Arolwg o Fodlonrwydd Cwsmeriaid

Bob cyfnod, byddwn yn cynnal arolygon boddhad cwsmeriaid i gael adborth gan ein cwsmeriaid am bopeth, o’r profiad o brynu tocynnau, i’r orsaf a’r daith ei hun.

Mae’r arolygon hyn yn cael eu cynnal gan gwmni allanol ar ffurf cyfweliadau yn y gorsafoedd ac ar y trenau, a bob mis rydym yn cynnal mwy na 500 o’r arolygon hyn i gael gwell dealltwriaeth o sut a lle gallwn wella. Rydym ni’n cyhoeddi’r canlyniadau yma bob cyfnod.

Arolwg Boddhad Cwsmeriaid Cyfnod 11: 5 Ionawr - 1 Chwefror 2020

 

Uchafbwyntiau:

  • Roedd bodlonrwydd cyffredinol â siwrneiau wedi codi 10% i 89% o’r cwsmeriaid yn fodlon o’i gymharu â 79% yn Arolwg yr Hydref.

  • Ein Sgôr Hyrwyddwr Net ar gyfer Cyfnod 11 oedd 22 gyda 39% o’n cwsmeriaid yn barod i’n hargymell i’w teulu a’u ffrindiau.

  • Roedd 90% o gwsmeriaid yn fodlon â’r amgylchedd ar y trenau yn gyffredinol, sydd 15% yn uwch na chanlyniad Arolwg yr Hydref sef 74%.

  • Roedd 82% o gwsmeriaid yn fodlon ag amgylchedd yr orsaf yn gyffredinol, 11% yn uwch na chanlyniad yr Arolwg diweddaraf sef 71%.

  • Roedd 97% o gwsmeriaid a oedd wedi prynu tocynnau ymlaen llaw yn fodlon â’r broses prynu tocynnau yn gyffredinol, o’i gymharu â 76% yn Arolwg yr Hydref.

  • Roedd 63% o gwsmeriaid yn fodlon â sut cafodd yr oedi a gawson nhw ei drin – 18 pwynt canran yn uwch na chanlyniad Arolwg yr Hydref sef 45%.

Tebygolrwydd o Argymell