddech chi’n gallu teithio oherwydd salwch yn union cyn i’r llywodraeth gyhoeddi ei chanllawiau ym mis Mawrth, gallwch wneud cais iddo gael ei ôl-ddyddio ymhellach os rhowch dystiolaeth i ddangos y cyfnod yr oeddech yn sâl.
-
Bydd y polisi ad-daliad am docyn tymor arferol yn parhau i fod yn berthnasol, ond mae'r ffi weinyddol o £10 wedi cael ei dileu.
Man prynu | Fformat y tocyn | Sut mae hawlio eich Ad-daliad |
Ar-lein drwy wefan TrC neu ap TrC |
Papur |
I ganslo neu i gael ad-daliad am eich Tocyn Tymor papur |
Cerdyn Clyfar |
Anfonwch neges e-bost i seasons.tfw@trainsfares.co.uk yn cynnwys rhif eich Cerdyn Clyfar, yr enw a’r cyfeiriad e-bost sy’n cael eu defnyddio ar eich cyfrif ar y we, y daith sy’n cael ei dangos ar eich tocyn tymor, a’r dyddiad pan wnaethoch chi deithio ddiwethaf. |
|
Tocynnau a gafodd eu prynu drwy orsaf neu Beiriant Gwerthu Tocynnau TrC Peidiwch â mynd i’n swyddfeydd tocynnau ar hyn o bryd. |
Papur |
I ganslo neu i gael ad-daliad am eich Tocyn Tymor papur a brynwyd yn ein gorsafoedd neu ein Peiriannau Gwerthu Tocynnau: Postiwch eich tocyn i: |
Cerdyn Clyfar | Anfonwch neges e-bost i customer.relations@tfwrail.wales yn cynnwys eich enw a'ch cyfeiriad post llawn, yr enw a’r rhif ar eich Cerdyn Clyfar, y daith roedd eich tocyn yn ddilys ar ei chyfer a'r dyddiad pan wnaethoch chi deithio ddiwethaf. |
Place of purchase Ticket Format |
How to claim your Refund |
Online via TfW website or TFW App |
To cancel or refund your paper Season Ticket |
Online via TfW website or TFW App |
Send an e-mail to Seasons.tfw@trainfares.co.uk including our smartcard number, name, journey on season ticket, and last day of travel. |
Tickets purchased at TfW station or from a Ticket Vending Machine |
To cancel or refund your paper Season Ticket purchased at our stations or Ticket Vending Machine Refund Request Enclosing a brief note with your name and address and last date of travel. |
Tickets purchased at TfW station or from a Ticket Vending Machine |
Send an e-mail to customer.relations@tfwrail.wales including your name and full postal address, the Name and number on your smartcard, the journey for which your ticket is valid and your last date of travel. |
Mae ein telerau ac amodau arbennig ar gael am gyfnod dros dro o 23 Mawrth 2020 hyd at 6 Medi 2020.
Rydyn ni’n gwerthfawrogi eich amynedd a’ch dealltwriaeth wrth i’r sefyllfa hon esblygu, ac fe hoffem eich sicrhau chi ein bod yn gwneud popeth posib i’ch helpu chi i deithio’n ddiogel ac yn hyderus. I gael y wybodaeth ddiweddaraf, edrychwch ar ein gwefan.
Mewn grym o: Dydd Llun 17 Awst nes y cyhoeddir yn wahanol.
MULTIFLEX
Bydd yr holl gwsmeriaid oedd ag un tocyn Multiflex neu fwy (swp) heb eu defnyddio ar 17 Mawrth 2020 yn derbyn ad-daliad. Mae hyn er mwyn cydnabod na fyddai’r cwsmeriaid wedi gallu defnyddio pob tocyn.
Gwerth yr ad-daliad fydd 1/12 o gyfanswm cost pecyn Multiflex ar gyfer pob tocyn heb ei ddefnyddio. Telerau arferol tocyn Multiflex yw nad oes modd eu had-dalu. Felly, yn ystod y pythefnos nesaf, bydd ein partner manwerthu digidol yn gwneud ad-daliadau’n ôl i’r cerdyn a ddefnyddiodd y cwsmer i dalu am y tocyn/tocynnau, a bydd unrhyw docynnau heb eu defnyddio yn cael eu dileu o’r rhestr ‘Fy Nhocynnau’ gweithredol.
Ar 17 Mawrth 2020, cyhoeddodd y Llywodraeth arweiniad i aros gartref ac i beidio â theithio oni bai ei fod yn allweddol. Felly, byddai unrhyw un a brynodd tocyn ar ôl 17 Mawrth 2020 yn bwriadu teithio er eu bod yn ymwybodol o’r cyfyngiadau ac felly nid ydynt yn gymwys i gael ad-daliad.
Os ydych yn gymwys, nid oes rhaid i chi wneud unrhyw beth i dderbyn ad-daliad. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at customer.relations@tfwrail.wales
TEITHIAU BUSNES
Os ydych chi wedi archebu eich tocyn drwy ein tîm teithiau busnes, cysylltwch â nhw dros yr e-bost.
business.bookings@tfwrail.wales
Peidiwch â thorri eich tocyn tymor corfforaethol
PARCIO CEIR
Mae ad-daliadau hefyd ar gael ar gyfer tocynnau tymor y meysydd parcio, wedi’u ôl-ddyddio 56 diwrnod os nad ydynt wedi cael eu defnyddio.
I gael rhagor o wybodaeth am barcio ceir, ewch i’r dudalen hon.
PLUS BUS
Mae ad-daliadau hefyd ar gael ar gyfer tocynnau tymor PlusBus, wedi’u ôl-ddyddio 56 diwrnod os nad ydynt wedi cael eu defnyddio
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Chysylltiadau Cwsmer customer.relations@tfwrail.wales .
TALEBAU TEITHIONATIONAL RAIL
Mae Talebau Teithio gyda dyddiad dod i ben rhwng 17 Mawrth a 16 Medi 2020 wedi cael eu hymestyn am chwe mis i’ch galluogi i’w defnyddio i deithio yn nes ymlaen.
Er enghraifft, bydd Taleb Teithiau Trên sy’n dod i ben ar 10 Mehefin 2020 yn cael ei derbyn fel taliad tuag at docynnau trên hyd at 9 Rhagfyr 2020.
Gellir defnyddio Talebau Teithiau Trên yn erbyn cost tocynnau trên yn ein swyddfeydd tocynnau.
CARDIAU RHEILFFORDD
Cerdyn Rheilffordd | Cyflwynydd | Newidiadau |
|
Cyhoeddwyd gan National Rail | Dylai cwsmeriaid gysylltu'n uniongyrchol â National Rail i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch dilysrwydd Cardiau Rheilffordd yma https://www.railcard.co.uk/contact-us/ |
|
Cyhoeddwyd gan Trafnidiaeth Cymru | Mae Cardiau Teithio Trafnidiaeth Cymru a brynwyd cyn 17 Mawrth 2020 wedi cael eu hymestyn am chwe mis i’ch galluogi i ddefnyddio’r cerdyn rheilffordd yn nes ymlaen. Er enghraifft, bydd cerdyn rheilffordd sy’n dod i ben ar 10 Mehefin 2020 yn cael ei dderbyn hyd at 9 Rhagfyr 2020. |