Pan fyddwch chi’n prynu tocyn gyda ni. Fyddwn ni ddim yn codi unrhyw ffioedd ychwanegol arnoch.

 

Ar-lein

Gallwch brynu tocynnau ar-lein a’u derbyn drwy’r post, eu casglu o beiriant tocynnau neu eu llwytho i lawr fel e-docyn.

  • Os ydych chi’n prynu e-docyn, gallwch roi enw’r teithiwr wrth archebu. Bydd angen iddyn nhw gael dogfen adnabod (ID) wrth deithio.
  • Os ydych chi’n casglu tocynnau o beiriant tocynnau, bydd angen eich cerdyn talu arnoch chi.

 

Ar ddyfais symudol/ap

Gallwch brynu tocynnau a’u llwytho i lawr i’n ap symudol neu ddewis eu casglu o beiriant tocynnau hyd at pum munud cyn bod y trên yn gadael.

Mae angen i chi lwytho’r ap i lawr o’r Siop Apiau neu Google Play a dewis ‘m-ticket’ neu ‘mobile ticket’ fel dewis danfon.  

 

Dros y ffôn

Gallwch chi ein ffonio ni ar 03333 211 202 a dewis derbyn eich tocynnau drwy’r post neu eu casglu o beiriant tocynnau. Mae ein llinellau ffôn ar agor 24/7 bob dydd (ac eithrio Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan).

 

Yn yr orsaf

Gallwch brynu tocynnau yn un o’n swyddfeydd tocynnau neu beiriant tocynnau. Dim ond os ydych chi’n teithio ar y diwrnod hwnnw y gallwch chi brynu tocyn o’n peiriannau tocynnau. Rydym yn derbyn yr holl brif gardiau credyd a debyd.

 

Ar y trên

Rhaid i chi brynu eich tocyn cyn camu ar y trên, ac eithrio os nad oedd swyddfa docynnau neu beiriant tocynnau ar gael.