Mynd ymlaen i’r prif gynnwys
Read more

Drwy weithio mewn partneriaeth â Cadw, rydym yn cynnig mynediad 2 am bris 1 i bob un o'r o safleoedd treftadaeth hyn.

Mae gennym rai o'r cestyll gorau yn y byd yng Nghymru, a rhai o'r cestyll harddaf hefyd. Heb sôn am yr abatai, yr eglwysi, y capeli, a rhai o'r henebion mwyaf atmosfferig sydd wedi bod yn denu ymwelwyr ers canrifoedd.

Drwy weithio mewn partneriaeth â Cadw, rydym yn cynnig mynediad 2 am bris 1 i bob un o'r o safleoedd treftadaeth hyn – gallwn sicrhau y cewch ddiwrnod i’r brenin! Dewch i archwilio bob un o’r 130 o safleoedd Cadw yma

Felly dyma’ch cyfle eleni i ddarganfod hanesion, chwedlau a straeon bythgofiadwy am rai o atyniadau mwyaf anhygoel Cymru. Y cyfan y mae'n rhaid i chi ei wneud yw cyflwyno tocyn trên dilys.

 

  • Gweler y telerau ac amodau
      • Cymhwysedd: Mae'r Cynnig yn agored i bob oedolyn 18 oed neu hŷn, ac eithrio gweithwyr yr Hyrwyddwyr a'u cydweithwyr neu eu hasiantau, teuluoedd uniongyrchol cyflogeion o'r fath ac unrhyw un arall sy'n gysylltiedig â'r Hyrwyddiad.
      • Mae'r Hyrwyddwr yn cadw'r hawl i ganslo neu newid yr Hyrwyddiad neu'r Telerau ac Amodau hyn ar unrhyw adeg cyn i'r cyfnod hyrwyddo ddod i ben. Mae'r cynnig ar gael i unrhyw un sydd wedi teithio ar y trên i unrhyw un o'r 20 o safleoedd Cadw â staff a restrir sydd â thâl mynediad
      • Rhaid i'r tocyn trên fod yn ddilys ar gyfer y diwrnod hwnnw. Gall hyn gynnwys tocynnau tymor dilys, tocynnau dwyffordd, tocynnau dwyffordd agored, tocynnau wythnosol, tocynnau crwydro, carnet/multiflex a thocynnau y tu allan i'r cyfnod brig. Bydd tocynnau ar ffonau symudol a derbynebau hefyd yn cael eu derbyn
      • Bydd tocynnau ar gyfer gwasanaethau nad ydynt yn rhai Trafnidiaeth Cymru hefyd yn cael eu derbyn, ond nid yw'r cynnig yn cynnwys rheilffyrdd treftadaeth na hamdden
      • Bydd y tocyn yn galluogi un unigolyn i gael mynediad am ddim, ac mae angen rhagor o docynnau trên dilys ar gyfer grwpiau dros ddau
      • Ddim yn ddilys ar y cyd ag unrhyw gynnig arall
      • Hyrwyddwr:
        Cadw Llywodraeth Cymru, Plas Caeriw, Uned 5/7 Cefn Coed, Parc Nantgarw, Caerdydd, CF15 7QQ

Oeddech chi’n gwybod?

  • Oeddech chi’n gwybod?
    Tocynnau Multiflex
    Yw’r tocyn Unffordd rhataf ar gyfer cannoedd o deithiau rheolaidd
    Dim ond ar gael ar ein Ap
  • Oeddech chi’n gwybod?
    Mae gan Gymru lawer i’w gynnig
    Darganfod hyd a lled rhwydwaith Trafnidiaeth Cymru
    Archwiliwch ein Rhwydwaith
  • Oeddech chi’n gwybod?
    Dim ffioedd archebu
    Archebwch yn uniongyrchol gyda ni i arbed arian ar eich siwrnai
    TfW Smartcards