Mynd ymlaen i’r prif gynnwys
Read more

Teithio i Plas Mawr ar y trên

Station Icon
Yr orsaf agosaf: Conwy

Location Icon
2 munud o cerdded - gweld y  map

 

Plas Mawr yw’r tŷ tref harddaf o Oes Elizabeth sydd wedi goroesi ym Mhrydain. 

Cafodd y tŷ hwn ei adeiladu mewn cyfnod aur pan oedd masnachwyr cefnog yn buddsoddi mewn plastai, ffitiadau drud ac adloniant moethus. Dim ond 2 funud ar droed o Gastell Conwy, a 5 munud o orsaf drenau Conwy, mae’r tŷ.  
 
Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am Blas Mawr a’i hanes drwy fynd i wefan Cadw

 

Rydyn ni’n gweithio gyda Cadw i gynnig mynediad i 2 am bris 1 i’w safleoedd hanesyddol. 

Gyda thocyn trên dilys, fe gewch chi ac un person arall 2 docyn mynediad am bris 1 ar yr un diwrnod â’ch taith*, ac oherwydd bod gorsaf drenau Conwy o fewn 5 munud o bellter cerdded i Blas Mawr a Chastell Conwy, mae dau gyfle i chi fanteisio ar ein cynnig 2 am bris 1 yma. 
 
*Telerau ac Amodau’n berthnasol. 

  • Gweler y telerau ac amodau
      • Cymhwysedd: Mae'r Cynnig yn agored i bob oedolyn 18 oed neu hŷn, ac eithrio gweithwyr yr Hyrwyddwyr a'u cydweithwyr neu eu hasiantau, teuluoedd uniongyrchol cyflogeion o'r fath ac unrhyw un arall sy'n gysylltiedig â'r Hyrwyddiad.
      • Mae'r Hyrwyddwr yn cadw'r hawl i ganslo neu newid yr Hyrwyddiad neu'r Telerau ac Amodau hyn ar unrhyw adeg cyn i'r cyfnod hyrwyddo ddod i ben. Mae'r cynnig ar gael i unrhyw un sydd wedi teithio ar y trên i unrhyw un o'r 20 o safleoedd Cadw â staff a restrir sydd â thâl mynediad
      • Rhaid i'r tocyn trên fod yn ddilys ar gyfer y diwrnod hwnnw. Gall hyn gynnwys tocynnau tymor dilys, tocynnau dwyffordd, tocynnau dwyffordd agored, tocynnau wythnosol, tocynnau crwydro, carnet/multiflex a thocynnau y tu allan i'r cyfnod brig. Bydd tocynnau ar ffonau symudol a derbynebau hefyd yn cael eu derbyn
      • Bydd tocynnau ar gyfer gwasanaethau nad ydynt yn rhai Trafnidiaeth Cymru hefyd yn cael eu derbyn, ond nid yw'r cynnig yn cynnwys rheilffyrdd treftadaeth na hamdden
      • Bydd y tocyn yn galluogi un unigolyn i gael mynediad am ddim, ac mae angen rhagor o docynnau trên dilys ar gyfer grwpiau dros ddau
      • Ddim yn ddilys ar y cyd ag unrhyw gynnig arall
      • Hyrwyddwr:
        Cadw Llywodraeth Cymru, Plas Caeriw, Uned 5/7 Cefn Coed, Parc Nantgarw, Caerdydd, CF15 7QQ

Ewch ati i ganfod rhagor o gyrchfannau

Mae Cymru yn cynnig amryw o brofiadau – ewch i grwydro i bob twll a chornel!