O gestyll hanesyddol a mynyddoedd dramatig i draethau godidog a theithiau cerdded gwych, mae modd darganfod mwy o Gymru am lai gan ddefnyddio Pas Archwilio Cymru.

Mae ein Tocyn Crwydro Cymru yn ddilys ar gyfer teithio am bedwar diwrnod o fewn cyfnod o 8 diwrnod i unrhyw le yng Nghymru ar y trên ac ar fysiau rhai cwmnïau.

 

Prisiau

  Oedolyn Plentyn Cerdyn Rheilffordd*
Pas De Cymru £76 £38 £50.15

*Arbedwch ragor gyda'r Cardiau Rheilffordd canlynol: 16-25, Dau Berson , Pobl Anabl neu Pobl Hŷn.

 

Ble i brynu tocyn Archwilio Cymru

Gallwch brynu Pas Archwilio Cymru mewn unrhyw un o'n swyddfeydd tocynnau . Gallwch hefyd eu prynu mewn gorsafoedd trenau mwy yn y DU a gan Asiantau Teithio wedi'u penodi gan National Rail. Does dim modd eu prynu ar-lein, i brynu ymlaen llaw, ffoniwch 08448 560 688 neu e-bostiwch y tîm - tms@tfwrail.wales.

 

Gweithgareddau

Os ydych yn mwynhau bwyd, crwydro, mwynhau rhuthr adrenalin, neu'n edrych am fan tawel i ymlacio. Mae gan Groeso Cymru syniadau grêt ar gyfer eich taith.

 

Ein partneriaid bysiau

Bysiau Dyma restr o'r cwmnïau bysiau yng Nghymru a fydd yn derbyn ‘Tocyn Crwydro Cymru’:

  • Arriva Cymru
  • First Group South and West Wales
  • Cardiff Bus
  • Stagecoach South Wales Bus

 

Telerau ac amodau

  • Gallwch chi deithio faint fynnwch chi yn yr ardal ddaearyddol ddynodedig ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru am 4 diwrnod o fewn cyfnod o 8 diwrnod.
  • Ar gyfer teithio rhwng Doc Penfro/Aberdaugleddau/Harbwr Abergwaun - Amwythig drwy Landrindod a Chasnewydd, ynghyd â Chasnewydd - Caerloyw a holl wasanaethau Caerdydd a’r Cymoedd gan gynnwys Maesteg, Llanilltud Fawr a Glynebwy. 
  • Gallwch chi deithio faint fynnwch chi gyda thocyn Crwydro De Cymru ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn yr ardal ddaearyddol ddynodedig am 4 diwrnod o fewn cyfnod o 8 diwrnod.
  • Yn ddilys ar gyfer teithio ar ôl 09:30 dydd Llun i ddydd Gwener, a drwy ddydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc.
  • Fodd bynnag, does dim cyfyngiad rhwng Amwythig ac Abertawe ar wasanaethau Calon Cymru neu i’r gorllewin o Gaerfyrddin.
  • Dim cyfyngiad ar fysiau.
  • Yn ddilys ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, Great Western Railway.
  • Prynwch docyn Crwydro De Cymru o swyddfa docynnau eich gorsaf leol.  
  • Os nad oes cyfleusterau prynu tocynnau yn yr orsaf lle rydych chi’n cychwyn eich taith, gallwch hefyd brynu tocyn Crwydro De Cymru gan Oruchwyliwr ar wasanaeth trên Trafnidiaeth Cymru.
  • Gellir cael ad-daliad am docynnau heb eu defnyddio, ond rhaid talu ffi weinyddu.