Teithio i Gastell Cricieth ar y trên

Station Icon
Yr orsaf agosaf: Cricieth

Location Icon
8 munud o cerdded  - gweld y map

 

Mae Castell Cricieth yn sicr o gipio’ch dychymyg.  

Dim ond 8 munud ar droed o orsaf Cricieth yw'r castell hwn sy’n sefyll ar ben ei bentir creigiog ei hun rhwng dau draeth. O’r fan honno, mae golygfeydd godidog o’r dref ac ar draws Bae Ceredigion. Does dim syndod bod Turner wedi cael ei ysbrydoli i beintio llun o’r castell. 
 
Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am Gastell Cricieth a’i hanes drwy fynd i wefan Cadw

 

Rydyn ni’n gweithio gyda Cadw i gynnig mynediad i 2 am bris 1 i’w safleoedd hanesyddol. 

Gyda thocyn trên dilys, fe gewch chi ac un person arall 2 docyn mynediad am bris 1 ar yr un diwrnod â’ch taith*. Y cwbl mae’n rhaid i chi ei wneud i fanteisio ar y cynnig hwn yw teithio i'r atyniad ar y trên. 

*Telerau ac Amodau perthnasol.

  • Gweler y Telerau ac Amodau:
    • Bydd angen i chi ddangos eich tocyn trên Trafnidiaeth Cymru, sy’n ddilys ar gyfer taith sydd ar yr un diwrnod ag y byddwch yn ymweld ag atyniad Cadw.  Mae’r cynnig 2-am-1 ar gael yn safleoedd Cadw lle rydych yn talu am fynediad, a bydd angen i chi ei adbrynu ar yr un diwrnod ag y byddwch yn prynu’ch tocyn mynediad. Mae’n rhaid i’ch tocyn TrC fod yn ddilys ar gyfer yr orsaf drên agosaf i’r atyniad a ddewiswch.
    •  
    • Mae'r cynnig hwn yn ddilys tan 31 Mai 2024.
    •  
    • Mae rhagor o wybodaeth am y telerau ac amodau ar wefan Cadw.