Rydyn ni’n gweithio’n galed i’ch helpu i deithio’n fwy diogel

Mae’r Gwiriwr Capasiti hwn yn helpu ein teithwyr i weld pa drenau sy’n aml yn llawn a pha rai sydd â digon o seddi ar gael*, er mwyn iddyn nhw allu penderfynu ar yr amser gorau ar gyfer eu taith.

Mae hyn yn dangos sut mae ein gwasanaethau’n cael eu defnyddio fel rheol drwy gydol ffenestr o 30 munud o’r amser gadael rydych chi’n ei ddewis isod.

Mae rhagfynegiadau capasiti yn seiliedig ar niferoedd hanesyddol teithwyr yn ystod gwasanaeth arferol.  Rydym yn adolygu ac yn diweddaru ein rhagfynegiadau capasiti yn rheolaidd pan fydd data a mewnwelediad ychwanegol ar gael, ac yn rhagweld newid yn nifer y teithwyr megis rhagolygon tywydd cynnes, digwyddiadau arbennig, gweithredu diwydiannol a lle mae gweithredwyr trenau eraill wedi lleihau eu gwasanaethau.

Pan nad oes rhagfynegiad ar gael (statws llwyd), nid oes gennym ddigon o ddata i wneud rhagfynegiad ar y gwasanaeth a/neu'r cyfnod amser a ddewiswyd.

 

Cofiwch

  • Mae Gwiriwr Capasiti ar gyfer weld pa drenau sy’n brusur.
  • Gweler wefan JourneyCheck ar gyfer gwybodaeth fyw.

 

  • *Pa mor gywir yw ein gwiriwr capasiti?

    • Rydym wedi cyfrifo ein gwybodaeth am gapasiti ar sail cyfrif cwsmeriaid dyddiol ein goruchwylwyr o’r diwrnod gwaith blaenorol. Rydym hefyd wedi edrych ar y data hanesyddol o wythnosau blaenorol i’n helpu i lunio barn am gapasiti ein gwasanaeth o wythnos i wythnos.
    • Mae hyn yn dangos faint o deithwyr sy’n teithio ar bob un o’n gwasanaethau. Dim ond arweiniad yw’r data hwn ac ni ddylid ei ystyried yn adlewyrchiad amser real o gapasiti ein gwasanaethau. Efallai na fydd rhai gwasanaethau trên yn cael eu cynnwys wrth gasglu’r wybodaeth hon.
    • Er mwyn gwella gwasanaethau i gwsmeriaid, caiff amseroedd ein trenau eu hadolygu’n gyson. Mae hyn yn golygu bod rhai o amseroedd y trenau sy’n cael eu dangos yn y gwiriwr capasiti hwn (gan ddefnyddio gwybodaeth hanesyddol) yn gallu bod yn wahanol o bryd i’w gilydd i’r rheini sy’n cael eu dangos mewn systemau cynllunio teithiau a phrynu tocynnau mwy diweddar.