Mae gennych chi'r dewis o hysbysebu ym mhob rhan o'n gorsafoedd a threnau gydag opsiynau cost sy'n addas i bob cyllideb.

Byddwch yn synnu at ba mor bell y bydd eich arian yn ymestyn, felly siaradwch â’n partner hysbysebu, Route Media, am y cyfleoedd cyffrous y gallai hyn eu cynnig i’ch busnes.

I gael gwybod mwy am gyfleoedd hysbysebu cysylltwch â:

 

Hysbysebu trwy brofiad

Mae SpaceandPeople PLC yn rheoli gofodau hyrwyddo a manwerthu tymor byr o fewn portffolio gorsafoedd Trafnidiaeth Cymru. Wedi'i sefydlu yn 2000, mae gan y cwmni gyfoeth o brofiad yn paru brandiau, hyrwyddwyr a manwerthwyr â'r cynulleidfaoedd cywir. Mae SpaceandPeople yn ychwanegu bywiogrwydd ac yn gwella profiad cwsmeriaid mewn lleoliadau, gan arwain at leoliadau sy'n sicrhau llwyddiant ac yn codi ymwybyddiaeth brand.
 
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar:

 

Ceisiadau ffilmio masnachol

Rydym yn cydnabod bod diddordeb sylweddol mewn ffilmio ar ein rhwydwaith a byddwn bob amser yn ceisio darparu ar gyfer ceisiadau o'r fath.

Gan fod y rheilffordd yn amgylchedd diogelwch critigol, rhaid i bob cais ffilmio ar ein trenau a’n gorsafoedd gael ei oruchwylio, gyda cheisiadau yn cael eu cyflwyno i ni gyda 14 diwrnod o rybudd.

Ein cyfradd sefydlog ar gyfer ffilmio yw £500 yr awr sy'n talu am yr holl gostau gweinyddol cysylltiedig i sefydlu ffilmio.

Dylai pob ymgeisydd ddarparu asesiad risg addas ar gyfer eu gweithgaredd arfaethedig a rhaid iddynt gael eu hyswirio gan yswiriant atebolrwydd cyhoeddus.