Mynd ymlaen i’r prif gynnwys
Read more

Caiff Castell Caernarfon ei gydnabod yn fyd-eang fel un o adeiladau mwyaf godidog y Canol Oesoedd

Dyma gawres o gaer ar lannau Afon Seiont sydd wedi’i grwpio gyda chestyll eraill Edward I yng Nghonwy, Biwmares a Harlech i ffurfio Safle Treftadaeth y Byd. Ond ar sail ei faint anhygoel a’i bensaernïaeth ddramatig, mae Caernarfon yn sefyll ar ei ben ei hun.  

Yma, aeth Edward a’i bensaer milwrol, Meistr James o St George ati i adeiladu castell, muriau tref a chei tua’r un pryd. Cymerodd y prosiect adeiladu enfawr hwn 47 o flynyddoedd, a chostiodd y cyfan £25,000, cryn ffortiwn ar y pryd.   

Adeiladwyd y castell yn sgil y rhyfel chwerw gyda thywysogion Cymru. Felly roedd rhaid i’r waliau trwchus a Phorth y Brenin allu gwrthsefyll unrhyw ymosodiad. Ond roedd y tyrau polygon, yr eryrod cerrig a’r cerrig amryliw yn cyfleu neges fwy cynnil.

Roeddynt yn adleisio pensaernïaeth Rufeinig imperialaidd, ac yn enwedig muriau  Constantinople. Roeddynt hefyd yn adleisio chwedl Macsen Wledig, a’i freuddwyd am gaer ysblennydd wrth aber afon — ‘y gaer odidocaf a welodd dyn erioed’.  

Felly mae Caernarfon yn gastell o freuddwydion. Yn chwedl a ddaeth yn fyw. Ar ôl 700 mlynedd, mae’n dal i gyffroi’r dychymyg yn ei ffordd unigryw ei hun.  

Mwy am Gastell Caernarfon

 

Teithio i Gastell Caernarfon ar y trên

Station Icon
Yr orsaf agosaf: Bangor

Location Icon
1 munud o cerdded  > 27 munud ar fws o’r orsaf > 4 munud o cerdded  - gweld y map

Prynu tocynnau - Dydy’r gwasanaeth hwn ddim ar gael yn Gymraeg eto

  • Dim ffioedd archebu
  • Dim tâl am ddefnyddio cerdyn
{{ copy.labels.originErrorMessage }}
{{ copy.labels.destinationErrorMessage }}
{{ copy.labels.booking_assistance_url }} {{ copy.labels.ba }}

Ewch ati i ganfod rhagor o gyrchfannau

Mae Cymru yn cynnig amryw o brofiadau – ewch i grwydro i bob twll a chornel!