Cadwch yn ddiogel, cynlluniwch ymlaen llaw a byddwch yn deithiwr cyfrifol

Mae diogelwch a lles ein cwsmeriaid a'n staff yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i ni.

 

Mae Coronafeirws yn dal i fod yn ein cymunedau, helpwch ni i barhau i gadw Cymru'n Ddiogel trwy gadw pellter parchus oddi wrth deithwyr eraill os gallwch chi 

Mae gofynion cadw pellter cymdeithasol yn newid, gwiriwch ganllaw Llywodraeth Cymru yma.

Gallwch ddod o hyd i ganllaw Llywodraeth y DU yma.

 

Mesurau glanhau ychwanegol ar fysiau a threnau ac yn ein gorsafoedd

Mae ein bysiau, ein trenau a’n gorsafoedd yn cael eu glanhau’n drwyadl yn unol â chanllawiau’r llywodraeth, gan gynnwys mannau mae teithwyr yn eu cyffwrdd yn aml.  

Rydyn ni’n gweithio bob awr o’r dydd i sicrhau eich bod chi’n gallu teithio’n ddiogel ac yn hyderus ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Bysiau

Mae gan yr holl weithredwyr bysiau yng Nghymru fesurau glanhau llym ar waith, gan gynnwys mesurau i gadw gyrwyr ar y rhwydwaith mor ddiogel â phosibl yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. 

Trenau 

Rydyn ni’n glanhau ein trenau’n drwyadl ac yn amlach.  Mae ein timau glanhau yn gweithio ddydd a nos i lanhau ein trenau ac rydyn ni wedi cyflogi mwy o weithwyr i’w cadw’n lân. 

Rydyn ni’n canolbwyntio ar fannau sy’n cael eu defnyddio’n aml fel breichiau cadeiriau, canllawiau a byrddau. Rydyn ni hefyd yn sicrhau bod digon o sebon yn ein toiledau.  

Rydyn ni’n defnyddio cynnyrch glanhau gwrthfeirysol sydd â chyfnod amddiffyn o 7 diwrnod. Hwn yw’r cynnyrch gorau sydd ar gael ar hyn o bryd. 

Gorsafoedd

Rydyn ni hefyd wedi codi lefelau glanhau yn ein gorsafoedd, gan ganolbwyntio’n benodol ar fannau sy’n cael eu defnyddio’n aml fel canllawiau a pheiriannau tocynnau.  Rydyn ni hefyd yn sicrhau bod digon o sebon yn ein toiledau.

Rydyn ni’n defnyddio cynnyrch glanhau gwrthfeirysol sydd â chyfnod amddiffyn o 7 diwrnod. Hwn yw’r cynnyrch gorau sydd ar gael ar hyn o bryd. 

 

Helpwch ni drwy olchi’ch dwylo neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo’n rheolaidd 

Rydyn ni’n glanhau mwy er mwn sicrhau bod eich teithiau chi mor ddiogel â phosibl.


Helpwch ni:

  • drwy olchi’ch dwylo’n drwyadl gyda sebon a dŵr am o leiaf 20 eiliad neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo’n rheolaidd.
  • drwy ddod â’ch hylif diheintio dwylo eich hun os gallwch chi.


Eich cwestiynau

Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn rydyn ni’n ei wneud i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru mor ddiogel â phosibl.