Arolwg Cwsmer Cudd

Bob cyfnod, byddwn yn cynnal arolygon siopwr dirgel lle byddwn yn anfon pobl ar deithiau ar draws ein rhwydwaith i gael cipolwg ar bopeth, o’r profiad o brynu tocynnau, i’r profiad gyda Staff TrC a’r daith ei hun.

Mae’r arolygon hyn yn cael eu trefnu a’u cynnal gan gwmni allanol sy’n anfon pobl ar draws ein rhwydwaith ac yn rhoi sgoriau manwl i ni, er mwyn i ni gael defnyddio’r wybodaeth i wella’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu yn dilyn yr adborth hwn. Rydym yn cynnal mwy na 50 o arolygon bob cyfnod, ac rydym ni’n cyhoeddi’r canlyniadau yma bob cyfnod.

 

Arolwg Siopwr Dirgel Cyfnod 11: 5 Ionawr - 1 Chwefror 2020 | Agor ar ffurf PDF

 

Uchafbwyntiau:

  • Argraff gyffredinol o TrC: 73% o gwsmeriaid cudd wedi rhoi sgôr o 8 neu fwy yng Nghyfnod 11

  • 75% o gwsmeriaid cudd wedi cael argraff dda o gyntedd yr orsaf/swyddfa docynnau roedden nhw wedi ymweld â nhw.

  • 98% o gwsmeriaid cudd yn teimlo bod yr orsaf roedden nhw wedi ymweld â hi yn lân

  • 78% yn fodlon â’r trên roedden nhw wedi teithio arno yn gyffredinol,

  • Roedd y bodlonrwydd cyffredinol ag aelodau o staff ar draws y rhwydwaith yn 88%

Mystery Shopper Survey