Teithio'n Saffach gyda thocynnau tymor ar Gerdyn Clyfar

Teithiwch yn ddigyswllt mor aml ag y dymunwch ac arbed arian gyda thocynnau Tymor wythnosol, misol a blynyddol.

  1. Prynwch eich tocyn tymor ar ein ap neu ar ein gwefan 
  2. Llwythwch docynnau ar eich Cerdyn Clyfar TrC drwy ei daro ar darllenydd Cerdyn Clyfar mewn gorsaf neu ar eich ffôn clyfar.
  3. Rydych chi’n barod i fynd

Trefnwch eich Cerdyn Clyfar heddiw trwy greu cyfrif/mewngofnodi i’ch cyfrif cyfredol.  Ar ôl creu cyfrif/mewngofnodi, gallwch reoli eich Cardiau Clyfar a chlicio i archebu Cerdyn Clyfar newydd.

 

Sut mae Cerdyn Clyfar yn gweithio?

1. Prynu eich tocyn

  • Gallwch brynu tocynnau ar-lein, yn unrhyw un o’n peiriannau gwerthu tocynnau o 1 Ebrill 2020 ymlaen, a gallwch eu prynu yn y rhan fwyaf o swyddfeydd gwerthu tocynnau.
  • Os ydych chi wedi prynu eich tocyn ar-lein drwy ein gwefan neu’r ap, dewiswch ‘Cerdyn Clyfar’ fel y dull danfon
  • Mae rhai Wythnosol, Misol a Blynyddol ar gael ar y llwybrau canlynol:
    • Llwybr Ar gael ar Gerdyn Clyfar o
      Caerdydd* - Penarth 1 Ebrill 2019
      Caer  - Amwythig 1 Ebrill 2019
      Caerdydd* - Rhymni 1 Medi 2019
      Caerdydd* - Ynys y Barri 1 Medi 2019
      Caerdydd* - Abertawe 1 Medi 2019
      Caerdydd* - Aberdâr 1 Tachwedd 2019
      Caerdydd* - Treherbert 1 Tachwedd 2019
      Caerdydd* - Parcffordd Glynebwy 1 Ionawr 2020
      Caerdydd* - Maesteg 1 Ionawr 2020
      Caerdydd* - Bae Caerdydd 1 Ionawr 2020
      Caerdydd* - Merthyr Tudful 1 Ionawr 2020
      Caerdydd* - Abertawe** / Cyffordd Twnnel Hafren 1 Ionawr 2020
      Caerdydd* - Pen-y-bont ar Ogwr (via Y Barri) 1 Ionawr 2020
      City Line (Coryton - Radur) 1 Ionawr 2020
      Caerdydd* - Amwythig 1 Mehefin 2020
      Abertawe - Caerfyrddin 1 Mehefin 2020
      Amwythig - Manchester Piccadilly 1 Mehefin 2020
      Caerfyrddin - West Wales 1 Mehefin 2020
      Caer - Caergybi 1 Mehefin 2020
      Aberystwyth - Amwythig 1 Mehefin 2020
      Lydney 1 Mehefin 2020

      *Caerdydd Canolog a Caerdydd Heol y Frenhines
      **7 Diwrnod Dosbarth Cyntaf hefyd ar gae

2. Llwytho eich tocynnau

  • Os byddwch chi’n prynu o unrhyw un o’n peiriannau gwerthu tocynnau, llwythwch eich tocyn ar eich cerdyn pan fydd yn gofyn i chi wneud hynny - Dewiswch cerdyn clyfar o’r hafan a dal eich cerdyn wrth y darllenydd cardiau.
  • Swyddfa Docynnau - Bydd y cerdyn clyfar yn cael ei roi ar y darllenydd a bydd y tocyn yn cael ei lwytho pan fydd y cerdyn yn cael ei ddarllen
  • Bydd eich tocyn ar gael i’w lwytho ar eich cerdyn clyfar, a fydd yn rhoi mynediad i’r giât i chi
  • Os bydd tocynnau tymor yn cael eu harchebu drwy'r wefan, mae modd eu llwytho ar gerdyn clyfar drwy ddefnyddio ein ap pan fyddwch chi wedi cysylltu â WiFi. Sut mae llwytho cerdyn clyfar gan ddefnyddio eich ffôn
  • Sut mae llwytho cerdyn clyfar gan ddefnyddio'ch ffôn
    • 1) Newid ar NFC.
    • 2) Mewngofnodwch i Ap TrC a chlicio ar yr eicon hafan.
    • 3) Cliciwch ar yr eicon clyfar.
    • Smart icon
    • 4) Bydd y sgrin yn gofyn i chi ddangos eich cerdyn clyfar.
    • Present Smartcard

 

3. Tapio a Mynd

  • Mae eich Cerdyn Clyfar yn barod i’w ddefnyddio. Dangoswch eich Cerdyn Clyfar i’r darllenydd wrth y gatiau tocynnau, a’i dapio wrth y gatiau pan fyddwch yn gadael yr orsaf ar ddiwedd eich taith. Bydd angen i chi ddangos eich cerdyn i gael ei archwilio pan fydd y goruchwyliwr yn dod o gwmpas

Transport for Wales Smartcard front view

 

 

 

 

 

 

 

Pam Dewis Cerdyn Clyfar?

  • Teithio’n Gyflymach - Gwibio drwy’r Orsaf Gallwch brynu eich tocyn yn un o’n peiriannau gwerthu tocynnau a thapio i mewn ac allan mewn gorsafoedd.
  • Gwydn a dibynadwy - Cewch ffarwelio â thocynnau papur wedi’u difrodi ac oedi wrth y gatiau tocynnau. Mae popeth wedi'i lwytho ar eich Cerdyn Clyfar gwydn.
  • Tawelwch meddwl - Wedi colli eich Cerdyn Clyfar?  Ffoniwch ein tîm ar 03333 211 202. Gall cwsmeriaid barhau i ffonio'r rhif i ofyn am ad-daliad am docyn tymor neu Gerdyn Clyfar; fodd bynnag, ni all Traveline Cymru, JourneyCall na chanolfannau cyswllt Cysylltiadau Cwsmeriaid archebu cerdyn clyfar newydd i gwsmeriaid.  Dim ond y cwsmer ei hun all wneud hynny trwy ei gyfrif.
  • Treial am ddim - mae Cerdyn Clyfar TrC yn rhad ac am ddim.

Trefnwch eich Cerdyn Clyfar heddiw trwy greu cyfrif/mewngofnodi i’ch cyfrif cyfredol. Ar ôl creu cyfrif/mewngofnodi, gallwch reoli eich Cardiau Clyfar a chlicio i archebu Cerdyn Clyfar newydd.