Min nos, gallwch chi fynd i Gaerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr neu unrhyw le ar reilffyrdd y Cymoedd gyda’n tocyn Min Nos y Cymoedd, lle gallwch chi deithio ar ôl 18:30 o ddydd Llun i ddydd Sul.

 

Prisiau

  Oedolyn Plentyn
Tocyn Min Nos y Cymoedd £8.20 Ddim ar gael

 

Ble mae prynu tocyn Min Nos y Cymoedd

Prynwch docyn Crwydro Caerdydd a’r Cymoedd o swyddfa docynnau eich gorsaf leol. I brynu ymlaen llaw, ffoniwch 08448 560 688 neu e-bostiwch y tîm - tms@tfwrail.wales.

 

Map

Map Tocyn Min Nos

 

Telerau ac amodau

  • Mae Valley Lines Night Rider yn cynnig teithio diderfyn o fewn yr ardal ddaearyddol ddynodedig am un noson (o 18:30 ymlaen) ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru. Hefyd yn ddilys ar gyfer taith yn ôl ar y trên cyntaf sy'n gadael y gyrchfan wreiddiol y bore canlynol.
  • Yn ddilys ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn yr ardal ddaearyddol ddynodedig ar ôl 18:30 am un noson.
  • Yn ddilys ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru.
  • Prynwch docyn Crwydro Caerdydd a’r Cymoedd o swyddfa docynnau eich gorsaf leol.  
  • Os nad oes cyfleusterau prynu tocynnau yn yr orsaf lle rydych chi’n cychwyn eich taith, gallwch hefyd brynu tocyn Crwydro Caerdydd a’r Cymoedd gan Oruchwyliwr ar wasanaeth trên Trafnidiaeth Cymru.
  • Gellir cael ad-daliad am docynnau heb eu defnyddio, ond rhaid talu ffi weinyddu.
  • Pris yn ddilys hyd at 31 Rhagfyr 2024.