Wedi colli rhywbeth ar eich taith?

Os ydych chi wedi colli eitem neu eitemau ar un o’n trenau neu mewn un o’n gorsafoedd yn ddiweddar, byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i’ch helpu i ddod o hyd i'ch eiddo.

Rydym wedi ffurfio partneriaeth gyda MissingX yn ddiweddar, y prif ddarparwr yn y byd ar gyfer systemau eitemau coll, a gyda Zero Burden Service i helpu i sicrhau bod y broses o gael eich pethau’n ôl yn un mor rhwydd â phosibl.

Chwilio am eich eitem goll neu ei chofrestru

 

Defnyddiwch ein system eiddo coll i chwilio am eich eitem neu'ch eitemau, gan ddefnyddio’r ddolen uchod.

1. Os yw’ch eitem neu’ch eitemau wedi cael eu canfod ar ein rhwydwaith, byddan nhw’n ymddangos ar ôl i chi chwilio, a byddwch yn gallu eu hawlio.

2. Os nad yw’r eitem neu’r eitemau yn ymddangos ar y system ar ôl y tro cyntaf i chi chwilio, bydd angen i chi eu cofrestru i gofnodi eu bod ar goll. Sylwch nad yw’r system hon yn gallu delio â darllenwyr sgrin ar hyn o bryd.

3. Bydd hyn yn cael ei gofnodi yn ein cronfa ddata, a byddwn ni’n cysylltu â chi eto os byddwn ni’n dod o hyd i’ch eiddo yn y cyfamser.

Os oes dros 4 wythnos wedi mynd heibio ers i chi golli’ch eitem neu'ch eitemau, ond eu bod wedi cael eu canfod ar ein rhwydwaith yn ystod y cyfnod hwnnw, erbyn hyn byddan nhw wedi cael eu trosglwyddo i’n partner Zero Burden Service i’w cadw am weddill y cyfnod storio o 12 wythnos.

 

Dychwelyd eich eitem neu’ch eitemau

Mae unrhyw eitemau coll sy’n cael eu canfod ar ein rhwydwaith ar drenau neu mewn gorsafoedd yn cael eu trosglwyddo i’n ‘prif orsafoedd’ a’u cofnodi yn ein system fewnol, cyn cael eu trosglwyddo i’n Swyddfa Eiddo Coll yng Nghasnewydd. Gall y broses hon gymryd ychydig ddyddiau, felly byddwch yn amyneddgar a pheidiwch â rhoi’r ffidil yn y to.

Os ydym wedi dod o hyd i’ch eitem, gallwch drefnu bod yr eitem yn cael ei dychwelyd i chi drwy gludwr, neu ddod i’w chasglu’n bersonol o’n Swyddfa Eiddo Coll yng Nghasnewydd.

 

Manylion Swyddfa Eiddo Coll

Cyfeiriad

Swyddfa Eiddo Coll Casnewydd
Gorsaf Drenau Casnewydd
Queensway
Casnewydd
NP20 4AX

Oriau agor

Dydd Llun - dydd Gwener 10am-4pm.

Bydd ein swyddfa eitemau coll ar gau rhwng 16:00 dydd Gwener 23 Rhagfyr nes 10:00 ddydd Llun 2 Ionawr

Ffioedd Eiddo Coll

Rydym yn codi ffi fechan o £2 am bob eitem.

Mae’n bosibl y bydd ffioedd Zero Burden Service i’w talu hefyd os yw’r eitem wedi bod yn storfa Zero Burden Service. Sylwch nad oes modd i chi nac i gludydd fynd i gasglu eitemau yn Zero Burden Service. Rhaid trefnu hyn drwy’r Swyddfa Eiddo Coll.

Ffôn

03333 211 202 (codir pris galwad leol o ffôn BT)

Dim ond ar gyfer teithwyr nad ydynt yn gallu defnyddio’r system MissingX y mae’r rhif hwn yn addas, er enghraifft y rheini sydd heb fynediad i’r rhyngrwyd neu’r rheini sydd â nam ar eu golwg. Bydd asiant yn cofnodi’r manylion ar ran defnyddwyr. Bydd yr holl deithwyr yn cael eu cynghori i ddefnyddio’r system MissingX eu hunain pan fo hynny’n bosibl.

Os ydych chi’n meddwl eich bod wedi colli rhywbeth wrth deithio gyda chwmni trên arall ar ein rhwydwaith, cysylltwch â'r cwmni hwnnw’n uniongyrchol i weld a oes ganddyn nhw eich eiddo. Neu, gallech hefyd fynd i www.missingx.com i weld a yw’r rhwydwaith wedi’i gynnwys yn y fan honno, drwy newid enw’r cwmni trên i’r gwasanaeth roeddech chi’n ei ddefnyddio i deithio pan rydych chi’n credu i chi golli’r eitem.