A view of the Tenby beach from the water

Darganfod Dinbych-y-pysgod

Wedi’i lleoli ar Lwybr Arfordir Sir Benfro yng ngorllewin Cymru, mae Dinbych-y-pysgod yn dref harbwr ac yn gyrchfan lan môr llawn hanes. Yma, fe welwch chi siopau, caffis, a bwytai hyfryd, yn ogystal â thraethau hardd gyda dyfroedd glas clir, mur canoloesol, a llawer mwy. Dyma leoliad perffaith ar gyfer treulio’r penwythnos gyda’r teulu cyfan.

 

Peidiwch â chael eich temtio i ddefnyddio’r car

Gall ein trenau fynd â chi i rai o'r cyrchfannau arfordirol gorau yn y DU.

Dinbych-y-pysgod yw un o hoff drefi glan môr Cymru gyda thraethau gogoneddus, awyrgylch cynnes a thai Fictoraidd cain.  I gael profiad gwirioneddol o Ddinbych-y-pysgod, mae'n rhaid i chi ymweld â Harbwr Dinbych-y-pysgod - harbwr bach a chyfeillgar lle gallwch fwynhau pysgota, mynd ar daith mewn cwch i Ynys Bŷr gerllaw, ymlacio a dadflino ar y traeth gwych neu eistedd a gwylio pobl yn mynd â dod.

 

Teithio i Ddinbych-y-pysgod gyda Trafnidiaeth Cymru

Mae gorsaf drenau Dinbych-y-pysgod yn llai na 10 munud o daith cerdded i’r harbwr a’r traethau hardd. Peidiwch ag oedi, prynwch eich tocynnau heddiw. 

Edrychwch ar amseroedd trenau ac archebu eich tocynnau.

 

Pethau i’w gwneud yn Ninbych-y-pysgod

  • Gorsaf Bad Achub yr RNLI - Dysgwch am yr RNLI, ei hanes balch o achub bywydau, ei rôl yn Ninbych-y-pysgod, ac am rai o'r adegau pryd bu’n rhaid iddyn nhw achub pobl. Yn yr orsaf, cewch gyfle i weld y badau achub gyda’ch llygaid eich hun, a mwynhau’r golygfeydd godidog o’r môr o amgylch yr orsaf. 
  • Ewch am dro i’r traeth - Ewch allan i grwydro traethau hardd Dinbych-y-pysgod, i fwynhau'r haul, a throedio ar hyd y tywod euraidd. Ymhlith y traethau godidog hyn mae Traeth y Castell, Traeth y Gogledd, a Thraeth yr Harbwr.
  • Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod - Y tu mewn i furiau'r castell, mae gan Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod chwe oriel fawr, yn ogystal â chaffi a siop anrhegion arbennig. Dysgwch am hanes Dinbych-y-pysgod, cael tamaid i’w fwyta, a phrynu swfenîr o’r siop.
  • Gweithdy Llwyau Caru - Cyfle i ddysgu mwy am y traddodiad rhamantus o greu llwyau caru, sy’n dyddio’n ôl gannoedd o flynyddoedd. Archwiliwch yr amrywiaeth eang o lwyau sy’n cael eu harddangos, a phrynu llwy bersonol y gallwch chi neu rywun arbennig ei thrysori am flynyddoedd i ddod. 

Rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei weld a’i wneud yn Ninbych-y-pysgod a’r cyffiniau. Pethau i'w gwneud yn Ninbych-y-pysgod.

 

Wyddoch chi?

Gall plant deithio am ddim ar ein trenau, darganfod mwy.

 

Penwythnos yn Ninbych-y-pysgod

  • Heatherton World of Activities - Cyfle i fwynhau gweithgareddau sy’n addas i bawb o bob oed, fel saethyddiaeth, ystafelloedd dianc, weiren wib, a llawer mwy. 
  • Parc Thema Oakwood - Os ydych chi'n chwilio am wefr llawn adrenalin, bydd y reids cyflym fel Megaphobia a Speed yn siŵr o’ch diddanu drwy gydol y dydd.
  • Ynys y Santes Catherine - Dyma un o’r ychydig ynysoedd oddi ar arfordir Dinbych-y-pysgod y gallwch fynd ati ar droed. Er ei bod hi’n fach, mae Ynys y Santes Catherine yn llawn hanes, ac yn gartref i gaer Palmerstown a safle gynnau rhag awyrennau o’r Ail Ryfel Byd. Mae modd cyrraedd yr ynys o Draeth y Castell pan fydd y llanw allan.

 

Wedi’ch ysbrydoli?

Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau darllen am rai o’r pethau sydd gan Ddinbych-y-pysgod i’w cynnig, ac y byddwch chi’n mwynhau ymweld â’r pentref ar y trên.