O gestyll hanesyddol a mynyddoedd dramatig i draethau godidog a theithiau cerdded gwych, mae modd darganfod mwy o Gymru am lai gan ddefnyddio Pas Archwilio Cymru.

Mae'n ddelfrydol ar gyfer eich gwyliau yng Nghymru.

Mae ein Tocyn Crwydro Cymru yn ddilys ar gyfer teithio am bedwar diwrnod o fewn cyfnod o 8 diwrnod i unrhyw le yng Nghymru ar y trên ac ar fysiau rhai cwmnïau.

 

Prisiau

  Oedolyn Plentyn Cerdyn Rheilffordd*
Pas Archwilio Cymru £109 £54.50 £71.90

*Arbedwch ragor gyda'r Cardiau Rheilffordd canlynol: 16-25, Dau Berson, Pobl Anabl neu Pobl Hŷn.

 

Ble mae prynu Pas Archwilio Cymru

Gallwch brynu Pas Archwilio Cymru mewn unrhyw un o'n swyddfeydd tocynnau. Gallwch hefyd eu prynu mewn gorsafoedd trenau mwy yn y DU a gan Asiantau Teithio wedi'u penodi gan National Rail. Does dim modd eu prynu ar-lein, i brynu ymlaen llaw, ffoniwch 08448 560 688 neu e-bostiwch y tîm - tms@tfwrail.wales.

 

Alla i uwchraddio o docyn Safonol i docyn Dosbarth Cyntaf?

Gallwch uwchraddio o docyn Dosbarth Safonol i Ddosbarth Cyntaf ar ein gwasanaethau, lle mae’n bosib gwneud hynny.  Mae hyn yn berthnasol i'n holl docynnau Safonol gan gynnwys Tocyn Sengl Unrhyw Amser ac Ymlaen Llaw, Tocyn Dychwelyd, Tocynnau Tymor a thocynnau Rover a Ranger.  Rhowch wybod i'r tocynnwr os hoffech uwchraddio gan y bydd angen iddynt gadarnhau bod lle yn y cerbyd(au) Dosbarth Cyntaf.  Cofiwch y bydd cost ychwanegol hefyd am unrhyw brydau a archebwch ar y trên os ydych yn uwchraddio i docyn Dosbarth Cyntaf.

 

Gweithgareddau

Os ydych yn mwynhau bwyd, crwydro, mwynhau rhuthr adrenalin, neu'n edrych am fan tawel i ymlacio. Mae gan Groeso Cymru syniadau grêt ar gyfer eich taith.

 

Ein partneriaid bysiau

Bysiau Dyma restr o'r cwmnïau bysiau yng Nghymru a fydd yn derbyn ‘Tocyn Crwydro Cymru’:

  • Arriva Cymru
  • First Cymru
  • Cardiff Bus
  • Stagecoach South Wales Bus

 

Telerau ac amodau

  • Gallwch chi deithio faint fynnwch chi yn yr ardal ddaearyddol ddynodedig ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru am 4 diwrnod o fewn cyfnod o 8 diwrnod. 
  • Pob gorsaf yng Nghymru ynghyd ag estyniadau i Loegr drwy Shotton - Crewe - Y Fenni a Chas-gwent - Caerloyw.
  • Gallwch chi deithio faint fynnwch chi gyda thocyn Crwydro Cymru ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn yr ardal ddaearyddol ddynodedig am 4 diwrnod o fewn cyfnod o 8 diwrnod.
  • Yn ddilys ar gyfer teithio ar ôl 09:30 dydd Llun i ddydd Gwener, a drwy ddydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc.
  • Fodd bynnag, does dim cyfyngiad rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog, Amwythig ac Abertawe ar wasanaethau Calon Cymru, gorllewin o Gaerfyrddin, Aberystwyth-Machynlleth-Pwllheli neu Wrecsam Canolog-Bidston.
  • Dim cyfyngiad ar fysiau.
  • Yn ddilys ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, CrossCountry, Great Western Railway a Avanti West Coast.
  • Prynwch docyn Crwydro Cymru o swyddfa docynnau eich gorsaf leol.
  • Gellir cael ad-daliad am docynnau heb eu defnyddio, ond rhaid talu ffi weinyddu.