Caer-balas Gymreig wedi’i thrawsnewid yn breswylfa frenhinol
Amlinell ddigamsyniol Rhaglan yn coroni cefnen yng nghanol cefn gwlad gogoneddus yw’r castell crandiaf a adeiladwyd erioed gan y Cymry.
I Syr William ap Thomas, neu’r ‘marchog glas o Went’, y mae’r diolch am Dŵr Mawr amffosog 1435 sy’n dal i daflu ei gysgod dros y gaer-balas nerthol hon. Ei fab yntau, Syr William Herbert, Iarll Penfro, a greodd y porthdy gyda’i ‘rhyngdyllau’ ymledol.
Roedd y bwâu carreg hyn yn golygu y gallai taflegrau fwrw i lawr ar ymosodwyr. Ond daeth Rhaglan 150 o flynyddoedd yn ddiweddarach nag oes aur derfysglyd adeiladu cestyll. Fe’i dyluniwyd i greu argraff gymaint ag i frawychu.
O dan amrywiol ieirll Caerwrangon, trawsnewidiwyd Rhaglan yn ganolfan wledig fawreddog a chanddi oriel hir ffasiynol ac un o’r gerddi Dadeni tecaf ym Mhrydain. Ond ffyddlondeb i’r goron fyddai’n ei ddistrywio.
Er gwaethaf garsiwn o 800 o ddynion ac un o warchaeau hiraf y Rhyfel Cartref, cwympodd i luoedd seneddol ac fe’i dinistriwyd yn bwrpasol. Ymhlith y trysorau yn eu celc oedd darn o banel pren Tuduraidd, a arddangosir yn falch bellach yn y ganolfan ymwelwyr ar ôl cael ei achub o sied wartheg yn y 1950au.
Teithio i Gastell Rhaglan ar y trên
Yr orsaf agosaf: Y Fenni
3 munud o cerdded > 25 munud ar fws o’r orsaf > 13 munud o cerdded - gweld y map
Prynu tocynnau - Dydy’r gwasanaeth hwn ddim ar gael yn Gymraeg eto
Ewch ati i ganfod rhagor o gyrchfannau
Mae Cymru yn cynnig amryw o brofiadau – ewch i grwydro i bob twll a chornel!
-
Blwyddyn y Môr Dewch i ddarganfod
-
Stadiwm Principality Dewch i ddarganfod
-
Stadiwm Dinas Caerdydd Dewch i ddarganfod
-