About Hen Dŷ Carswell
Hawdd yw adnabod Tŷ Canoloesol Carswell oherwydd ei simnai allanol dal, a hwn yw un o’r unig adeiladau o’u math sy’n dal i sefyll yn y rhan hon o Gymru. Yn ôl pob tebyg, fe’i hadeiladwyd yn y 15fed ganrif, a’r tŷ’n rhan o’r ystâd a oedd yn perthyn i Iarll Penfro. Byddai’n gartref i denantiaid o ffermwyr a enillai fywoliaeth fechan o’r tir. Tŷ syml a diaddurn ydyw, sy’n rhoi cipolwg inni ar fywyd canoloesol pob dydd, i ffwrdd o’r cestyll crand a gysylltir yn aml â’r cyfnod.

This article was provided by Visit Wales.
Find out more by visiting:
www.visitwales.com