Gallwch chi deithio faint fynnwch chi yng Ngorllewin Cymru rhwng Caerfyrddin, Doc Penfro, Aberdaugleddau ac Abergwaun gyda’n tocyn Diwrnod Crwydro Gorllewin Cymru.

 

Prisiau

  Oedolyn Plentyn Cerdyn Rheilffordd*
Crwydro Gorllewin Cymru £14.60 £7.30 £9.60

*Arbedwch ragor gyda'r Cardiau Rheilffordd canlynol: 16-25, Dau Berson , Pobl Anabl neu Pobl Hŷn.

 

Ble mae prynu Tocyn Crwydro Gorllewin Cymru

Prynwch docyn Crwydro Gorllewin Cymru o swyddfa docynnau eich gorsaf leol. I brynu ymlaen llaw, ffoniwch 08448 560 688 neu e-bostiwch y tîm - tms@tfwrail.wales.

 

Map

Map Gorllewin Cymru - Tocyn Rover

 

Gweithgareddau

Os ydych yn mwynhau bwyd, crwydro, mwynhau rhuthr adrenalin, neu'n edrych am fan tawel i ymlacio. Mae gan Groeso Cymru syniadau grêt ar gyfer eich taith.

 

Telerau ac amodau

  • Gyda thocyn Crwydro Gorllewin Cymru gallwch chi deithio faint fynnwch chi ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru rhwng ac yn cynnwys Caerfyrddin, Doc Penfro, Harbwr Abergwaun ac Aberdaugleddau am ddiwrnod.
  • Yn ddilys ar gyfer teithio ar ôl 09:30 dydd Llun i ddydd Gwener, a drwy ddydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc.
  • Yn ddilys ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru.
  • Prynwch docyn Crwydro Gorllewin Cymru o swyddfa docynnau eich gorsaf leol.
  • Os nad oes cyfleusterau prynu tocynnau yn yr orsaf lle rydych chi’n cychwyn eich taith, gallwch hefyd brynu tocyn Crwydro Gorllewin Cymru gan Oruchwyliwr ar wasanaeth trên Trafnidiaeth Cymru.
  • Gellir cael ad-daliad am docynnau heb eu defnyddio, ond rhaid talu ffi weinyddu.
  • Pris yn ddilys hyd at 31 Rhagfyr 2024.