Port Eynon beach and coastline Gower Peninsula Swansea County

Pa ffordd well o fwynhau arfordir De Cymru nac ymweld â Bae Abertawe.

Yn gyrchfan fywiog ar lan y môr sy’n ddelfrydol ar gyfer pobl sy’n dymuno archwilio neu gael antur ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad, heb amheuaeth, mae Abertawe a Phenrhyn Gŵyr yn gyrchfan o ddewis. Mae bri gan Abertawe oherwydd enwogrwydd Penrhyn Gŵyr drwy’r byd (yr ardal gyntaf ym Mhrydain i gael ei dynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol dros 60 mlynedd yn ôl), pentref glan môr y Mwmbwls a’i ddylanwad diwylliannol, a mab enwocaf Abertawe oedd y bardd a’r awdur Dylan Thomas.

 

Pori heb borwr

Dewch i ni fynd yn ôl i amser go iawn a mwynhau pori heb borwr. Gall ein trenau fynd â chi i rai o gyrchfannau siopa gorau’r DU, felly gallwch chi fwynhau rhywfaint o therapi siopio heb unrhyw ddiffygion technegol.

Cyrchfan boblogaidd i gyplau sy’n chwilio am wyliau tawel ar yr arfordir, gyda chanol tref brysur i fwynhau nosweithiau allan a choctels. Ochr yn ochr â nifer o atyniadau yn y ddinas, mae mannau natur trawiadol Penrhyn Gŵyr ar garreg ei drws, sy’n cynnig golwg prin ar gynefin arfordirol nad oes neb wedi tarfu arno ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU. 

 

Gwerth eu gweld

  • Stadiwm Liberty: Mae Abertawe yn ddinas fawr ym maes chwaraeon, ac mae Stadiwm Liberty yn gartref i’r tîm rygbi mwyaf yn lleol; y Gweilch, ac i Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe. Beth am fynd i weld gêm neu ar daith tu ôl i’r llenni.
  • Marchnad Abertawe: Beth am fwynhau profiad siopa hynod gofiadwy a blasu peth o gynnyrch gwych yr ardal ym Marchnad Abertawe - y farchnad dan do fwyaf yng Nghymru. Os nad yw hyn yn ddigon, yng nghanol y dref mae dros 200 o siopau i’w darganfod.
  • Penrhyn Gŵyr: ‘Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol’ (AHNE) gyda llawer o draethau hardd fel Langland, Bae’r Tri Chlogwyn, Porth Einon, Rhosili a Bae Oxwich.
  • Man Geni Dylan Thomas: Camwch yn ôl mewn amser i’r cartref lle y ganwyd y diweddar fardd Dylan Thomas, lle y bu’n byw gyda’i deulu, a lle yr ysgrifennodd bron i ddwy ran o dair o’i waith cyhoeddedig.

 

Penwythnos ym Mae Abertawe

Y Mwmbwls - Daeth i’r brig yn y bleidlais am y lle gorau i fyw yng Nghymru yn 2018, dewch i weld beth a’i gwnaeth yn enillydd teilwng. Gydag amrywiaeth o siopau annibynnol, caffis, bwytai a pharlyrau hufen iâ, mae’r Mwmbwls yn lle gwych i fynd am y diwrnod. Yn ystod tymhorau poblogaidd twristiaid, bydd ‘Trên y Mwmbwls’ yn cludo pobl o Abertawe i’r Mwmbwls ac yn ôl, gan wneud eich ymweliad hyd yn oed yn haws.

Penrhyn Gŵyr - Traethau, Traethau a mwy o Draethau. Mae Penrhyn Gŵyr yn llawn o deithiau cerdded a golygfeydd gwych a thraethau sy’n werth eu gweld. Mae Bae’r Tri Chlogwyn yn dod i'r brig yn rheolaidd fel un o’r lleoliadau mwyaf dramatig ym Mhrydain, gyda nentydd troellog, a hyd yn oed castell ar y bryn. Mae bwa enfawr Bae Rhosili, yn cynnwys ehangder traeth Llangynydd hefyd yn lle i’ch ysbrydoli - mae Pen Pyrod yn teimlo fel erchwyn y byd.

Parciau a Gerddi - Os ydych chi wedi cael digon ar y traethau, ond yn mwynhau bod allan ynghanol byd natur, mae llu o barciau a gerddi i ddianc iddyn nhw, fel Parc Singleton a Gerddi Clun. Os nad yw’r tywydd yn rhy dda, beth am gamu i mewn i Plantasia - hafan gynnes Abertawe - gyda pharthau Trofannol a Chrinsych i’w harchwilio. Wyddoch chi y gallwch chi gael gostyngiad o 20% ar docyn i Plantasia os ydych yn teithio ar y trên.

Gyda’r Nos - Mae Abertawe’n adnabyddus am ei bywyd nos bywiog, ac yn benodol ardal Stryd y Gwynt. Dyma’r ardal brysuraf wedi iddi dywyllu, gydag amrywiaeth o fariau, tafarnau a chlybiau’n denu amrywiaeth eang o bobl. Os ydych chi’n chwilio am rywbeth gwahanol, mae Theatr y Grand yn cynnig cymysgedd eclectig o ddigwyddiadau byw, arddangosfeydd a pherfformiadau. Mae rhywbeth yno i bawb bob amser.

 

Y ffordd hawsaf o deithio o amgylch y ddinas

Ydych chi eisiau crwydro’r ddinas ar ddwy olwyn? Defnyddiwch nextbike i ddod o hyd i feiciau i'w llogi yn eich ardal chi. Cliciwch eicon ar y map isod i ddod o hyd i’r beic agosaf sydd ar gael.