Dydyn ni ddim yn cau mynedfeydd neu glwydi gorsafoedd pe bai gwneud hynny yn cyfyngu ar fynediad teithwyr anabl i unrhyw blatfform neu gyfleusterau mewn gorsafoedd, oni bai ein bod wedi gwneud y canlynol:

Ymgynghori â’r Adran Drafnidiaeth, Transport Focus a grwpiau mynediad lleol, ac wedi cael cymeradwyaeth i wneud hynny gan yr Adran Drafnidiaeth.
Rydym yn ystyried anghenion teithwyr anabl a hŷn cyn cau neu gyfyngu ar bwyntiau mynediad dros dro mewn gorsafoedd.

 

Sut mae gwybodaeth am wasanaethau trenau a chyhoeddiadau yn cael eu gwneud  mewn Gorsafoedd?

Mae’r rhan fwyaf o’n gorsafoedd yn darparu gwybodaeth am wasanaethau trenau. Gallai hyn fod ar sgriniau gwybodaeth electronig neu ar ffurf cyhoeddiadau, neu’r ddau. Darperir Pwyntiau Gwybodaeth mewn rhai gorsafoedd.

Mae sgriniau gwybodaeth cwsmeriaid wedi’u gosod ym mhob gorsaf. Rydym yn darparu cyhoeddiadau clir neu wybodaeth weledol (neu’r ddau) o amseroedd gadael trenau a negeseuon perthnasol arall.

Os oes oedi a tharfu ar wasanaethau, am ragor o wybodaeth a chymorth siaradwch ag aelod o staff neu defnyddiwch Bwynt Gwybodaeth.

 

Ble alla i ddod o hyd i wybodaeth yn yr Orsaf? 

Yn ein gorsafoedd mawr rydym yn darparu Pwyntiau Gwybodaeth wedi’u marcio’n glir a bydd staff yno pan fydd y swyddfa docynnau ar agor. Mae’r rhain yn yr orsaf.

Gall staff wrth y Pwyntiau Gwybodaeth:

  • ddarparu gwybodaeth ar gyfleusterau, gwasanaethau a hygyrchedd yn ein holl orsafoedd, a’r rhai a ddarperir gan gwmnïau rheilffyrdd eraill;

  • rhoi cyfarwyddiadau i drafnidiaeth gyhoeddus a gwestai lleol;

  • darparu gwybodaeth am wasanaethau trenau, amserlenni, prisiau a chysylltiadau;

  • cadarnhau trefniadau a wnaed ar gyfer archebu teithio gyda chymorth; a

  • darparu gwybodaeth am oedi a ffactorau a allai effeithio ar eich taith.

Mae Pwyntiau Gwybodaeth hefyd yn bwyntiau cyfarfod ar gyfer teithwyr sydd wedi archebu teithio gyda chymorth.

Mewn gorsafoedd heb Bwynt Gwybodaeth, bydd angen i deithwyr fynd i’r swyddfa docynnau.

Mae gan bob swyddfa a Phwyntiau Gwybodaeth gyda staff ddolenni anwytho ar gyfer pobl sy’n gwisgo teclynnau clyw, ac mae gan lawer o leiaf un cownter isel neu gownter y gellir addasu ei uchder. Os yn bosibl, bydd ein hamserlenni, posteri a thaflenni gwybodaeth yn cael eu gosod fel y gall defnyddwyr cadeiriau olwyn a theithwyr sy’n sefyll allu eu defnyddio.

Arddangosir amserlenni a phosteri ‘Gwybodaeth ddefnyddiol’ yn yr orsaf neu ger mynedfa pob gorsaf. 
Gallwch gael gwybodaeth am wasanaethau trên o orsafoedd sydd â Phwyntiau Cymorth. Stondinau gyda botwm y gallwch ei bwyso i siarad gyda swyddog – dyna yw’r Pwyntiau Cymorth. Gallwch siarad gyda rhywun rhwng 6am a 10pm, neu gallwch gysylltu â’n tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid.

  • Ffôn: 03333 211 202 (Customer Relations Team)

  • Gwasanaeth Testun Cenhedlaeth Nesaf: 18001 03333 211 202

  • Ffurflen ar-lein: cliciwch yma

  • Oriau agor: 24/7 bob dydd (ac eithrio Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan)

Neu National Rail Enquiries

Am wybodaeth am amseroedd, prisiau a’r gwahanol fath o docynnau trên, cyngor cyffredinol neu gymorth i gynllunio’ch taith.

  • Ffôn (Cymraeg): 03456 040 500
  • Ffôn Saesneg: 03457 484 950
  • Ffôn testun: 03456 050 600
  • Gwefan: nationalrail.co.uk
  • Oriau agor: 24 awr y dydd, heblaw am Ddydd Nadolig
     

 

Ydy peiriannau tocynnau hunanwasanaeth yn hygyrch?

Darperir peiriannau tocynnau hygyrch yn ein holl orsafoedd lle mae rhwystrau tocynnau. Gall y peiriannau hyn roi tocynnau gyda gostyngiadau Cerdyn Rheilffordd Person Anabl os yw’r swyddfa docynnau ar gau. Allan nhw ddim rhoi  tocynnau gyda’r gostyngiad awtomatig ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn na chwsmeriaid gyda nam ar eu golwg. Dim ond mewn swyddfa docynnau neu ar y trên y gallwch brynu’r tocynnau hyn. Os na allwch chi brynu tocyn cyn i chi deithio, gallwch brynu tocyn:

  • ar-lein o’n gwefan neu o wefannau cwmnïau eraill sy’n gwerthu tocynnau;

  • drwy ffonio 03330 050 501;

  • mewn unrhyw orsaf gyda swyddfa docynnau; neu

  • o beiriant tocynnau mewn gorsaf.

Os na allwch chi brynu tocyn gan ddefnyddio un o’r ffyrdd uchod, gallwch brynu’ch tocyn gan werthwr tocynnau ar y trên neu yn yr orsaf ar ddiwedd eich taith.
Ni fydd cosb a gallwch gael y gostyngiad sy’n gymwys i chi o hyd. Mae gostyngiadau amrywiol ar gael i deithwyr hŷn ac anabl.

 

Oes clwydi yn yr orsaf? Mae gen i nam symudedd, sut galla i fynd trwodd?

Mae gan rai o’n gorsafoedd rwystrau tocynnau awtomatig. Mae gan y rhain o leiaf un glwyd fwy llydan ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio ac maen nhw’n cael eu rheoli gan staff. Os nad yw’r clwydi’n cael eu staffio, maen nhw’n cael eu cloi ar agor.

 

Pa gymorth sydd ar gael i mi os oes gen i fagiau?

Os ydych chi’n archebu teithio gyda chymorth ymlaen llaw, bydd staff yr orsaf neu’r gwerthwr tocynnau yn eich helpu i gael eich bagiau ar ac oddi ar y trên. Does dim angen talu am y gwasanaeth hwn. Os oes gan orsaf staff cymorth ar ddyletswydd, yna gallant eich helpu gyda bagiau i ac o fynedfa’r orsaf. Os oes angen cymorth gyda’ch bagiau arnoch ond nad ydych chi wedi archebu teithio gyda chymorth ymlaen llaw, bydd staff yn ceisio’ch helpu gyda’ch bagiau, ond bydd yn dibynnu ar a oes staff ar gael.

Bydd yn rhaid i bwysau, maint a nifer y bagiau fod yn ddiogel i’n staff eu cario ar ac oddi ar y trên ac o fewn yr orsaf. Ni chaiff un bag bwyso mwy na 23kg. Mae Amodau Teithio National Rail yn nodi, fel rheol gyffredinol, y gallwch fynd â hyd at dri bag teithio ar y trên.

 

Oes gennych chi gyfleusterau cadw bagiau?

Na. Dydyn ni ddim yn darparu cyfleusterau gadael bagiau mewn unrhyw orsaf. Fodd bynnag, mae gan Gaergybi gyfleuster sy’n cael ei redeg gan gwmni arall ac mae cyfleusterau cadw bagiau yn Manchester  Piccadilly a Birmingham New Street. Mae’r gorsafoedd hyn yn cael eu rhedeg gan Network Rail.

 

Oes rampiau ar gael i fy helpu i fynd ar y trên?

Mae rampiau ar gael ym mhob gorsaf gyda staff platfform ac ar ein holl drenau. Mae staff gorsafoedd yn defnyddio’r rhain i’ch helpu ar ac oddi ar drenau, waeth pa gwmni  trenau rydych chi’n ei ddefnyddio. Mae gwerthwyr tocynnau yn defnyddio’r rampiau ar y trenau mewn gorsafoedd lle nad oes staff, waeth a ydych chi wedi archebu teithio gyda chymorth ymlaen llaw ai peidio.
Mae gan lawer o’n gorsafoedd risiau neu dydyn nhw ddim yn addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn. Hefyd, mewn rhai gorsafoedd efallai y bydd llethr y ramp rhwng y trên a’r platfform yn rhy serth i ddefnyddio ramp yn ddiogel. Er mwyn osgoi anhwylustod ar eich taith, gwiriwch hyn cyn teithio. Gweler y canllawiau ‘Making rail accessible: Helping older and disabled passengers’ sydd ar gael mewn gorsafoedd drwy gysylltu â’n tîm cysylltiadau cwsmeriaid neu Dîm Teithio gyda Chymorth ar y rhifau yma. Byddwn yn argraffu copïau wedi’u diweddaru o leiaf unwaith y flwyddyn.

Neu cysylltwch â’n Tîm Teithio gyda Chymorth cyn i chi deithio:-

Os nad yw gorsaf yn hygyrch i chi, byddwn yn trefnu trafnidiaeth amgen. Rydym am sicrhau y gall teithwyr wneud cymaint o’u teithiau â phosibl ar drên.

  • Fodd bynnag, byddwn yn trefnu trafnidiaeth hygyrch amgen, fel tacsi, i chi a chydymaith:

  • os na allwch deithio i neu o orsaf nad yw’n hygyrch i chi;

  • os oes tarfu ar fyr rybudd i wasanaethau ac felly nad yw’r gwasanaethau yn hygyrch i chi.

Byddwn yn darparu’r drafnidiaeth hon i chi am yr un pris â’ch tocyn trên. Byddwn yn trafod pa fath o dacsi sydd ei angen arnoch cyn ei archebu. Bydd y drafnidiaeth amgen yn mynd â chi i neu o’r orsaf hygyrch fwyaf cyfleus i chi neu i orsaf gyda staff lle gall rhywun eich helpu.

Ni allwn warantu trafnidiaeth hygyrch amgen ar gyfer sgwteri symudedd gan na allan nhw gael eu cludo’n ddiogel mewn tacsi yn aml. Fodd bynnag, os ydych chi eisoes yn teithio gyda ni ar sgwter symudedd pan fo’r tarfu yn digwydd, byddwn yn gofalu eich bod mor gyfforddus â phosibl wrth i chi aros am y trên nesaf.

Ydy’r holl gyfleusterau mewn gorsafoedd yn hygyrch? (Ydy cyfleusterau’n cael eu darparu gan gwmnïau eraill). 

Mae manwerthwyr trydydd parti yn darparu gwasanaethau arlwyo mewn gorsafoedd. Byddwn yn sicrhau bod unrhyw gytundebau tenantiaeth newydd neu a adnewyddir yn cynnwys ymrwymiadau dan Ddeddf Cydraddoldeb 2020. Ni fydd lleoliad safleoedd manwerthwyr yn effeithio ar hygyrchedd yr orsaf neu ei chyfleusterau.

 

Oes staff ymhob gorsaf? 

Nid oes gan y rhan fwyaf o’n gorsafoedd staff neu dim ond staff swyddfa docynnau sydd yno na allant ddarparu teithio gyda chymorth. Bydd y gwerthwr tocynnau ar y trên yn eich helpu ar y trên.

Os oes angen cymorth mewn gorsaf heb staff arnoch, neu mewn gorsaf gyda staff swyddfa docynnau yn unig, cysylltwch â’r tîm Teithio gyda Chymorth. Mae’r manylion cyswllt ar y poster gwybodaeth wrth fynedfa’r orsaf. Gall y tîm Teithio gyda Chymorth drefnu trafnidiaeth amgen i chi neu drefnu i werthwr tocynnau eich helpu ar ac oddi ar y trên os ydych chi’n gallu cyrraedd y platfform. Rydym yn gofalu bod trefniadau penodol ar waith ar gyfer teithwyr sydd angen cymorth mewn unrhyw orsaf os cynhelir digwyddiad arbennig gerllaw (yn enwedig yng ngorsafoedd Caerdydd Canolog a Chaer).

I osgoi anhwylustod ar eich taith, holwch ymlaen llaw. Gweler ein canllawiau ‘Making rail accessible: Helping older and disabled passengers’ sydd ar gael mewn gorsafoedd drwy gysylltu â’n tîm cysylltiadau cwsmeriaid neu Dîm Teithio gyda Chymorth ar y rhifau uchod drwy Hygyrchedd gorsafoedd. Byddwn yn argraffu copïau wedi’u diweddaru o’r daflen hon o leiaf unwaith y flwyddyn.

Neu cysylltwch â’n Tîm Teithio gyda Chymorth cyn i chi deithio:-

Rydym hefyd yn gofalu bod y trefniadau ar gyfer darparu cymorth mewn unrhyw orsaf yn cael eu dangos ar dudalen pob gorsaf ar wefan National Rail Enquiries.

Neu cysylltwch â National Rail Enquiries.
Am wybodaeth am amseroedd, prisiau a’r gwahanol fath o docynnau trên, cyngor cyffredinol neu gymorth i gynllunio’ch taith