P’un a ydych chi’n mynd o Wrecsam i Gaerdydd ar gyfer gwaith neu hamdden, gall teithio ar drên arbed amser i chi a rhoi taith fwy hamddenol i chi. Ni fydd angen i chi boeni am ddod o hyd i le i barcio chwaith.

Teithiwch o Wrecsam i Gaerdydd ar adeg sy’n gyfleus i chi gyda’n Tocynnau Unrhyw Bryd hyblyg, neu prynwch docyn Advance i gael gostyngiadau gwych. Gweithiwch ar y trên neu sgwrsio gyda ffrindiau gan ddefnyddio ein Wi-Fi am ddim.

Gwybodaeth fyw am drenau sy’n gadael ac yn cyrraedd

Pa mor hir mae’n ei gymryd?

Mae’r trên o Wrecsam i Gaerdydd yn cymryd tua dwy awr a phum deg munud. Gyda’r trên cyntaf yn gadael am 05.50 a’r olaf am 21.30, cewch ddewis yr amser sydd orau i chi.

 

Pam teithio o Wrecsam i Gaerdydd?

Drwy deithio i Orsaf Caerdydd Canolog ar y trên byddwch yn cyrraedd yn union yng nghanol y ddinas. Dyma'r lle perffaith i fynd ymlaen i siopau Caerdydd, mwynhau bwydydd bendigedig, golygfeydd hanesyddol, digwyddiadau chwaraeon a sîn gerddorol fywiog. A’r peth gorau oll yw y gallwch chi gael blas ar y cyfan ar droed dafliad carreg o’r orsaf.

Mae ardal Bae Caerdydd yn lle gwych i grwydro. Mae digon o amrywiaeth yng Nghanolfan y Mileniwm bob amser, gyda rhaglen eclectig o ddigwyddiadau, arddangosfeydd a pherfformiadau byw. I gefnogwyr chwaraeon, mae'n hanfodol ymweld ag adeilad hynod Stadiwm Principality. Yn gartref i ddigwyddiadau rygbi, pêl-droed a chwaraeon rhyngwladol, mae'r stadiwm mewn lleoliad cyfleus yn agos at orsaf Caerdydd Canolog.

 

Edrychwch ar ein rhestr lawn o bethau i'w gwneud yng Nghaerdydd

Cadwch olwg am y wybodaeth ddiweddaraf gyda’r ap hawdd ei ddefnyddio, a dilynwch ein Statws Llwybrau Byw i weld y wybodaeth ddiweddaraf.