Os caiff un o'n trenau ei ohirio neu ei ganslo a'ch bod yn cyrraedd eich gorsaf gyrchfan fwy na 15 munud yn hwyrach nag a drefnwyd, gallwch hawlio iawndal trwy 'Ad-dalu Oedi'.

Rydyn ni bob amser yn ceisio sicrhau bod ein trenau'n rhedeg ar amser, ond mae oedi weithiau. Pan fydd hyn yn digwydd, byddwn yn cynnig iawndal teg a phriodol. Os achoswyd yr oedi gan weithredwr trên arall, cysylltwch â nhw yn y lle cyntaf.

Os penderfynoch beidio â theithio oherwydd bod eich trên wedi’i ganslo neu wedi’i oedi, gallwch wneud cais am ad-daliad yn lle hynny am docynnau a brynwyd gan TrC. Os gwnaethoch brynu gan ddarparwr arall, cysylltwch â nhw.

Mae'r cynllun hwn yn berthnasol i'n holl fathau o docynnau, gan gynnwys tocynnau tymor.

Gwneud cais am Oedi Ad-dalu iawndal ar-lein

 

Faint o iawndal allwn i ei dderbyn?

Mae Ad-dalu Oedi yn seiliedig ar yr amser y dylech fod wedi cyrraedd eich gorsaf cyrchfan olaf, nid yr oedi i unrhyw drên penodol.

Er enghraifft, efallai mai dim ond 10 munud yn hwyr oedd eich trên ond wedi achosi i chi golli cysylltiad a bu'n rhaid i chi aros awr neu fwy am yr un nesaf. Os yw'ch trên wedi'i ganslo, mae angen i ni wybod amser y trên y gwnaethoch chi deithio arno.

Ni cheir iawndal mwy nag a dalwyd am y tocyn.

Hyd oedi Tocyn sengl Tocyn dychwelyd
15 - 29 munud 25% o’r pris 12.5% o’r pris
30 -59 munud 50% o’r pris 25% o’r pris
60 - 119 munud 100% o’r pris 50% o’r pris
120 munud neu yn hirach 100% o’r pris 100% o’r pris

 

{{ labels.title }}

{{ labels.text }}

{{ errors.ticket_type }}

{{ errors.delay_time }}

{{ errors.ticket_price }}

{{labels.result_copy}}: £ {{ repay_result }}

 

  • Iawndal tocyn tymor
    • Os oes gennych docyn tymor, byddwn yn eich digolledu am unrhyw siwrneiau unigol o oedi ar ein gwasanaethau. Mae uchafswm o ddau hawliad y dydd yn bosibl i ddeiliaid tocyn tymor.

    • Gwerth iawndal tocyn tymor ar gyfer pob taith

      • Cost flynyddol y tocyn wedi’i rannu â 464

      • Cost misol tocyn wedi'i rannu â 40

      • Cost wythnosol y tocyn wedi'i rannu â 10

    • Os oes gennych chi Docyn Tymor, gallwch hefyd ddefnyddio Ad-dalu Oedi i hawlio iawndal os nad oeddech yn gallu teithio oherwydd gweithredu diwydiannol, os gwnaethoch brynu’ch tocyn gan Trafnidiaeth Cymru. Cyflwynwch hawliad gan ddefnyddio’r ffurflen hon a dewiswch ‘Strike Action’ fel eich rheswm dros yr oedi.

 

Sut i wneud cais

Rhaid i ni dderbyn pob cais am iawndal o fewn 28 diwrnod i gwblhau eich taith. Mae’n gyflymaf i hawlio gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein - gweler y botwm isod.

Gallwch hefyd lenwi ffurflen bapur a'i hanfon drwy'r post.

  • Beth sydd angen i mi ei ddarparu i wneud hawliad?
    • Llenwch y ffurflen ar-lein neu’r ffurflen bapur i ddweud wrthym:

      • Dyddiad eich taith.

      • Amser y trên a gafodd ei ohirio.

      • Tarddiad a chyrchfan eich taith.

      • Sgan neu lun o'r tocynnau a brynwyd ar gyfer eich taith. Os nad ydych chi’n gallu darparu sgrinlun o docyn cod bar, gallwch gyflwyno sgrinlun o’ch e-bost sy’n cadarnhau’r archeb yn lle hynny.

      • Sut hoffech chi gael eich talu (trosglwyddiad banc, cerdyn debyd/credyd, siec, taleb, neu rodd i elusen)

    • Dim ond os oedd gennych docyn dilys ar gyfer eich taith gyfan y gellir hawlio.

  • Sut y byddwn yn eich digolledu
    • Telir iawndal trwy'r dulliau canlynol; rhowch wybod i ni sut yr hoffech i ni ei dalu i chi pan fyddwch yn gwneud eich cais.

      • Trosglwyddiad Banc: Taliad yn syth i'ch cyfrif banc dewisol. Byddwn yn gofyn i chi ddarparu'r cod didoli, rhif y cyfrif ac enw'r cyfrif fel rhan o'r broses o drin eich cais drwy system ddiogel.

      • PayPal: Byddwch yn derbyn taliad i mewn i'ch cyfrif Paypal o fewn 48 awr i'ch hawliad gael ei brosesu. Dim ond os ydych chi'n gwneud cais trwy ein ffurflen ad-dalu oedi ar-lein y mae'r dull iawndal hwn ar gael.

      • Talebau teithio National Rail: Mae’r rhain yn ddilys am ddeuddeg mis a gellir eu defnyddio i dalu am deithiau trên unrhyw le ar rwydwaith y Rheilffyrdd Cenedlaethol o’n swyddfeydd tocynnau.

      • Rhoi i elusen: Mae opsiwn i roi eich iawndal i'n helusen ddewisol nawr ar gael.

  • Gwnewch gais drwy'r post
    • Lawrlwythwch, argraffwch a phostiwch eich ffurflen i hawlio iawndal - lawrlwythwch y ffurflen.

    • Byddwn yn gwirio eich hawliad yn erbyn ein cofnodion ac yn cysylltu â chi o fewn 20 diwrnod gwaith.

    • Bydd angen i chi anfon eich hawliad, gan gynnwys prawf teithio, o fewn 28 diwrnod i’ch taith ohiriedig.

Caniatewch 14 diwrnod ar gyfer yr ad-daliad.

Gwneud cais am Oedi Ad-dalu iawndal ar-lein

 

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau ynghylch a allwch hawlio Ad-daliad Oedi neu sut mae'n gweithio? Edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin.

Pryd mae Ad-dalu Oedi yn berthnasol?

  • Ni theithiais oherwydd oedi, canslo neu newid amserlen, a allaf hawlio iawndal?
    • O dan Amodau Teithio National Rail, os ydych chi wedi prynu tocyn a bod eich trên wedi cael ei ganslo neu ei ohirio, a’ch bod yn dewis peidio â theithio, gallwch ddychwelyd y tocyn i’r sawl wnaeth ei werthu i chi yn y lle cyntaf. Byddwch yn cael ad-daliad llawn heb orfod talu ffi weinyddol. Mae hyn yn berthnasol i bob tocyn, gan gynnwys tocynnau nad oes modd eu had-dalu fel arfer.

  • Mae gen i docyn tymor neu Multiflex ac mae fy nhrên yn hwyr yn aml – a allaf gael iawndal?
    • Gallwch hawlio Ad-daliad Oedi ar gyfer unrhyw daith a wnaed gyda’ch tocyn Tymor neu Multiflex a gafodd ei gohirio o 15 munud neu fwy, ond bydd angen i chi wneud cais ar wahân ar gyfer pob taith ohiriedig.

    • Os oes angen i chi hawlio am deithiau lluosog o oedi, beth am greu Cyfrif Ad-dalu Oedi? Mae hyn yn caniatáu i chi gadw manylion eich tocyn, eich dull iawndal a’ch manylion personol fel nad oes angen i chi eu nodi bob tro.

  • A oes mathau eraill o iawndal ar gael?
    • Ddeddf Hawliau Defnyddwyr (CRA)

    • Lle bo CWMNI TRENAU wedi darparu gwasanaeth heb ofal a sgìl rhesymol, a'u bai nhw oedd hynny, mae'r Ddeddf Hawliau Defnyddwyr (CRA) yn cynnig ffordd arall i chi hawlio iawndal (a fydd fel arfer yn ariannol).

    • Gallai'r iawndal a gewch o dan y CRA fod yn fwy na phris y tocyn, ond mae'n rhaid i chi brofi mai’r CWMNI TRENAU oedd ar fai. Nid yw'r CRA yn berthnasol os oes oedi neu broblemau'n cael eu hachosi gan ddigwyddiadau allanol y tu allan i reolaeth y CWMNI TRENAU, neu a achoswyd gan drydydd parti.

    • Pryd mae'r CRA yn berthnasol?

    • Os ydych chi'n teithio fel defnyddiwr, mae'r CRA yn darparu rhai hawliau a dulliau unioni lle mae CWMNI TRENAU ar fai, gan gynnwys yr hawl i ostyngiad mewn prisiau (hy arian yn ôl) lle nad yw’r gwasanaeth wedi'i gyflawni â gofal a sgìl rhesymol. Mae rhan berthnasol y CRA wedi bod yn berthnasol i wasanaethau teithwyr rheilffyrdd ers 1 Hydref 2016. I gael gwybod rhagor am wneud hawliad o dan y CRA, edrychwch ar https://www.gov.uk/consumer-protection-rights. Nid yw'r CRA yn berthnasol os yw’r oedi neu’r problemau'n cael eu hachosi gan ddigwyddiadau allanol y tu hwnt i reolaeth y CWMNI TRENAU, neu wedi’u hachosi gan drydydd parti. Mae enghreifftiau o ddigwyddiadau y tu hwnt i reolaeth y CWMNI TRENAU gan gynnwys anifeiliaid yn crwydro ar y cledrau, neu dywydd garw.

    • A gaf i hawlio am fwy na phris y tocyn?

    • O dan Amodau Teithio National Rail, a’r Siarter Teithwyr, dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y bydd CWMNI TRENAU yn ystyried hawliadau y tu hwnt i bris eich tocyn. Nid oes rheidrwydd ar GWMNI TRENAU i'ch digolledu, ond efallai y bydd gennych hawliad yn erbyn y CWMNI TRENAU o dan y CRA. Mae enghreifftiau o amgylchiadau eithriadol y gall CWMNI TRENAU eu hystyried yn cynnwys: Os ydych wedi prynu ac yn defnyddio tocyn dilys ac yn methu â chwblhau eich taith oherwydd yr amharwyd ar eich taith, er enghraifft os gwnaethoch fethu'ch cysylltiad oherwydd oedi ar y trên: bydd CWMNÏAU TRENAU, lle bo’n rhesymol, yn darparu dulliau amgen o deithio i'ch cyrchfan, neu os bernir bod angen, yn darparu llety dros nos neu dacsi adref i chi. Mae canslo trên yn golygu na allwch wneud eich cysylltiad olaf a'ch bod yn sownd: Os na all y CWMNI TRENAU wneud darpariaethau i chi deithio ar ôl hynny, a'ch bod yn wynebu costau rhesymol, bydd y CWMNI TRENAU yn ystyried yr hawliadau hyn fesul achos. Os ydych am ofyn i'r CWMNI TRENAU ystyried ad-dalu costau rhesymol, dylech gysylltu â'r CWMNI TRENAU perthnasol yn uniongyrchol.

    • Sut mae gofyn am iawndal sy’n uwch na phris fy nhocyn?

    • Mewn amgylchiadau eithriadol gall CWMNI TRENAU, yn ôl ei ddisgresiwn, ystyried hawliadau am golledion eraill y tu hwnt i gost eich tocyn. Os ydych am ofyn i'r CWMNI TRENAU ystyried gwneud taliad disgresiwn, dylech ysgrifennu yn y man cyntaf at y CWMNI TRENAU yn y cyfeiriad sydd i'w weld yn https://www.nationalrail.co.uk neu drwy ffonio 03457 484 950. Sylwer nad yw hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol o dan y Ddeddf Hawliau Defnyddwyr (CRA). Sylwer: Ni allwch adennill iawndal am yr un golled ddwywaith. Os byddwch yn adennill arian o dan brosesau ad-dalu ‘dim bai’ y diwydiant, ni allwch hawlio'r un swm o dan y CRA. Ond gallwch barhau i wneud cais o dan y CRA am unrhyw golled na chafodd ei hadennill drwy broses gronfa'r diwydiant.

    • Pa ddulliau unioni eraill sydd ar gael i gwsmer?

    • Mae gan y CWMNÏAU TRENAU brosesau ad-dalu ar gyfer y diwydiant rheilffyrdd sy'n gweithio ochr yn ochr â'r CRA – mae’r manylion yn Amodau Teithio National Rail. Mae'r hyn y gallwch ei hawlio, a faint gallwch ei hawlio, yn Amodau Teithio National Rail - dylech hefyd edrych ar Siarter Teithwyr y CWMNI TRENAU. Os bydd eich trên yn cael ei ganslo neu os oes oedi, ac nad ydych yn teithio, gallwch hawlio ad-daliad llawn. Os bydd eich trên yn cael ei oedi a'ch bod yn teithio, efallai y bydd gennych hawl i gael iawndal. Mae swm yr iawndal yn dibynnu ar hyd yr oedi fel y cytunwyd yn Siarter Teithwyr y CWMNÏAU TRENAU.

  • Rwy'n Gwsmer rhyngwladol, a allaf hawlio o hyd?
    • Gall. Gallwch ddal i wneud cais am daith y bu oedi gennych. Teipiwch linell gyntaf eich cyfeiriad yn y maes cod post a dewiswch eich cyfeiriad o'r gwymplen. Os nad yw'ch cyfeiriad wedi'i restru, dewiswch 'Nid yw fy nghyfeiriad wedi'i restru, gadewch imi nodi â llaw' ac yna cwblhewch y meysydd cyfeiriad.

 

Sut mae gwneud cais?

  • Beth sydd angen i mi ei ddarparu i wneud cais?
    • Gadwch ni wybod am y ddyddiad ac amser eich taith a ble y dechreuodd a gorffennodd.

    • Bydd angen i ni weld eich tocyn hefyd. Os gwnaethoch ei brynu ar ein app gallwch ei lawrlwytho, neu anfon sgan neu lun atom os yw'n fersiwn bapur. Os gwnaethoch archebu'ch taith ar-lein ac nad yw'ch tocyn gennych bellach, gallwch gyflwyno ciplun o'ch e-bost cadarnhau archeb yn lle hynny.

  • A allaf gwneud cais ar ran grŵp?
    • Rydym yn argymell bod pob teithiwr yn cyflwyno ei hawliad ei hun. Fodd bynnag, gallwch adael ni wybod pan fyddwch yn cyflwyno’ch cais os gwnaethoch deithio mewn grŵp mwy ac yn hawlio ar gyfer teithwyr lluosog.

 

Ad-dalu Oedi Awtomatig

  • A fyddaf yn cael iawndal yn awtomatig?
    • Os gwnaethoch brynu tocyn Advanced i deithio ar wasanaeth TrC (ar gyfer eich taith gyfan neu ran ohoni) gan ddefnyddio ein gwefan neu ap, mae ein cynllun Ad-dalu Oedi’n Awtomatig yn berthnasol i chi ac nid oes angen i chi gyflwyno hawliad. Bydd ein system yn nodi os byddwch yn cael eich oedi o 15 munud neu fwy ac yn creu hawliad ar eich rhan.

  • Beth sy'n digwydd nesaf?
    • Os bydd oedi o 15 munud neu fwy, byddwn yn prosesu cais ar eich rhan yn awtomatig o fewn 24 awr i'ch taith. Yna byddwn yn anfon e-bost atoch yn gofyn i chi gadarnhau manylion eich taith. Unwaith y byddwch wedi cadarnhau eich taith, byddwn yn prosesu eich taliad. Gall hyn gymryd hyd at bum diwrnod gwaith.

  • Sut mae'n gweithio?
    • Os caiff un o'n trenau ei ohirio neu ei ganslo a'ch bod yn cyrraedd eich gorsaf gyrchfan fwy na 15 munud yn hwyrach nag a drefnwyd, gallwch hawlio iawndal trwy 'Ad-dalu Oedi'.

    • Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut mae'n gweithio yma.

 

Iawndal, canlyniadau ac apeliadau

  • Pa mor hir y bydd yn ei gymryd?
    • Os caiff eich hawliad ei gymeradwyo, mae’r amser y mae’n ei gymryd i chi dderbyn eich iawndal yn dibynnu ar sut rydych wedi dewis ei dderbyn.

    • Os dewisoch PayPal, gallai hyn gymryd hyd at 48 awr ac mae BACS o fewn 10 diwrnod gwaith. Os byddwch yn dewis rhoi eich iawndal i elusen, bydd y taliad yn cael ei wneud i'ch elusen ar ôl cymeradwyo'ch hawliad.

  • Sut byddaf yn gwybod canlyniad fy nghais?
    • Byddwn yn anfon e-bost atoch pan fyddwn wedi gwneud penderfyniad ar eich cais.

    • Gallwch hefyd wirio statws eich cais unrhyw bryd. Bydd angen rhif cyfeirnod eich hawliad arnoch a’r cyfeiriad e-bost a roesoch pan wnaethoch gyflwyno’ch hawliad.

  • Cafodd fy nghais ei wrthod, beth allaf ei wneud?
    • Gellir gwrthod hawliad am nifer o resymau. Os credwch fod eich hawliad wedi'i wrthod yn anghywir, bydd gennych yr opsiwn i apelio. Cyflwynwch apêl gyda gwybodaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais a bydd aelod o'n tîm yn ymchwilio i'ch hawliad ymhellach.

    • Gallwch apelio drwy glicio ar y botwm Gwirio Fy Statws Claim ar y Ffurflen Hawlio Ad-dalu Oedi a mewngofnodi gan ddefnyddio rhif cyfeirnod eich hawliad a’r cyfeiriad e-bost a nodwyd gennych pan gyflwynwyd yr hawliad. Dim ond 1 mis fydd gennych i gyflwyno apêl am hawliad.

    • Allwn ni ond ymdrin â hawliadau a achoswyd yn wreiddiol gan TrC. Os canfyddwn fod yr oedi wedi'i achosi gan gwmni trên gwahanol, byddwn yn trosglwyddo'r cais am iawndal iddyn nhw ac yn rhoi gwybod i chi.

  • Cefais lai o iawndal na'r disgwyl, beth allaf ei wneud?
    • Os cymeradwywyd eich cais a'ch bod yn credu bod y swm a ddyfarnwyd yn anghywir, bydd gennych yr opsiwn i apelio yn erbyn y penderfyniad. Cyflwynwch apêl gyda gwybodaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais a bydd aelod o'n tîm yn ymchwilio i'ch hawliad ymhellach. Gallwch apelio drwy glicio ar y botwm Gwirio Fy Statws Claim ar y Ffurflen Hawlio Ad-dalu Oedi a mewngofnodi gan ddefnyddio rhif cyfeirnod eich hawliad a’r cyfeiriad e-bost a nodwyd gennych pan gyflwynwyd yr hawliad. Dim ond 1 mis fydd gennych i gyflwyno apêl am hawliad.

  • Gofynnwyd i mi ddarparu rhagor o wybodaeth ar gyfer hawliad a gyflwynais, beth allaf ei wneud?
    • Os ydych chi wedi cyflwyno hawliad ond nad ydy’r manylion i gyd wedi’u rhoi neu os bydd y system yn gweld bod y tocyn yn annilys, yna dydy manylion y tocyn rydych chi wedi’u rhoi ddim yn ddilys ar gyfer dyddiad eich taith. Byddwn yn anfon e-bost atoch chi yn gofyn i chi fewngofnodi ac edrych eto ar eich hawliad. Defnyddiwch y ddolen sydd yn eich e-bost i fewngofnodi, edrych eto ar yr wybodaeth sydd wedi'i hamlygu ac yna ailgyflwyno eich hawliad. Gallwch hefyd ddarparu’r wybodaeth hon drwy wirio statws eich hawliad yma.

Dysgwch fwy am fathau eraill o iawndal ac ad-daliadau - Cwestiynau Cyffredin am ad-daliadau ac iawndal.

 

Perfformiad Ad-daliad am Oedi

Byddwn yn cyhoeddi ein ffigurau perfformiad Ad-daliad am Oedi bob chwarter. Mae hyn yn cynnwys faint o hawliadau rydym wedi’u derbyn a’u cymeradwyo, faint o iawndal rydym wedi’i ddarparu a faint o amser a gymerodd i ni brosesu’r hawliadau rydym wedi’u derbyn ar gyfartaledd.

Gallwch weld ein ffigurau ar gyfer y 12 mis diwethaf isod.

Blwyddyn Mis Cyfanswm
yr
hawliadau
a
dderbyniwyd
Cyfanswm
yr
hawliadau
a
gymeradwywyd
Cyfanswm
Gwerth
yr
iawndal
Aamser
ar
gyfartaledd
i
brosesu
hawliadau
2023 Rhagfyr 17,804 14,334 £193,150.19 5
diwrnod
2023 Tachwedd 16,848 13,899 £192,427.98 5
diwrnod
2023 Hydref 17,928 14,009 £249,377.65 7
diwrnod

2023

Medi 12,420 10,340 £152,821.54 7
diwrnod

2023

Awst 15,862 13,168 £204,288.16 9
diwrnod

2023

Gorffennaf 15,383 13,436 £208,416.58 14
diwrnod
2023 Mehefin 15,246 12,389 £205,808.85
diwrnod
2023 Mai 12,680 12,061 £218,353.29 25 
diwrnod
2023 Ebrill 12,422 9,362 £145,408.40 14 
diwrnod
2023 Mawrth 13,017 10,642 £162,151.87 12
diwrnod

2023

Chwefror 9,013 7,629 £103,365.43 12
diwrnod

2023

Ionawr 8,147 7,849 £102,266.85 35
diwrnod

2022

Rhagfyr 10,978 9,903 £152,558.89 37
diwrnod