A allai prentisiaeth TrC fod y llwybr iawn i chi?

Ydych chi’n cymryd eich camau cyntaf tuag at gyflogaeth, neu’n newid gyrfa efallai? Ydych chi’n chwilio am gyfle cyffrous i ennill cymwysterau pellach heb ddilyn y llwybr addysg traddodiadol? Ai ‘gweithio a dysgu’ sy’n addas i chi? 

Gallai prentisiaeth gyda ni fod yn berffaith i’ch helpu i gyflawni eich dyheadau o ran gyrfa.

Rydyn ni’n trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru i’w gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol. Ymunwch â thîm croesawgar ac amrywiol sydd â chenhadaeth gyffrous dros newid. Byddwch chi’n ennill llu o sgiliau a phrofiadau gwerthfawr wrth weithio i ennill cymhwyster proffesiynol, gan eich rhoi ar y trywydd iawn ar gyfer eich dyfodol.

Swyddi gwag

 

Darganfod mwy

Ein hymrwymiad i gyfle cyfartal

Beth yw’r brentisiaeth iawn i mi?

Beth i’w ddisgwyl fel prentis

Pa gymwysterau alla i eu hennill?

Beth yw’r meini prawf cymhwysedd?

Gwneud cais: Beth i’w ddisgwyl

Negeseuon gan ein prentisiaid