Port Eynon beach and coastline Gower Peninsula Swansea County

Crwydro Bae Abertawe a Phenrhyn Gŵyr

Ydych chi’n chwilio am ddinas fywiog ac arfordir hardd i’w harchwilio, i gyd mewn un? Mwynhewch antur ym Mae Abertawe a Phenrhyn Gŵyr.

Mae Penrhyn Gŵyr yn fyd-enwog. Oeddech chi’n gwybod mai hon oedd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf Prydain yn ôl yn 1956? Pentref glan môr y Mwmbwls a’i bier enwog yw trysor Bae Abertawe. Ond nid golygfeydd panoramig yw’r unig beth arbennig am Abertawe. Mae’r ddinas wedi cael cryn ddylanwad diwylliannol, a’i mab enwocaf yw bardd ac awdur mwyaf poblogaidd Cymru, Dylan Thomas.

 

Teithio i Abertawe ar drên

Gadewch i ni ddychwelyd at sgwrsion yn lle sgrolio a mwynhau crwydro dim clicio. Mae ein trenau yn gallu mynd â chi i rai o gyrchfannau siopa gorau’r DU, felly gallwch chi fwynhau ychydig o therapi siopa heb drafferthion technegol. Mae rhai o’n llwybrau mwyaf poblogaidd yn cynnwys:

 

Pam ymweld ag Abertawe?

Mae Bae Abertawe yn gyrchfan boblogaidd i gyplau sy’n chwilio am wyliau heddychlon ar yr arfordir. Ynghyd â nifer o atyniadau yn ninas Abertawe, mae cefn gwlad syfrdanol Penrhyn Gŵyr ar garreg ei drws.

Mae Penrhyn Gŵyr yn cynnig cipolwg prin ar gynefin arfordirol nad oes llawer o darfu arno. Dyma’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf yn y Deyrnas Unedig, a byddwch yn gweld pam os byddwch chi’n ymweld.

Mae cymaint o bethau i’w gwneud yn Abertawe. Dewiswch y ffordd hawdd o ddod yma ar y trên i weld drosoch eich hun.