Mynd ymlaen i’r prif gynnwys
Read more

Campwaith anorffenedig y gaer sydd bron yn berffaith gymesur  

Mae Biwmares ar Ynys Môn yn enwog am mai yma mae’r castell gorau erioed na’i hadeiladwyd. Hwn oedd yr olaf o’r cadarnleoedd brenhinol a grëwyd gan Edward I yng Nghymru - ac efallai ei gampwaith.  

Yma manteisiodd Edward a’i bensaer James o San Siôr yn llawn ar gynfas gwag, sef y ‘beau mareys’ neu ‘gors hardd’ wrth ymyl Afon Menai. Erbyn hyn, roeddent eisoes wedi adeiladu cestyll mawrion Conwy, Caernarfon a Harlech. Hwn fyddai’n coroni’r cyfan iddynt.

Y canlyniad oedd caer anferth a oedd bron yn berffaith gymesur. Roedd nid llai na phedwar cylch cydganol o amddiffynfeydd aruthrol yn cynnwys ffos llawn dŵr gyda’i doc ei hun. Roedd y waliau allanol yn unig yn frith o 300 o ddolenni saethau.

Ond yn sgil diffyg arian a thrafferthion ar droed yn yr Alban, roedd y gwaith adeiladu wedi chwythu ei blwc erbyn y 1320au. Ni adeiladwyd porthdy’r de na’r chwe thŵr mawr yn yr adran fewnol i’r uchder a fwriadwyd byth. Prin y dechreuwyd porth Llanfaes cyn troi cefn arno.   

Arwydd yw siâp isel arbennig Biwmares felly o freuddwyd heb ei gwireddu’n iawn. Er hynny, mae’n hawlio ei le haeddiannol ar y llwyfan byd-eang yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd Cestyll a Muriau Trefol Edward I.  

Oherwydd mae’r castell hwn yn arbennig - a hynny oherwydd maint ei uchelgais a harddwch ei gyfrannedd. Hwyrach mai castell godidog o anghyflawn Biwmares yw cyflawniad mwyaf pensaer milwrol gorau'r oes.

Mwy am Gastell Biwmares

 

Teithio i Gastell Biwmares ar y trên

Station Icon
Yr orsaf agosaf: Bangor

Location Icon
2 munud o cerdded  > 28 munud ar fws o’r orsaf > 1 munud o cerdded  - gweld y map

Prynu tocynnau - Dydy’r gwasanaeth hwn ddim ar gael yn Gymraeg eto

  • Dim ffioedd archebu
  • Dim tâl am ddefnyddio cerdyn
{{ copy.labels.originErrorMessage }}
{{ copy.labels.destinationErrorMessage }}
{{ copy.labels.booking_assistance_url }} {{ copy.labels.ba }}

Ewch ati i ganfod rhagor o gyrchfannau

Mae Cymru yn cynnig amryw o brofiadau – ewch i grwydro i bob twll a chornel!