Cysylltu

Mae beicio hefyd yn ddewis gwych ar gyfer teithio o A i B dros bellteroedd hirach, o’i gyfuno â thrafnidiaeth gyhoeddus. P’un a ydych chi’n teithio i’r gwaith neu i’r siopau, efallai mai beicio yn hytrach na mynd yn y car yw’r ffordd orau o gyrraedd lle rydych chi eisiau bod.

 

Dim beic?

Rydyn ni’n gweithio’n galed i sicrhau bod mwy o feiciau ar gael. Mae gorsafoedd docio Brompton ar gael yng Nghaerdydd, Caerfyrddin, Llanelli a Phorth Tywyn, lle gallwch fynd ar feic plygu am ddiwrnod, wythnos neu hyd yn oed yn hirach. Gallwch ddod o hyd i’ch doc agosaf yma.

Gallwch hefyd edrych ar yr opsiynau llogi hyn.

 

Beicio yn Abertawe

Gallwch deithio o amgylch Abertawe ar ddwy olwyn gyda Santander Cycles. Mae beiciau llogi hunanwasanaeth 24/7 ar gael o chwe gorsaf ddocio gyfleus, gan gynnwys y Ganolfan Ddinesig ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau - sydd ill dau bellter cerdded byr o Orsaf Drenau Abertawe. 

 

Mapiau’r Rhwydwaith Teithio Llesol

Cynllunydd teithiau Traveline Cymru