O gestyll hanesyddol a mynyddoedd dramatig i draethau godidog a theithiau cerdded gwych, mae modd darganfod mwy o Gymru am lai gan ddefnyddio Pas Archwilio Cymru.

Mae ein Tocyn Crwydro Cymru yn ddilys ar gyfer teithio am bedwar diwrnod o fewn cyfnod o 8 diwrnod i unrhyw le yng Nghymru ar y trên ac ar fysiau rhai cwmnïau.

 

Prisiau

  Oedolyn Plentyn Cerdyn Rheilffordd*
Pas Gogledd a Chanolbarth Cymru £76 £38 £50.15

*Arbedwch ragor gyda'r Cardiau Rheilffordd canlynol: 16-25, Dau Berson, Pobl Anabl neu Pobl Hŷn.

 

Ble mae prynu Pas Archwilio Cymru

Gallwch brynu Pas Archwilio Cymru mewn unrhyw un o'n swyddfeydd tocynnau.  Gallwch hefyd eu prynu mewn gorsafoedd trenau mwy yn y DU a gan Asiantau Teithio wedi'u penodi gan National Rail. Does dim modd eu prynu ar-lein, i brynu ymlaen llaw, ffoniwch 08448 560 688 neu e-bostiwch y tîm - tms@tfwrail.wales.

 

Alla i uwchraddio o docyn Safonol i docyn Dosbarth Cyntaf?

Gallwch uwchraddio o docyn Dosbarth Safonol i Ddosbarth Cyntaf ar ein gwasanaethau, lle mae’n bosib gwneud hynny.  Mae hyn yn berthnasol i'n holl docynnau Safonol gan gynnwys Tocyn Sengl Unrhyw Amser ac Ymlaen Llaw, Tocyn Dychwelyd, Tocynnau Tymor a thocynnau Rover a Ranger.  Rhowch wybod i'r tocynnwr os hoffech uwchraddio gan y bydd angen iddynt gadarnhau bod lle yn y cerbyd(au) Dosbarth Cyntaf.  Cofiwch y bydd cost ychwanegol hefyd am unrhyw brydau a archebwch ar y trên os ydych yn uwchraddio i docyn Dosbarth Cyntaf.

 

Gweithgareddau

Os ydych yn mwynhau bwyd, crwydro, mwynhau rhuthr adrenalin, neu'n edrych am fan tawel i ymlacio. Mae gan Groeso Cymru syniadau grêt ar gyfer eich taith.

 

Ein partneriaid bysiau

Bysiau Dyma restr o'r cwmnïau bysiau yng Nghymru a fydd yn derbyn ‘Tocyn Crwydro Cymru’:

  • Arriva Cymru
  • First Group South and West Wales
  • Cardiff Bus
  • Stagecoach South Wales

 

Telerau ac amodau

  • Gallwch chi deithio faint fynnwch chi yn yr ardal ddaearyddol ddynodedig am ddiwrnod ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru. 
  • Gallwch chi deithio faint fynnwch chi gyda thocyn Crwydro Gogledd a Chanolbarth Cymru ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru ac ar rai gwasanaethau bws yng Nghymru am 4 diwrnod o fewn cyfnod o 8 diwrnod, o fewn yr ardal ddaearyddol ddynodedig.
  • Gellir mynd o Gaergybi - Crewe - Amwythig - Pwllheli a’r arfordir, ynghyd â Llandudno - Cyffordd Llandudno a Chyffordd Dyfi - Aberystwyth.
  • Yn ddilys ar ôl 09:30 dydd Llun i ddydd Gwener, a drwy ddydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc. Yn ddilys i deithio dros 4 diwrnod o fewn cyfnod o 8 diwrnod. 
  • Fodd bynnag, does dim cyfyngiad rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog neu Aberystwyth - Pwllheli.
  • Dim cyfyngiad ar fysiau.
  • Yn ddilys ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, Great Western RailwayNorthern a Avanti West Coast.
  • Prynwch docyn Crwydro Gogledd a Chanolbarth Cymru o swyddfa docynnau eich gorsaf leol.
  • Ios nad oes cyfleusterau prynu tocynnau yn yr orsaf lle rydych chi’n cychwyn eich taith, gallwch hefyd brynu tocyn Crwydro’r Cambrian gan Oruchwyliwr ar wasanaeth trên Trafnidiaeth Cymru.
  • Gellir cael ad-daliad am docynnau heb eu defnyddio, ond rhaid talu ffi weinyddu.
  • Does dim cyfyngiad amser rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog neu Aberystwyth - Pwllheli.