Mynd ymlaen i’r prif gynnwys
Read more

Campwaith peirianyddol anhygoel sy’n dal i dra-arglwyddiaethu uwchlaw Afon Clwyd

Hoffai’r Brenin Edward i'w gestyll fod wedi’u lleoli ar yr arfordir. Roedd hynny’n fwy diogel. Pe bai ei ymgyrch ddidostur i daro'r Cymry yn mynd yn drafferthus, yna byddai modd o hyd i unrhyw gyflenwadau gyrraedd ar y môr.

Yn Rhuddlan, ymhell ynghanol y berfeddwlad, y bwriad yn hytrach oedd defnyddio afon. Ond roedd yna broblem - doedd afon droellog Clwyd ddim yn hollol yn y lle iawn. Felly dyma Edward yn gorfodi cannoedd o gloddwyr ffosydd i ddyfnhau a dargyfeirio’i chwrs.

Dros saith ganrif yn ddiweddarach mae Rhuddlan yn dal i edrych fel c Yr orsaf agosaf astell y bu’n werth symud afon ar ei gyfer. Dechreuwyd adeiladu yn 1277, a hwn oedd y cyntaf o'r cestyll consentrig chwyldroadol, neu’r cestyll ‘muriau o fewn muriau’, a gynlluniwyd gan y prif bensaer James of St George.

Y cadarnle mewnol siâp diemwnt gyda’i borthdai â’u dau dŵr oedd y rhan fwyaf trawiadol. Roedd y cadarnle hwn wedi’i leoli y tu mewn i gylch o furiau â thyrrau is. Ymhellach y tu hwnt iddo, ceid ffos sych ddofn wedi’i chysylltu ag Afon Clwyd.

Roedd y datganiad garw hwn o fryd a bwriad Edward yn gwarchod tref newydd a chanddi amddiffynfeydd ffos o’i hamgylch. Mae amlinelliad clir o gynllun grid canoloesol y strydoedd i’w weld hyd heddiw yn Rhuddlan.

Mwy am Gastell Rhuddlan

 

Teithio i Gastell Rhuddlan ar y trên

Station Icon
Yr orsaf agosaf: Rhyl

Location Icon
1 munud o cerdded  > 13 munud ar fws o’r orsaf > 4 munud o cerdded  - gweld y map

Prynu tocynnau - Dydy’r gwasanaeth hwn ddim ar gael yn Gymraeg eto

  • Dim ffioedd archebu
  • Dim tâl am ddefnyddio cerdyn
{{ copy.labels.originErrorMessage }}
{{ copy.labels.destinationErrorMessage }}
{{ copy.labels.booking_assistance_url }} {{ copy.labels.ba }}

Ewch ati i ganfod rhagor o gyrchfannau

Mae Cymru yn cynnig amryw o brofiadau – ewch i grwydro i bob twll a chornel!