Submitted by content-editor on

Station facilities

  • Parcio
  • Peiriant tocynnau

 

 
  • Gwybodaeth cyffredinol am wasanaethau
    • Lefel Staffio
    • Teledu Cylch Cyfyng
    • Gwybodaeth Ar Gael Gan Staff
    • Sgriniau Gwybodaeth i Gwsmeriaid
    • Mannau Cymorth i Gwsmeriaid
  • Prynu a chasglu tocynau
    • Swyddfa Docynnau
    • Casglu Tocynnau a Brynwyd Ymlaen Llaw
    • Peiriant Tocynnau
    • Cyhoeddi Cerdyn Oyster
    • Defnyddio Cerdyn Oyster
    • Dangos Meysydd Cerdyn Oyster Bob Tro
    • Cyhoeddi Cerdyn Clyfar
    • Ychwanegiad Cerdyn Clyfar
    • Dilysu Cerdyn Clyfar
    • Sylwadau Cerdyn Clyfar
    • Tocynnau Cosb
  • Holl gyfleuterau’r orsaf
  • Hygyrchedd a mynediad symudedd
    • Llinell Gymorth
    • Cymorth ar gael gan Staff
    • Dolen Sain
    • Peiriannau Tocynnau Hygyrch
    • Ramp i Fynd ar y Trên
    • Tacsis Hygyrch
    • Ffonau Cyhoeddus Hygyrch
    • Y Gorsafoedd Agosaf sydd â mwy o Gyfleusterau
    • Toiledau’r Cynllun Allwedd Cenedlaethol
    • Mynediad Heb Risiau
    • Gatiau Tocynnau
    • Man Gollwng Teithwyr â Nam Symudedd
    • Teithio â Chymorth
  • Gwybodaeth parcio
    • Mannau Storio Beiciau
    • Maes Parcio
    • Gwasanaethau Bws yn lle’r Trenau
    • Teithio Ymlaen
  • Gwybodaeth i gwsmeriad
    • Gwasanaethau i Gwsmeriaid
    • Cadw Bagiau
    • Eiddo Coll
Gwybodaeth fyw am drenau sy’n gadael ac yn cyrraedd

Trosolwg

Caiff ei galw’n swyddogol yn Orsaf Pont-y-pŵl a New Inn, ac fe’i hagorwyd am y tro cyntaf ar ddechrau 1854 fel Heol Casnewydd, ond erbyn diwedd y flwyddyn roedd yn cael ei galw’n Heol Pont-y-pŵl. Roedd yn angenrheidiol ar gyfer diwydiant glo ffyniannus Cymru, a gludwyd i ddechrau gan gamlesi, nes i’r injan stêm gymryd drosodd. Roedd trenau’n cynnig ffordd gyflymach a mwy economaidd o gludo glo a nwyddau eraill o gwmpas y wlad, ac fe ostyngodd y defnydd o gamlesi’n raddol.

Roedd Pontypool Road, erbyn dechrau’r 20fed ganrif, yn gartref i nifer o gyffyrdd, siediau a seidins, ac roedd yn cael ei llethu, a olygodd fod angen adeiladu gorsaf fwy ar safle cyfagos i ddelio â’r nifer enfawr o deithwyr. Roedd y ddau Ryfel Byd yn galw am gronfeydd trwm o lo, a ddaeth drwy Pontypool Road, gan alluogi’r orsaf a’r gweithlu cyfagos i ffynnu.

Yn ystod y cyfnod ar ôl y rhyfel, gwelwyd gostyngiad yn y defnydd o orsafoedd, gyda llawer yn cau’n gyfan gwbl. Erbyn y 1970au, Pont-y-pŵl oedd enw’r orsaf, ac yn 1974, cafodd yr ardal ei hailddatblygu’n sylweddol, gan gynnwys adnewyddu’r swyddfa docynnau – y darn olaf o’r adeilad gwreiddiol, ac yn 2017, gyda chynnydd graddol yn nifer y teithwyr, ehangwyd y maes parcio.

 

  • Faint o amser mae’n ei gymryd i gerdded o Orsaf Pont-y-pŵl i ganol tref Pont-y-pŵl?

    • Mae’n cymryd tua phum munud ar hugain i gerdded y filltir i ganol tref Pont-y-pŵl, gan fynd drwy The Highway a Ffordd Brynbuga.
  • Pa gyfleusterau parcio ceir sydd ar gael yng Ngorsaf Pont-y-pŵl?

    • Mae cyfleusterau parcio ceir 24 awr yng Ngorsaf Pont-y-pŵl.
  • Pa gyfleusterau sydd ar gael i storio beiciau yng Ngorsaf Pont-y-pŵl?

    • Mae lle i storio 10 beic yng Ngorsaf Pont-y-pŵl.
  • Pa gyfleusterau eraill sydd ar gael yng Ngorsaf Pont-y-pŵl?

    • Ffonau cardiau
    • Mynediad i bobl anabl – does dim grisiau yn yr orsaf, ac mae rampiau, cadeiriau olwyn a dolenni sain ar gael
  • Oeddech chi’n gwybod?
    Tocynnau Multiflex
    Yw’r tocyn Unffordd rhataf ar gyfer cannoedd o deithiau rheolaidd.
    Dim ond ar gael ar ein Ap
  • Oeddech chi’n gwybod?
    Teithiwch yn Saffach
    Gallwch gynllunio ymlaen llaw a phenderfynu pryd i deithio gan ddefnyddio ein Gwiriwr Capasiti.
    Gwirio capasiti