Mynd ymlaen i’r prif gynnwys

Gallwch chi grwydro Cymru ar y trên gyda thocyn Rover neu Ranger. Cewch deithio faint fynnwch chi am ddiwrnod a gallwch chi ddewis pa ran o’r rhwydwaith rydych chi am ei chrwydro. A does dim angen cynllunio ymlaen llaw. Gallwch chi eu prynu ar y diwrnod o un o’n swyddfeydd tocynnau neu ar y trên.

  • Crwydro Arfordir y Cambrian
    • Mwynhewch y golygfeydd ar hyd Arfordir godidog y Cambrian gyda thocyn diwrnod Crwydro’r Cambrian. Gallwch ei ddefnyddio am y diwrnod cyfan o 0914 ymlaen o ddydd Llun i ddydd Gwener neu drwy'r dydd ar benwythnosau (dim gwyliau’r banc) o Bwllheli i Aberystwyth a Machynlleth.
    •   Oedolyn Plentyn Teulu Cerdyn Rheilffordd
      Tocyn Diwrnod Crwydro’r Cambrian £13.00 £6.50 £21.00 £8.50 
  • Day Ranger Crwydro’r Brifddinas
    • Am £4.50 yn unig, cewch fwynhau teithio di-ben-draw ar yr un diwrnod ar drenau yn ardal Caerdydd a Phenarth, yn ystod cyfnodau tawelach, gyda’n tocyn trên diwrnod, Crwydro’r Brifddinas. Mae’n fwy hyblyg ac mae’n cynnig gwell gwerth am arian na phrynu tocyn dwyffordd neu wahanol gyfuniadau o docynnau unffordd pan fyddwch chi’n teithio yn ystod cyfnodau tawelach.
    • Gallwch chi ddefnyddio ein Day Ranger Crwydro’r Brifddinas yn ardal Caerdydd a Phenarth rhwng unrhyw rai o’r gorsafoedd yma.
      • Birchgrove
      • Heol Dingle
      • Parc Ninian
      • Cogan
      • Eastbrook
      • Penarth
      • Coryton
      • Y Tyllgoed
      • Radur
      • Bae Caerdydd
      • Grangetown
      • Rhiwbeina
      • Caerdydd Canolog
      • Lefel Uchel y Mynydd Bychan
      • Tŷ Glas
      • Heol y Frenhines Caerdydd
      • Lefel Isel y Mynydd Bychan
      • Waun-Gron Park
      • Cathays
      • Llandaf
      • Yr Eglwys Newydd
      • Danescourt
      • Llanishen
       
    •   Oedolyn Plentyn Cerdyn Rheilffordd
      Day Ranger Crwydro’r Brifddinas £4.50 £2.25 £2.90
  • Crwydro Caerdydd a’r Cymoedd a Thocyn Min Nos y Cymoedd
    • Mentrwch ymhellach gyda’r tocyn Crwydro Caerdydd a’r Cymoedd.
    • Gallwch ei ddefnyddio am y diwrnod cyfan o 0914 ymlaen o ddydd Llun i ddydd Gwener neu drwy'r dydd ar benwythnosau (dim gwyliau’r banc). Min nos, gallwch chi fynd i Gaerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr neu unrhyw le ar reilffyrdd y Cymoedd gyda’n tocyn Min Nos y Cymoedd, lle gallwch chi deithio ar ôl 1830 o ddydd Llun i ddydd Sul.
    •   Oedolyn Plentyn
      Crwydro Caerdydd a’r Cymoedd £13.00 £6.50
      Tocyn Min Nos y Cymoedd £7.00 Ddim ar gael

    • Map Rheilffyrdd y Cymoedd - Tocyn Crwydro Diwrnod a Thocyn Min Nos

  • Crwydro Gorllewin Cymru
    • Gallwch chi deithio faint fynnwch chi yng Ngorllewin Cymru rhwng Caerfyrddin, Doc Penfro, Aberdaugleddau ac Abergwaun gyda’n tocyn Diwrnod Crwydro Gorllewin Cymru.
    •   Oedolyn Plentyn Cerdyn Rheilffordd
      Crwydro Gorllewin Cymru £13.00 £6.50 £8.50

    • Map Gorllewin Cymru - Tocyn Rover

  • Tocyn Cylch Ffestiniog
    • Y Tocyn Cylch   ydy eich tocyn ar Reilffordd Ffestiniog o orsafoedd yng Ngogledd Cymru.
    •   Oedolyn Plentyn Cerdyn Rheilffordd
      Tocyn Cylch Ffestiniog £39.00 - £44.00 £19.50 - £22.00 Ddim ar gael

    • Map Ffestiniog - Tocyn Cylch

  • Day Ranger Cylch Calon Cymru
    • Mae ein Ranger Cylch Calon Cymru yn caniatáu i chi deithio ar hyd Rheilffordd Calon Cymru ar lwybr cylchol dros 1 neu 2 ddiwrnod.
    •   Oedolyn Plentyn Cerdyn Rheilffordd
      Day Ranger Cylch Calon Cymru £39.00 £19.50 £25.75
      Two Day Ranger Cylch Calon Cymru £59.00 £29.50 £39.30

    • Map Rheilffordd Calon Cymru - Tocyn Ranger

  • Rover Gogledd Cymru
    • Mae ein tocynnau Ranger a Rover yn rhoi hyblygrwydd llwyr i chi a dydy Rover Gogledd Cymru yn ddim gwahanol. Gallwch chi ddewis teithio mewn unrhyw ddau neu dri pharth neu’r Cyan.
    • Mae Rheilffordd Ffestiniog a Rheilffordd Eryri yn cynnig disgownt o 50% oddi ar docynnau unffordd neu ddwyffordd trydydd dosbarth i'r rheini sy’n dal tocynnau Rover Gogledd Cymru ar gyfer Pob Parth a Pharthau Conwy (C) a Gwynedd (G a M).
    • Rheilffordd Ffestiniog a Rheilffordd Eryri
       
    •   Oedolyn Plentyn Cerdyn Rheilffordd
      Rover Gogledd Cymru 2 Barth £13.00 £6.50 Ddim ar gael
      Rover Gogledd Cymru 3 Pharth £22.00 £11.00 Ddim ar gael
      Rover Gogledd Cymru Pob Parth £36.00 £18.00 £23.75

    • Map Gorllewin Cymru - Tocyn Rover

Prynu tocynnau - Dydy’r gwasanaeth hwn ddim ar gael yn Gymraeg eto

  • Dim ffioedd archebu
  • Dim tâl am ddefnyddio cerdyn
{{ copy.labels.originErrorMessage }}
{{ copy.labels.destinationErrorMessage }}
{{ copy.labels.booking_assistance_url }} {{ copy.labels.ba }}