Stadiwm cenedlaethol Cymru.
Mae Stadiwm Principality wrth galon canol dinas Caerdydd, ychydig funudau'n unig ar droed o orsaf Ganolog Caerdydd.
Ydych chi'n teithio ar ddiwrnodau gemau neu ar gyfer digwyddiad mawr? Bydd gwasanaethau trenau i Gaerdydd yn hynod o brysur, felly cynlluniwch eich taith i gyrraedd mewn da bryd.
Mae rhai o feysydd parcio gorsaf Caerdydd Canolog wedi cau cyn ac yn ystod gemau, ac mae Gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd fel arfer yn cau cyn i'r digwyddiadau orffen.
Er mwyn eich helpu chi i gyrraedd adref yn ddiogel, mae gennym systemau ciwio yng ngorsaf Caerdydd Canolog ar ôl y gêm. Mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi giwio y tu allan i'r orsaf cyn mynd ar eich trên fel nad yw platfformau'n gorlenwi.
Prynu tocynnau - Dydy’r gwasanaeth hwn ddim ar gael yn Gymraeg eto
Ewch ati i ganfod rhagor o gyrchfannau
Mae Cymru yn cynnig amryw o brofiadau – ewch i grwydro i bob twll a chornel!
-
Blwyddyn y Môr Dewch i ddarganfod
-
Stadiwm Dinas Caerdydd Dewch i ddarganfod
-
Castell Talacharn Dewch i ddarganfod
-