Mae’n hawdd prynu tocyn trên i rywun arall.

Dyma’r holl opsiynau sydd ar gael i chi.

 

Ar-lein

Gallwch brynu tocynnau ar-lein a’u derbyn drwy’r post, eu casglu o beiriant tocynnau neu eu llwytho i lawr fel e-docyn. 

  • Os ydych chi’n prynu e-docyn, gallwch roi enw’r teithiwr wrth archebu. Bydd angen iddyn nhw gael dogfen adnabod (ID) wrth deithio.
  • Os ydych chi’n casglu tocynnau o beiriant tocynnau, bydd angen eich cerdyn talu arnoch chi.

 

Yn yr orsaf

Gallwch brynu tocynnau yn un o’n swyddfeydd tocynnau neu’n peiriannau tocynnau. Dim ond os ydych chi’n teithio ar y diwrnod hwnnw y gallwch chi brynu tocyn o’n peiriannau tocynnau. Rydym yn derbyn yr holl brif gardiau credyd a debyd.

 

Dros y ffôn

Gallwch chi ein ffonio ni ar 03333 211 202 a dewis derbyn eich tocynnau drwy’r post neu eu casglu o beiriant tocynnau. Mae ein llinellau ffôn ar agor 24/7 bob dydd (ac eithrio Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan).