Iawndal

Rydym bob amser yn ceisio sicrhau bod ein gwasanaeth yn rhedeg fel y disgwyliech, ond weithiau bydd newidiadau'n cael eu gwneud neu oedi, a lle bo modd byddwn yn cynnig iawndal teg a phriodol.

 

Cafodd fy nhaith ei heffeithio gan aflonyddwch, sut allwch chi helpu?

Os byddwch yn cyrraedd eich gorsaf gyrchfan 15 munud neu fwy yn hwyrach nag a drefnwyd oherwydd bod un o'n trenau'n rhedeg yn hwyr neu'n cael ei ganslo am unrhyw reswm, gallwch wneud cais am iawndal Ad-dalu Oedi.

Wedi penderfynu peidio â theithio oherwydd yr aflonyddwch? Gallwch ofyn am ad-daliad yn lle hynny.

 

Pryd ydych chi'n darparu iawndal?

Defnyddiwch y Cwestiynau Cyffredin isod i weld os a sut y gallwn helpu fel y nodir yn ein siarter teithwyr:

  • Fe wnes i brynu tocyn ond wnes i ddim teithio oherwydd bod y trên wedi’i oedi neu ei ganslo - ydw i’n cael fy arian yn ôl?
    • Fe wnes i brynu tocyn trên ac mae fy nhrên wedi'i ganslo neu ei oedi ac ni allaf wneud y siwrnai bellach – ydw i’n gallu cael fy arian yn ôl?

      O dan Amodau Teithio National Rail, os ydych wedi prynu tocyn a bod eich trên yn cael ei ganslo neu ei oedi, a'ch bod yn dewis peidio â theithio, gallwch ddychwelyd y tocyn sydd heb ei ddefnyddio i'r gwerthwr gwreiddiol ac fe gewch chi ad-daliad llawn heb orfod talu ffi weinyddol. Mae hyn yn berthnasol i bob tocyn gan gynnwys y rhai na ellir eu had-dalu fel arfer.

       

      Mae gen i docyn tymor ac mae fy nhrên wedi'i ganslo neu ei oedi ac ni allaf wneud y siwrnai bellach - ydw i’n gallu cael fy arian yn ôl?

      Os ydych chi'n defnyddio Tocyn Tymor, mae'r swm o arian y gallwch ei hawlio yn ôl os yw’r trên wedi’i oedi neu ei ganslo yn amrywio rhwng cwmnïau trên, a bydd wedi'i nodi yn Siarter Teithwyr y CWMNI TRENAU hwnnw. Edrychwch ar Siarter Teithwyr y CWMNI TRENAU roeddech yn teithio gyda nhw.

      Mae dolenni i holl Siarteri’r CWMNÏAU TRENAU ar gael yma.

       

      Newidiodd yr amserlen ar ôl i fi brynu fy nhocyn, a ga’i ddewis peidio â theithio a chael ad-daliad?

      Os caiff yr amserlen ei newid ar ôl i chi brynu tocyn a'ch bod yn penderfynu peidio â theithio, gallwch hawlio ad-daliad llawn (heb ffi weinyddol) fel y nodir yn Amodau Teithio National Rail.

  • Wnes i ddim teithio - oes gen i hawl i gael arian yn ôl?
    • Sut mae cael fy ad-daliad?

      I dderbyn ad-daliad rhaid i chi hawlio o ble wnaethoch chi brynu'ch tocyn. Bydd eich cais yn cael ei ystyried heb oedi gormodol a bydd unrhyw iawndal sy'n ddyledus yn cael ei dalu o fewn 14 diwrnod ar ôl i'ch gwerthwr gytuno i’ch cais.

       

      Sut byddaf yn derbyn fy ad-daliad?

      Byddwch yn derbyn eich ad-daliad yn yr un ffordd wnaethoch chi ei defnyddio i dalu am y tocyn, oni bai eich bod yn cytuno i ffordd arall o gael ad-daliad. Os na wnaethoch deithio oherwydd bod eich trên wedi'i ganslo neu ei oedi, bydd y gwerthwr yn talu swm yr ad-daliad heb unrhyw ffi weinyddol.

  • Roedd yn rhaid i fi deithio ar wasanaeth arall a chyrhaeddais yn hwyr - ydw i'n cael arian yn ôl?
    • Os ydych chi'n teithio, naill ai ar wasanaeth sydd wedi'i ohirio neu ar yr un canlynol oherwydd bod eich trên wedi'i ganslo, efallai y bydd gennych hawl i gael iawndal.

      Dylid hawlio hyn gan y CWMNI TRENAU roeddech i fod i deithio arno. 

      Efallai fod gennych hawl i rywfaint o'ch arian [neu'r cyfan] yn ôl yn dibynnu ar y CWMNI TRENAU a ddefnyddiwyd gennych a’i Siarter Teithwyr. Mae'r trothwyon oedi a'r broses hawlio wedi'u nodi yn y Siarter Teithwyr berthnasol - efallai y cewch gyfran [neu'r cyfan] o bris y tocyn yn ôl yn dibynnu ar hyd yr oedi.

       

      Mae gen i docyn tymor ac mae fy nhrên yn aml yn hwyr - a ga’i unrhyw arian yn ôl?

      Mae gennych hawl i arian yn ôl yn dibynnu ar y CWMNI TRENAU rydych chi'n ei ddefnyddio a’i Siarter Teithwyr. Mae'r trothwyon oedi a'r broses hawlio wedi'u nodi yn y Siarter Teithwyr perthnasol.

       

      Gohiriwyd fy nhrên a chollais y cysylltiad olaf i ben y daith - nid oedd staff ar gael i helpu felly fe wnes i dalu am dacsi i gyrraedd yno - a ga’i fy arian yn ôl?

      Lle bo’n bosib, bydd CWMNI TRENAU yn trefnu tacsi neu fws ar gyfer y cysylltiad olaf a gollwyd. Os nad yw hyn yn bosibl am ba bynnag reswm a'ch bod yn gorfod talu costau rhesymol am deithio i ben eich taith, efallai y gallwch hawlio treuliau ychwanegol rhesymol yn ôl i'ch cyrchfan derfynol.

      Bydd y CWMNI TRENAU yn ystyried yr hawliadau hyn fesul achos. Ysgrifennwch yn uniongyrchol at y CWMNI TRENAU lle wnaethoch chi brofi’r oedi er mwyn hawlio costau rhesymol yn ôl am y daith ymlaen. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw’ch derbynneb.

       
  • Roedd fy nhrên yn brydlon ond doeddwn i ddim yn hapus gyda’r gwasanaeth - ydw i'n cael arian yn ôl?
    • Roedd fy nhrên yn brydlon ond doeddwn i ddim yn hapus gyda'r gwasanaeth (dim toiledau/y bwyd a gafodd ei addo ddim ar gael/wi-fi gwan ac ati) A ga’i fy arian yn ôl?

      Yn gyntaf, edrychwch ar y Siarter Teithwyr perthnasol. Os na allwch ddod o hyd i ateb i'ch cwyn, ysgrifennwch at y CWMNI TRENAU yn nodi manylion eich achos. Byddant yn adolygu hawliadau fesul achos. Os ydych wedi talu am wasanaeth ychwanegol na chawsoch chi, yna fel rheol bydd gennych hawl i gael ad-daliad llawn o'r tâl ychwanegol a dylech gysylltu ag adran gwasanaethau cwsmeriaid y CWMNI TRENAU. Os na wnaethoch chi dalu unrhyw beth am y gwasanaeth, ni chynigir ad-daliad i chi fel arfer.

       

      A ga’i hawlio iawndal am oedi byr?

      Fel rheol ni fydd CWMNÏAU TRENAU yn cynnig iawndal am oedi sy'n fyrrach na'r terfynau a nodir yn Siarter Teithio pob CWMNI TRENAU. Mae'r terfynau oedi yn amrywio rhwng CWMNÏAU TRENAU; mae rhai yn cynnig iawndal am oedi o 30 munud a hyd yn oed 15 munud, ond bydd wastad hawl gennych hawlio os oes 60 munud neu fwy o oedi.

      Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig iawndal os bydd eich trên yn wynebu oedi o 15 munud yn unig – am wybod mwy.

       

      A ga’i hawlio iawndal os bydd yr amserlen yn newid? 

      Gallwch hawlio iawndal am unrhyw oedi oherwydd newidiadau i'r amserlen a hysbysebwyd ar gyfer y diwrnod roeddech yn bwriadu teithio drwy ddilyn prosesau ad-dalu’r diwydiant rheilffyrdd. Bydd eich cais yn cael ei ystyried heb oedi gormodol a bydd unrhyw iawndal sy'n ddyledus yn cael ei dalu o fewn 14 diwrnod ar ôl i'ch CWMNI TRENAU gytuno i’ch cais. Nod CWMNÏAU TRENAU yw prosesu pob cais drwy'r broses hon o fewn mis i’w dderbyn

       

      A ga’i hawlio iawndal os nad oes sedd i fi?

      Ni chynigir iawndal gan amlaf lle nad oes seddi ar gael, ond gellir ystyried hawliadau lle neilltuwyd sedd.

       

      A ga’i hawlio iawndal os ydw i wedi talu am Sedd Dosbarth Cyntaf ac nad oedd rhai ar gael?

      Os ydych wedi talu am docyn Dosbarth Cyntaf ac nad oes seddi Dosbarth Cyntaf ar gael (neu lle hysbysebwyd cerbyd Dosbarth Cyntaf ond doedd dim un ar gael), yna byddwch yn gallu hawlio drwy'r CWMNI TRENAU am y gwahaniaeth rhwng pris eich tocyn a’r pris dosbarth safonol ar yr un gwasanaeth. Sylwch y gall pris hyrwyddo neu docyn Dosbarth Cyntaf Ymlaen Llaw weithiau fod yn rhatach na'r pris Dosbarth Safonol, ac yn yr achosion hynny, efallai na fydd gennych hawl i unrhyw arian yn ôl.

  • A oes mathau eraill o iawndal ar gael?
    • Ddeddf Hawliau Defnyddwyr (CRA)

      Lle bo CWMNI TRENAU wedi darparu gwasanaeth heb ofal a sgìl rhesymol, a'u bai nhw oedd hynny, mae'r Ddeddf Hawliau Defnyddwyr (CRA) yn cynnig ffordd arall i chi hawlio iawndal (a fydd fel arfer yn ariannol).

      Gallai'r iawndal a gewch o dan y CRA fod yn fwy na phris y tocyn, ond mae'n rhaid i chi brofi mai’r CWMNI TRENAU oedd ar fai. Nid yw'r CRA yn berthnasol os oes oedi neu broblemau'n cael eu hachosi gan ddigwyddiadau allanol y tu allan i reolaeth y CWMNI TRENAU, neu a achoswyd gan drydydd parti.

       

      Pryd mae'r CRA yn berthnasol?

      Os ydych chi'n teithio fel defnyddiwr, mae'r CRA yn darparu rhai hawliau a dulliau unioni lle mae CWMNI TRENAU ar fai, gan gynnwys yr hawl i ostyngiad mewn prisiau (hy arian yn ôl) lle nad yw’r gwasanaeth wedi'i gyflawni â gofal a sgìl rhesymol. Mae rhan berthnasol y CRA wedi bod yn berthnasol i wasanaethau teithwyr rheilffyrdd ers 1 Hydref 2016. I gael gwybod rhagor am wneud hawliad o dan y CRA, edrychwch ar https://www.gov.uk/consumer-protection-rights. Nid yw'r CRA yn berthnasol os yw’r oedi neu’r problemau'n cael eu hachosi gan ddigwyddiadau allanol y tu hwnt i reolaeth y CWMNI TRENAU, neu wedi’u hachosi gan drydydd parti. Mae enghreifftiau o ddigwyddiadau y tu hwnt i reolaeth y CWMNI TRENAU gan gynnwys anifeiliaid yn crwydro ar y cledrau, neu dywydd garw.

       

      A gaf i hawlio am fwy na phris y tocyn?

      O dan Amodau Teithio National Rail, a’r Siarter Teithwyr, dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y bydd CWMNI TRENAU yn ystyried hawliadau y tu hwnt i bris eich tocyn. Nid oes rheidrwydd ar GWMNI TRENAU i'ch digolledu, ond efallai y bydd gennych hawliad yn erbyn y CWMNI TRENAU o dan y CRA. Mae enghreifftiau o amgylchiadau eithriadol y gall CWMNI TRENAU eu hystyried yn cynnwys: Os ydych wedi prynu ac yn defnyddio tocyn dilys ac yn methu â chwblhau eich taith oherwydd yr amharwyd ar eich taith, er enghraifft os gwnaethoch fethu'ch cysylltiad oherwydd oedi ar y trên: bydd CWMNÏAU TRENAU, lle bo’n rhesymol, yn darparu dulliau amgen o deithio i'ch cyrchfan, neu os bernir bod angen, yn darparu llety dros nos neu dacsi adref i chi. Mae canslo trên yn golygu na allwch wneud eich cysylltiad olaf a'ch bod yn sownd: Os na all y CWMNI TRENAU wneud darpariaethau i chi deithio ar ôl hynny, a'ch bod yn wynebu costau rhesymol, bydd y CWMNI TRENAU yn ystyried yr hawliadau hyn fesul achos. Os ydych am ofyn i'r CWMNI TRENAU ystyried ad-dalu costau rhesymol, dylech gysylltu â'r CWMNI TRENAU perthnasol yn uniongyrchol.

       

      Sut mae gofyn am iawndal sy’n uwch na phris fy nhocyn?

      Mewn amgylchiadau eithriadol gall CWMNI TRENAU, yn ôl ei ddisgresiwn, ystyried hawliadau am golledion eraill y tu hwnt i gost eich tocyn. Os ydych am ofyn i'r CWMNI TRENAU ystyried gwneud taliad disgresiwn, dylech ysgrifennu yn y man cyntaf at y CWMNI TRENAU yn y cyfeiriad sydd i'w weld yn http://www.nationalrail.co.uk neu drwy ffonio 0345 748 4950. Sylwer nad yw hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol o dan y Ddeddf Hawliau Defnyddwyr (CRA). Sylwer: Ni allwch adennill iawndal am yr un golled ddwywaith. Os byddwch yn adennill arian o dan brosesau ad-dalu ‘dim bai’ y diwydiant, ni allwch hawlio'r un swm o dan y CRA. Ond gallwch barhau i wneud cais o dan y CRA am unrhyw golled na chafodd ei hadennill drwy broses gronfa'r diwydiant.

       

      Pa ddulliau unioni eraill sydd ar gael i gwsmer?

      Mae gan y CWMNÏAU TRENAU brosesau ad-dalu ar gyfer y diwydiant rheilffyrdd sy'n gweithio ochr yn ochr â'r CRA – mae’r manylion yn Amodau Teithio National Rail. Mae'r hyn y gallwch ei hawlio, a faint gallwch ei hawlio, yn Amodau Teithio National Rail - dylech hefyd edrych ar Siarter Teithwyr y CWMNI TRENAU. Os bydd eich trên yn cael ei ganslo neu os oes oedi, ac nad ydych yn teithio, gallwch hawlio ad-daliad llawn. Os bydd eich trên yn cael ei oedi a'ch bod yn teithio, efallai y bydd gennych hawl i gael iawndal. Mae swm yr iawndal yn dibynnu ar hyd yr oedi fel y cytunwyd yn Siarter Teithwyr y CWMNÏAU TRENAU.

  • Sut mae cael ad-daliad am Docyn Tymor? (Tocynnau Tymor Wythnosol, Misol a Blynyddol)
    • Os gwnaethoch brynu tocyn tymor ac nad ydych am ei ddefnyddio mwyach, mae’n rhaid i chi wneud cais am ad-daliad cyn gynted â phosibl. Mae hyn oherwydd bod unrhyw ad-daliad yn cael ei gyfrif o'r dyddiad y mae'r gwerthwr yn derbyn y tocyn tymor.

       

      Sut mae ad-daliad tocyn tymor yn cael ei gyfrif?

      Ni chyfrifir ad-daliadau tocynnau tymor yn seiliedig ar y nifer pro-rata o ddyddiau y cawsant eu defnyddio. Yn hytrach, bydd unrhyw ad-daliad yn cael ei gyfrif yn seiliedig ar y mathau o docynnau y byddai angen i chi fod wedi’u prynu i wneud y teithiau hynny. Mae'r tabl isod yn rhoi enghreifftiau o sut mae ad-daliadau tocynnau tymor yn cael eu cyfrif.

      Ffigurau enghreifftiol ar gyfer tocyn tymor rhwng Caer a Manceinion Tocyn Tymor Wythnosol Tocyn Tymor Misol Tocyn Tymor Blynyddol
      Cost y tocyn £71.40 £274.20 £2,856.00
      Yn ddilys am 7 diwrnod 1 mis 12 mis
      Nifer y diwrnodau a ddefnyddiwyd 3 diwrnod 16 diwrnod 5 mis a 4 diwrnod
      Tocynnau sydd eu hangen ar gyfer diwrnodau a ddefnyddiwyd 3 tocyn dydd dwyfford 2 docyn wythnosol a 2 docyn dydd dwy ffordd Gellir cael cyfraddau ar gyfer cyfnodau o fis a throsodd drwy ddefnyddio’r tabl Ffactorau Cyfnod yn seiliedig ar bris Tocyn Tymor 7 Diwrnod.
      Cost y diwrnodau a ddefnyddiwyd £53.10 £178.00 £1,408.10
      Tynnu’r ffi weinyddol £10 £10 £10
      Cyfanswm yr Ad-daliad sy'n ddyledus £8.30 £86.20 £1,437.90
  • Beth allaf ei wneud os nad ydw i'n hapus gydag ymateb y tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid?
    • Os nad ydych yn hapus gyda'r ymateb i'ch cais, dylech gysylltu ag adran gwasanaethau cwsmeriaid gweithredwr y trên, gan roi'r cyfle iddynt adolygu'ch hawliad

      Os ydych yn dal yn anhapus, dylech gysylltu â Transport Focus, y corff gwarchod trafnidiaeth annibynnol. Ar gyfer teithiau yn ardal Llundain, dylech gysylltu â London Travel Watch. Dylech hefyd ystyried a oes gennych hawliad o dan y CRA a gallwch gael gwybod rhagor am y CRA yma.

  • Pwy sy'n delio â chwynion ac ymholiadau?
    • Rydym wastad yn annog ein staff sy'n gweithio gyda chwsmeriaid i geisio datrys problemau ar unwaith lle bo modd.

       

      Beth fydd yn digwydd os na allant?

      Os na allant wneud hynny, byddant yn rhoi'r manylion cyswllt i chi ar gyfer y tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid fel y gellir symud eich cwyn ymlaen drwy ddefnyddio’n gweithdrefn gwyno.

      Mae ein staff Cysylltiadau Cwsmeriaid mewnol ymroddedig yn cael eu cyflogi'n benodol i dderbyn, ymchwilio ac ymateb i sylwadau, cwynion ac awgrymiadau. Trosglwyddir yr holl adborth i'r rheolwyr perthnasol ei ymchwilio gan fod hyn yn sicrhau bod yr adran berthnasol yn deall barn ein teithwyr ac yn gallu cymryd unrhyw gamau priodol i wella'r gwasanaeth rydym yn ei gynnig.

  • Beth yw fy hawliau ad-dalu?
    • Ad-daliadau ar docynnau sydd heb eu defnyddio.

      Os gwnaethoch newid eich meddwl a phenderfynu peidio â theithio, gallwch wneud cais am ad-daliad. Tynnir ffi weinyddu (£10.00) o'ch cais am ad-daliad. Ni ellir ad-dalu rhai mathau o docynnau fel tocynnau Advance. Rhaid i chi wneud hynny cyn pen 28 diwrnod i'r tocyn ddod i ben.

       

      Eich hawl i gael ad-daliad os oedd problem gyda’ch trên a'ch bod yn dewis peidio â theithio

      Os cafodd y trên yr oeddech yn bwriadu ei ddefnyddio ei ganslo, ei oedi, neu na chafodd eich sedd ei chadw a'ch bod yn penderfynu peidio â theithio, mae gennych hawl i hawlio ad-daliad llawn gan y gwerthwr tocynnau ac ni chodir unrhyw ffi weinyddol. Mae hyn yn berthnasol i bob tocyn, gan gynnwys tocynnau Advance, ac mae hefyd yn berthnasol os ydych wedi cychwyn ar eich taith ond yn methu â’i chwblhau oherwydd bod y trên wedi’i oedi neu ei ganslo a dychwelyd i ben y daith.

      Bydd pob cais am ad-daliad yn cael ei brosesu cyn gynted â phosibl, a dim hwyrach nag 1 mis ar ôl ei dderbyn.

       

      Rhaid i chi ddarparu'r tocynnau gwreiddiol gyda’ch cais am ad-daliad.

      Os cafodd eich taith ei gohirio oherwydd problem ar y rhwydwaith rheilffyrdd, efallai y bydd gennych hawl i gael iawndal. Mae'r Cwmni Trenau dal sylw yn gyfrifol am ddarparu unrhyw iawndal. Os cafodd eich taith ei oedi gan Drafnidiaeth Cymru, llenwch ein ffurflen hawlio iawndal yma.