Eich cydymaith teithio delfrydol

Yn wahanol i rai apiau trên, gydag ap Trafnidiaeth Cymru, gallwch brynu a thalu am eich tocynnau heb unrhyw ffioedd ychwanegol. Ni ychwanegir unrhyw gostau cudd at bris y tocyn.

 

Lawrlwythwch ap TrC heddiw

App StoreGoogle Play

 

Arbed arian

Gallwch fanteisio ar docynnau all arbed arian i chi fel tocynnau Multiflex. Gallwch arbed arian ar eich teithiau pellter hir gyda thocynnau Advance.

Rydym hefyd yn cynnig cynllun ‘Pay in 3’ ar gyfer unrhyw docynnau rydych yn eu prynu drwy PayPal pan rydych yn gwario £30 neu fwy. Gydag e-docynnau digidol, gallwch eu storio yn waled eich ffôn clyfar er mwyn eu hagor yn rhwydd.

 

Arbed amser

Bydd yr wybodaeth ddiweddaraf am deithiau a gwasanaethau ychwanegol ar flaenau’ch bysedd i’ch helpu i olrhain eich teithiau. Mae’r ap yn eich galluogi i ddod o hyd i’r trenau TrC sydd â’r mwyaf o le arnynt fel y gallwch gynllunio’ch teithiau a mwynhau taith fwy cyfforddus. Gallwch ddod o hyd i ganllawiau ynglŷn â’n system Ad-dalu’n hawdd os cafodd eich trên ei ohirio neu ei ganslo.

Os gwnaethoch brynu tocyn Advance i deithio ar wasanaeth TrC (ar gyfer eich holl daith neu ran ohoni) ar ein ap neu’n gwefan, cewch eich diogelu gan y system Ad-dalu Awtomatig - nid oes angen i chi wneud cais hyd yn oed. Bydd ein system yn nodi os yw’ch trên wedi’i ohirio am 15 munud neu fwy ac yn creu hawliad yn awtomatig.

 

Llai o ymdrech

Mae ein trenau’n galw mewn 248 gorsaf gan gynnwys Caerdydd, Manceinion, Birmingham, Lerpwl, Caer, Amwythig, Abertawe, Bangor, Casnewydd a mwy. Yn ogystal â’ch galluogi i agor eich tocynnau ar gyfer eich taith ddyddiol yn hawdd, mae ein ap trên hefyd yn siop-un-stop ar gyfer teithio ar drên ledled Prydain Fawr.

  • Arbed arian heb ffioedd archebu ar gyfer eich tocynnau.
  • Mynediad unigryw i gynigion.
  • Mynediad i docynnau arbed-arian Multiflex ac Advance.
  • System ‘Pay in 3’ PayPal os ydych yn gwario £30 neu fwy.
  • Yr wybodaeth ddiweddaraf am deithiau a phlatfformau ar flaenau’ch bysedd er mwyn gwneud eich taith mor hwylus â phosibl.
  • Dod o hyd i drenau sydd â digon o le arnynt a mynediad hawdd i Ad-daliadau os caiff eich taith ei gohirio neu ei chanslo.
  • Archebu lle i feic ar rai o’n gwasanaethau.
  • Dewis iaith - mae’r ap ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

 

Ei gwneud hi’n rhwydd teithio ar y trên

Talu wrth Fynd yn ddigyswllt ar gael rhwng Caerdydd Canolog, Casnewydd a Phont-y-clun

Pay as you go animation

Fe allwch chi gael hyd yn oed mwy o fuddion drwy gofrestru ar ap TrC

Mae’n hawdd cadw golwg ar eich taith ar y trên pan fyddwch chi’n cofrestru ar gyfer cyfrif ar ap TrC.

  • Gweld eich hanes teithio a thalu llawn mewn un lle.
  • Llwytho eich derbynebau teithio i lawr mewn ychydig o dapiau.
  • Cael gwybod os ydych chi’n anghofio tapio allan, er mwyn osgoi costau ychwanegol.
  • Galluogi’r cof teithiau rheolaidd ar sail eich patrymau teithio er mwyn i’r ap allu cwblhau eich teithiau’n awtomatig.

Dysgu mwy, Talu wrth fynd.

 

Lawrlwythwch ap TrC heddiw

App StoreGoogle Play

 

Personoli eich teithiau gyda ap TrC

Beth am greu cyfrif TrC i hwyluso’ch teithiau trên hyd yn oed yn fwy.

Gallwch nodi’r gorsafoedd rydych yn eu defnyddio mwyaf, cael yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â theithio, lawrlwytho’ch derbynneb a mwy. Cofrestrwch i greu cyfrif yma neu ar ap TrC

  • Heb ddefnyddio ap TrC o’r blaen?
    • Cam 1 - Lawrlwytho 
      Ewch i’r ‘App Store’ (linc isod) a lawrlwytho ap newydd TrC.

      App StoreGoogle Play

    • Cam 2 - Creu cyfrif
      Mewngofnodi a chreu cyfrif newydd/cofrestru drwy ap TrC, mae’n rhwydd a chyflym.

    • Cam 3 - Dechrau defnyddio yn syth 
      Rydych chi’n barod i fynd, dechreuwch chwilio am amseroedd a phrisiau trenau, prynwch docyn a’i hawlio yn syth. 

    • Rydym yn diweddaru ein Ap yn gyson, gwiriwch fod gyda chi’r fersiwn ddiweddaraf ar eich dyfais.

    • Rhagor o wybodaeth am ddiweddaru eich ap TrC.

  • Pa docynnau trên alla i brynu?
    • Gallwch brynu’r rhan fwyaf o’n tocynnau ar yr ap:

      • Tocynnau Unrhyw bryd

      • Tocynnau Advance

      • Tocynnau sengl a dychwelyd

      • Tocynnau Multiflex

  • Defnyddio eich ffôn symudol fel tocyn
    • Dewiswch yr opsiwn darparu tocyn digidol pan fyddwch yn prynu eich tocyn (ar yr ap neu ar-lein) a byddwn yn anfon eich tocyn yn syth i’r ap.

  • Dyma’r hyn sy’n bosibl gyda’r ap:
      • Amseroedd trenau

      • Gwybodaeth byw am drenau sy’n cyrraedd a gadael

      • Diweddariadau ar drenau sydd wedi’u gohirio neu eu canslo

*Y ganran gyfartalog a arbedwyd gan gwsmeriaid rhwng 01/01/2022 a 31/12/2022 wrth brynu tocynnau Advance TrC heb ddisgownt o’i gymharu â thocyn sengl rhataf TrC am bris unrhyw bryd ar gyfer yr un siwrnai, sydd ar gael ar y diwrnod teithio, oedd 51%. Mae prisiau tocynnau Advance yn amodol ar argaeledd. Mae amodau teithio National Rail yn berthnasol.