Mynd ymlaen i’r prif gynnwys

Gemau Rygbi Rhyngwladol Hydref 2018 Stadiwm Principality, Caerdydd

dechrau am 14:45

Bydd y trenau yn ardal Caerdydd yn brysur drwy’r dydd

  • Os ydych chi’n mynd i un o’r gemau, teithiwch i Gaerdydd cyn gynted ag sy'n bosib
  • Bydd system ciwio ar waith ar ôl y gemau yng ngorsaf Caerdydd Canolog a gorsaf Heol y Frenhines
  • Bydd Swyddog Diogelu Refeniw yn patrolio'r rhwydwaith, gwnewch yn siŵr bod gennych chi docyn teithio dilys cyn mynd ar eich trên.
     

Deg Cyngor Doeth ar gyfer teithio i’r gêm

  • Rhowch ddigon o amser ar gyfer eich siwrnai.
  • Ewch yn ôl i’r orsaf cyn gynted a phosib ar ôl y digwyddiad.
  • Cofiwch y gallwch fod yn ciwio am hyd at naw deg munud am eich trên ond byddwch yn amyneddgar os gwelwch yn dda – eich diogelu chi ydi nod y system giwio.
  • Prynwch eich tocyn dychwelyd ymlaen llaw i osgoi rhagor o oedi mewn gorsafoedd. Mae tocyn dychwelyd yn rhatach na dau sengl yn aml!
  • Meddyliwch am y tywydd pan fyddwch yn ciwio (h.y. dewch ag ymbarél a dillad cynnes).
  • Cofiwch fod toiledau dros dro ar gael i deithwyr y tu allan i’r orsaf, ym mhob un o’r tri maes parcio. Hefyd mae toiledau i deithwyr ar bob platfform.
  • Os oes arnoch angen cymorth wrth deithio ar y trên, rhowch wybod i ni ymlaen llaw.
  • Os nad ydych yn mynd i’r digwyddiad, osgowch deithio i ac o orsaf Canol Caerdydd ar y diwrnod hwnnw.
  • Bydd pob trên sydd ar gael allan yn gweithio ond bydd y gwasanaethau’n eithriadol brysur ac efallai y bydd rhaid i chi sefyll am rywfaint o’ch siwrnai, neu’r siwrnai gyfan.
  • Cofiwch nad yw ysmygu (gan gynnwys e-sigarennau) yn cael ei ganiatáu yn unrhyw le yn eiddo Trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys ar y trenau ac yn y gorsafoedd.

Prynu tocynnau - Dydy’r gwasanaeth hwn ddim ar gael yn Gymraeg eto

  • Dim ffioedd archebu
  • Dim tâl am ddefnyddio cerdyn
{{ copy.labels.originErrorMessage }}
{{ copy.labels.destinationErrorMessage }}
{{ copy.labels.booking_assistance_url }} {{ copy.labels.ba }}