Travel to Chester by Train

Ychydig dros y ffin i Gymru, mae Caer yn ddinas gyfoes sydd â threftadaeth gyfoethog.

Mae’r ddinas yn gyfle i ymgolli mewn 2,000 o flynyddoedd o hanes, i grwydro’r siopau, y caffis a’r bwytai, i ymlacio ar yr afon neu i dreulio’r diwrnod yn y rasys. Mae Caer yn cynnig rhywbeth i’r teulu cyfan. Drwy deithio i Gaer ar y trên, bydd hi ond yn cymryd deng munud i gerdded o'r orsaf i waliau'r ddinas.

 

Pethau mae'n rhaid eu gweld

  • Cathedral at Height, dewch ar y daith hon i gael cip y tu ôl i’r llen yng Nghadeirlan gothig Caer a gweld golygfeydd gorau’r ddinas o ben y tŵr.
  • The Rows, cewch brofiad siopa gwerth chweil wrth grwydro’r orielau canoloesol yma sy'n 700 oed - dyma ddwy haen o siopau, sy'n amrywio o enwau cyfarwydd i siopau bach annibynnol.
  • Mordeithiau ar yr afon, cewch olwg gwbl wahanol ar y golygfeydd ar fordaith ddinesig neu fordaith te prynhawn ar hyd Afon Dyfrdwy gyda ChesterBoat.
  • Rasys Caer, dewch i gael blas ar wefr y rasys, neu wylio gêm bolo ar gae rasio hynaf Prydain - 25 munud o waith cerdded o'r orsaf.
  • Sŵ Caer, dewch i grwydro 125 acer o gynefinoedd a thros 21,000 o anifeiliaid ecsotig sydd mewn perygl, ychydig filltiroedd i’r gogledd o’r ddinas.

Cynnig: Mynediad i blant am ddim pan rydych yn teithio gyda Trafnidiaeth Cymru

Gyda thocyn oedolyn i Sŵ Caer a thocyn teithio Trafnidiaeth Cymru, cewch fynediad i un plentyn YN RHAD AC AM DDIM.

Cymerwch fws X1 o du allan orsaf drenau Caer a chyrraedd y sw mewn dim ond 15 munud.

Dysgwch fwy > Mynediad i blant am ddim i Sŵ Caer

  • Telerau ac amodau
      • Mynediad am ddim i un plentyn gyda phob oedolyn neu blentyn sy’n talu am docyn.

      • Mynediad am ddim i fabanod o dan 12 mis bob amser.

      • Nid oes angen tocyn ar blant â mynediad am ddim. Bydd ganddynt fynediad at y sŵ yng nghwmni oedolyn neu blentyn sydd â thocyn un dydd dilys.

      • Rhaid bod plant o dan 14 oed yng nghwmni oedolyn.

      • Rhaid i bob un sy’n ymweld â’r sŵ ddangos tocyn TrC un dydd dilys rhwng gorsaf yng Nghymru a Chaer.

      • Mae’r cynnig hwn ar gael ar y gât.

      • Nid yw’r cynnig yn cynnwys tocynnau am ddim i ofalwyr ac mae’n ddilys i oedolion neu blant sydd wedi talu am docyn yn unig.

      • Cynnig yn ddilys rhwng dydd Sadwrn 23 Mawrth 2024 - dydd Iau 28 Mawrth 2024 yn unig.

 

Penwythnos yng Nghaer

Mae Caer wedi cael ei dewis fel un o ddinasoedd harddaf Ewrop, ac mae’n hawdd iawn gweld pam. Boed hi’n law neu’n haul, mae digon o bethau i’w gwneud.

Dysgwch am hanes Rhufeinig Caer ar daith gerdded o amgylch waliau’r ddinas, sef y waliau dinas hynaf, yr hiraf a’r rhai mwyaf cyflawn ym Mhrydain. Llwythwch yr ap Chester Walls Quest i lawr i gael heriau, ffeithiau diddorol a straeon ar hyd y daith, neu ewch ar daith dywys Rufeinig gyda’ch Canwriad eich hun. Ewch i ymweld ag Amffitheatr Rufeinig fwyaf Lloegr, sy’n rhad ac am ddim. Yna, cewch ymgolli mewn creiriau archaeolegol yn Amgueddfa Grosvenor.

Sw Caer - gallwch fynd i weld yr adar ysglyfaethus anhygoel ar dir y gadeirlan gyda phrofiad hebogyddiaeth i’r teulu cyfan. Mae yno arddangosfeydd hedfan dyddiol, ymlusgiaid, gerddi ysblennydd a llwybrau natur i blant.

Siopa am drysorau a bargeinion - mae Caer yn fwrlwm o siopau boutique, siopau annibynnol a siopau'r stryd fawr. O lwybrau pren gorchuddiedig The Rows i farchnad Siopau Dylunwyr Cheshire Oaks i’r gogledd o’r ddinas, rydych chi’n siŵr o ddod o hyd i rywbeth arbennig, faint bynnag rydych chi am ei wario. Neu ewch i Farchnad Dan Do Caer i gael unrhyw beth o gynnyrch lleol ffres, llyfrau a cherddoriaeth i wisgoedd ffansi, nwyddau i’r cartref a nwyddau i’r ardd.

Gwyliau a sioeau - mae rhaglen flwyddyn gyfan o ddigwyddiadau ar gyfer y teulu i gyd. Mae theatr awyr agored wrth yr afon yn yr haf, amrywiaeth o wyliau bwyd, cerddoriaeth, ffilmiau a llenyddiaeth, yn ogystal â theatr, llyfrgell, bwyty a sinema Storyhouse.

Trefnwch eich taith - gwybodaeth am yr hyn sydd ymlaen yng Nghaer

 

Teithiwch i Gaer ar ein gwasanaethau Dosbarth Cyntaf

Mae ein Gwasanaeth Dosbarth Cyntaf rhwng Caerdydd a Chaergybi yn galw yng Nghaer. Beth am ddifetha eich hun ar eich taith? Mae ein gwasanaeth bwyd Dosbarth Cyntaf yn cynnwys prydau clasurol sy’n cael eu gweini gan ein staff cyfeillgar a chroesawgar. 

Mae tocynnau Dosbarth Cyntaf ar gael rhwng Caer a rhai lleoliadau. Cliciwch yma i weld a yw’r rhain ar gael ar gyfer eich taith. 

Gallwch brynu tocyn Dosbarth Cyntaf ar yr ap a’n gwefan, o swyddfa docynnau eich gorsaf neu o beiriannau tocynnau.