Mae Ombwdsman y Rheilffordd yna i helpu datrys cwynion rhyngom ni a’n teithwyr.

Mae’r gwasanaeth am ddim i’w ddefnyddio ac yn annibynnol i’r diwydiant rheilffordd.

Ni ochri’r gyda’r naill ochr a’r llall a chanolbwyntir ar y dystiolaeth sydd wedi’i chyflwyno yn unig. Byddant yn eich cynorthwyo’r ddwy ochr er mwyn dod at gytundeb, ond os nad yw hyn yn bosib, mi fyddant yn gwneud penderfyniad yn unol â’r dystiolaeth. Os ydych yn cytuno gyda’r penderfyniad, mi fydd rhaid i ni weithredu ar y hyn sy’n cael ei ddweud.

 

Medrwch apelio i Ombwdsman y Rheilffordd os:

  • ydych yn anhapus gyda’n ymateb terfynol i’ch cwyn bydd yn cael ei gynnwys mewn llythyr neu e-bost (weithiau yn cael ei alw’n ‘Llythyr Methu Cytuno’ (Deadlock letter).
  • nad ydym wedi datrys eich cwyn o fewn 40 diwrnod gwaith o’i dderbyn.
  • nad oes mwy na 12 mis wedi mynd heibio ers i ni ddanfon ein hymateb terfynol i chi.

Mae rhai cwynion na all Ombwdsman y Rheilffordd eu datrys, er enghraifft os yw ynglŷn â’r ffordd mae un o’n gwasanaethau wedi’i gynllunio neu bolisi diwydiant. Yn yr achosion hynny, byddant yn cysylltu ac yn eich hysbysu am hyn. Pan yn bosib, byddant yn trosglwyddo eich cwyn i sefydliad arall bydd o bosib yn gallu’ch helpu ymhellach, megis Transport Focus – y corff gwarchod defnyddiwr annibynnol ar gyfer y diwydiant rheilffordd. Byddant yn adolygu’ch cwyn yn annibynnol a lle bo’n briodol, yn dilyn pethau i fyny ar eich rhan.