Dosbarth Cyntaf Amdani

Mae tocynnau trên Dosbarth Cyntaf yn rhoi’r gwasanaeth gorau i gwsmeriaid a’r daith fwyaf cyfforddus.

Boed chi'n teithio ar gyfer busnes neu bleser, mae ein tocynnau Dosbarth Cyntaf yn cynnig y profiad teithio gorau. Mae'r seddi’n fwy cyfforddus ac yn rhoi mwy o le i chi, ac mae bwyd a diod unigryw ar gael ar rai llwybrau.

Mae ein gwasanaethau Dosbarth Cyntaf bellach ar gael ar rhai teithiau rhwng Caerdydd a Chaergybi a Chaerdydd a Manceinion, felly ni fu erioed amser gwell i wneud y gorau o'ch amser teithio.

Taith

Prisiau o

Abertawe i Fanceinion £56.40
Caerdydd Canolog i Fanceinion £48.40
Casnewydd i Fanceinion £45.00
Henffordd i Fanceinion £32.70 
Bangor i Gaerdydd Canolog £55.20
Caer i Gaerdydd Canolog £41.20
Amwythig i Gaerdydd Canolog £30.60

 

 
First-class
Coeliwch neu beidio, bwyd trên yw hwn

Cewch eich synnu gan yr hyn y gallwch ei archebu ar ein gwasanaeth Dosbarth Cyntaf. Mae ein cogyddion talentog yn creu bwydlenni tymhorol gwych gyda chynhwysion lleol er mwyn darparu’r gwasanaeth arlwyo gorau posibl ar y trên. Eisteddwch yn ôl a mwynhau pryd o fwyd ffres wrth i chi wibio heibio tirwedd Cymru a’r gororau.

Mae lluniaeth a byrbrydau wedi’u cynnwys yng nghost eich tocyn, ond bydd cost ychwanegol am bryd bwyd. Darganfod ein gwasanaeth bwyd Dosbarth Cyntaf.

 

Awydd uwchraddio eich tocyn?

Lle bo hynny’n berthnasol, gallwch uwchraddio o docyn Dosbarth Safonol i docyn Dosbarth Cyntaf ar ein gwasanaethau. Mae hyn yn berthnasol i bob un o’n tocynnau Safonol, gan gynnwys tocynnau unffordd, tocynnau dwyffordd, Advance ac Unrhyw Bryd, tocynnau Tymor a thocynnau Rover a Ranger.

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw rhoi gwybod i’r goruchwyliwr eich bod eisiau uwchraddio, ac fe fyddan nhw’n cadarnhau a oes lle ar gael yn y Dosbarth Cyntaf ai peidio. 

Os ydych chi wedi uwchraddio i’r Dosbarth Cyntaf, cofiwch y bydd cost ychwanegol hefyd am unrhyw brydau y byddwch yn eu harchebu ar y trên.

 

Pa docynnau trên Dosbarth Cyntaf sydd ar gael?

Rydyn ni’n cynnig tocynnau Dosbarth Cyntaf hyblyg Unrhyw Bryd a Cyfnodau Tawel unffordd a dwyffordd, sy’n caniatáu i chi deithio ar ba bynnag amser sy’n gyfleus i chi, sy’n berffaith os yw eich cynlluniau’n debygol o newid. Rydyn ni hefyd yn cynnig tocynnau Dosbarth Cyntaf Advance rhatach ond dim ond nifer cyfyngedig o’r rhain sydd ar gael.

Gallwch hefyd uwchraddio i’r Dosbarth Cyntaf. Rhowch wybod i’r goruchwyliwr pan fyddwch chi ar y trên a byddwch chi’n gallu prynu tocyn uwchraddio os oes lle ar gael. Dim ond nifer cyfyngedig o docynnau Dosbarth Cyntaf sydd ar gael ac maen nhw’n cael eu cynnig ar sail y cyntaf i’r felin.

 

Sut mae prynu tocyn Dosbarth Cyntaf?

Gallwch chi brynu tocyn Dosbarth Cyntaf Unffordd neu Ddwyffordd fel y byddech chi’n prynu tocyn Safonol: ar ein ap, ein gwefan, neu yn y swyddfeydd tocynnau neu’r peiriannau hunanwasanaeth yn ein gorsafoedd.

Cofiwch eich bod yn gallu prynu tocynnau ar gyfer pob gwasanaeth trên ar draws y Deyrnas Unedig gennym ni. Felly os byddwch chi'n mynd o Gaerdydd i Gaergybi, neu o Newcastle i Paddington, gallwch chi brynu eich tocynnau Dosbarth Cyntaf gennym ni a manteisio ar beidio â gorfod talu ffioedd archebu.

Ni chaniateir cŵn yn ein cerbyd Dosbarth Cyntaf oherwydd ein gwasanaeth bwyd a diod ar y trên. Ymddiheurwn am unrhyw anhwylustod.

 

Gwasanaethau Dosbarth Cyntaf

Mae gennym wasanaeth Dosbarth Cyntaf rhwng gorsafoedd Abertawe a Manceinion, a gorsafoedd Caerdydd a Chaergybi. 

Dyma’r gwasanaethau sydd ar gael yn ystod yr wythnos: 

  • 6 gwasanaeth dwyffordd rhwng Caerdydd a Manceinion
  • 2 wasanaeth rhwng Caerdydd a iChaergybi
  • 1 gwasanaeth rhwng Caergybi a Chaerdydd

Dyma’r gwasanaethau sydd ar gael ar y penwythnos: 

  • 6 gwasanaeth dwyffordd rhwng Caerdydd a Manceinion
  • 1 gwasanaeth rhwng Abertawe a Manceinion ar ddydd Sadwrn 
  • 2 wasanaeth pob ffordd rhwng Abertawe a Manceinion ar ddydd Sul

O ddefnyddio’n cynlluniwr teithiau, gallwch ddarganfod pa wasanaethau sy’n cynnig gwasanaeth Dosbarth Cyntaf a dod o hyd i’r trenau sydd â thocynnau Dosbarth Cyntaf.

 

Hygyrchedd

Mae gennym ddau le i gadair olwyn ar y trên a thoiledau sy’n addas i gadeiriau olwyn. Mae drysau’r trenau hyn wedi’u pweru.

Gall ein tîm Cymorth wrth Deithio ddarparu rhagor o gyngor a chymorth i chi gynllunio eich taith.

  • Gweld manylion hygyrchedd y trên
    • Cynllun y cerbyd

      Diagram of the carriage layout of a Mark 4

      Hygyrchedd

      Access ramp icon Ramp mynediad Oes 
      Assistance button icon Botwm cymorth Oes 
      Priority seating icon Seddi â blaenoriaeth Oes
      Wheelchair users spcae icon Lle i ddefnyddwyr cadair olwyn 2
      Universal toilet icon Toiled hygyrch 1
      Lled y drws (mm) 800
       

      Llwybrau

      • Caerdydd - Caergybi

      • Cynlluniau ar gyfer rhedeg Abertawe - Manceinion Piccadilly yn y dyfodol (o fis Rhagfyr 2022)

      Dyma’r llwybrau mwyaf cyffredin, ond gallen nhw newid.

      Route map of where the Mark 4 trains run on Transport for Wales

      Beth sydd y tu mewn

      Lle newid babanod Oes
      Lle i feiciau 4
      Capacity icon
      Capasiti 222
      Arlwyo - wrth y sedd (gwasanaethau dethol yn unig) Oes
      Socedi gwefru
      3-phin yn unig
      Oes 
      Annerch y Cyhoedd Oes
      Restaurant car icon
      Cerbyd bwyty Oes
      Seddi | dosbarth safonol 182
      Seddi | dosbarth cyntaf 40
      Seddi - blaenoriaeth Oes
      Toiled hygyrch 1
      Toiled – ddim yn addas i gadeiriau olwyn 3
      Sgriniau Gwybodaeth Weledol Oes
      Lle i ddefnyddwyr cadair olwyn 2
      Wi-Fi Oes

       

 

*Mae tocynnau yn amodol ar argaeledd.  Prisiau tocynnau Advance yw'r prisiau a nodir, ac maent yn ddilys tan 29/02/2024 ac yn debygol o newid ar ôl y dyddiad hwn.