Am £4.80 yn unig, cewch fwynhau teithio di-ben-draw ar yr un diwrnod ar drenau yn ardal Caerdydd a Phenarth, yn ystod cyfnodau tawelach, gyda'n tocyn trên diwrnod, Crwydro'r Brifddinas. 

Mae'n fwy hyblyg ac mae'n cynnig gwell gwerth am arian na phrynu tocyn dwyffordd neu wahanol gyfuniadau o docynnau unffordd pan fyddwch chi'n teithio yn ystod cyfnodau tawelach.

 

Prisiau

  Oedolyn Plentyn Cerdyn Rheilffordd*
Crwydro'r Brifddinas £5 £2.50 £3.30

 

Ble mae prynu tocyn trên diwrnod Crwydro'r Brifddinas

Mae modd I chi brynu tocyn trên diwrnod Crwydro'r Brifddinas yn ein swyddfeydd tocynnau neu ar y trên os nad oes cyfleusterau prynu tocynnau pan fyddwch chi'n cychwyn eich taith. I brynu ymlaen llaw, ffoniwch 08448 560 688 neu e-bostiwch y tîm - tms@tfwrail.wales.

 

Ble gallaf ei ddefnyddio?

Mae ein tocynnau trên diwrnod Crwydro'r Brifddinas yn ddilys i'w defnyddio yn ardal Caerdydd a Phenarth rhwng unrhyyw rai o'r gorsafoedd hyn:

Llwynbedw Heol Dingle Parc Ninian
Cogan Eastbrook Penarth
Coryton Y Tyllgoed Radur
Bae Caerdydd Grangetown Rhiwbeina
Caerdydd Canolog Lefel Uchel y Mynydd Bychan Tŷ Glas
Caerdydd Heol y Frenhines Lefel Isel y Mynydd Bychan Parc Waun-Gron
Cathays Llandaf Yr Eglwys Newydd
Danescourt Llanisien  

Map llwybr ar gyfer Rheilffordd Caerdydd a'r Cymoedd

 

Telerau ac amodau

  • Nid yw'n ddilys cyn 09:30 na rhwng 16:00 a 18:30 o ddydd Llun i ddydd Gwener.
  • Mae'n ddilys unrhyn dro ar benwythnosau ac ar wyliau banc.
  • Arbedwch hyd at 1/3 gyda Cherdyn Rheilffordd.
  • Mae plant rhwng pump a phymtheg oed yn cael 50% oddi ar bris tocyn oedolyn safonol.
  • Caiff plant pedair oed ac iau deithio am ddim gyda deiliad tocyn.
  • Pris yn ddilys hyd at 31 Rhagfyr 2024.