Birmingham

Yn fwrlwm o ddiwylliant ac amrywiaeth, mae Birmingham yn lle delfrydol i fynd iddo am ddiwrnod neu wyliau penwythnos.

Mae ail ddinas fwyaf y DU yn llawn amgueddfeydd ac orielau, adloniant o’r radd flaenaf, a chanolfannau siopa. Hefyd, gallwch fwynhau bwyd a diod gwych yn un o dai bwyta niferus Birmingham neu’r bariau crefft a bragdai ffasiynol.

 

Pori heb borwr

Dewch i ni fynd yn ôl i amser go iawn a mwynhau pori heb borwr. Gall ein trenau fynd â chi i rai o gyrchfannau siopa gorau’r DU, felly gallwch chi fwynhau rhywfaint o therapi siopio heb unrhyw ddiffygion technegol.

Dafliad carreg o Birmingham New Street, fe ddewch chi o hyd i’r Bullring a’r Grand Arcade, lle mae llwythi o siopau’r stryd fawr a digonedd o siopau bwyd a diod. Mae Birmingham hefyd yn gartref i’r diwydiant gemwaith ym Mhrydain. Dim ond 20 munud o waith cerdded sydd yna o orsaf New Street i Ardal Gemwaith Birmingham, felly mae digonedd o resymau dros fynd i chwilio am rywbeth sy’n dwyn eich ffansi.

 

Gwerth eu gweld

  • Mae NEC Birmingham yn arena fyd-enwog sy’n cynnal y digwyddiadau, yr arddangosfeydd a’r sioeau gorau gydol y flwyddyn.
  • Cadbury World diwrnod allan llawn hwyl a danteithion. Y tu ôl i’r llenni yn y cwmni gwneud siocled hwn - ewch ar daith o’i amgylch neu rhowch gynnig ar wneud siocled.
  • Antur ddyfrol i’r teulu i gyd ei mwynhau yw’r National Sealife Aquarium yn Birmingham. Os archebwch chi ar-lein ymlean llaw gallwch arbed hyd at 40% ar y pris mynediad.

 

Penwythnos yn Birmingham

Yn frith o gamlesi, gyda chanolfannau siopa gwych a diwylliant cyfoethog, mae Birmingham yn un o’r dinasoedd gorau ar gyfer gwyliau penwythnos.

Os ydych yn dod i siopa, y prif gyrchfan yn Birmingham yw’r Bullring. Lai na 3mun o gerdded o orsaf Birmingham New Street. Mae dros 200 o siopau yn y ganolfan siopa hon, felly rydych yn siŵr o ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano.

Beth am fynd am dro o amgylch Chwarter Gemwaithhanesyddol Birmingham. Wedi’i ddisgrifio gan English Heritage fel ‘trysor cenedlaethol’, yma fe welwch chi grefftwyr sy’n gwneud darnau hardd o emwaith.

Neu os ydych yn chwilio am fwy o ddiwylliant a hanes, mae yma amrywiaeth eang o amgueddfeydd ac orielau celf i’w mwynhau, sy’n cynnal arddangosfeydd a digwyddiadau gydol y flwyddyn.

A chofiwch roi cynnig ar rai o dai bwyta arbennig Birmingham. Mae digonedd o fathau gwahanol o fwydydd i ddewis o’u plith, yn cynnwys Tsieineaidd, Groegaidd, Eidalaidd ac Ethiopiaidd. Hefyd, mae llu o dai bwyta Indiaidd rhagorol yn Nhriongl Balti Birmingham. Ac i fwynhau rhywbeth arbennig wedyn, beth am geisio dod o hyd i un o fariau cudd Birmingham.