Accessibility icons

Email icon

Ar-lein

Archebu Cymorth i Deithwyr

We'll just need a few details from you to book your assistance.

Phone icon

Dros y ffôn

03330 050 501

Ar agor 24 awr y dydd bob dydd, heblaw 25 a 26 Rhagfyr.

Archebu cymorth arbennig

Rydyn ni am ei gwneud hi mor hawdd â phosib i chi deithio gyda ni ac rydyn ni’n cynnig cymorth o sawl math os oes gennych chi anghenion o ran mynediad.

Fe wnawn ein gorau bob amser i’ch helpu chi, pa un a ydych chi’n teithio ar fyr rybudd neu wedi archebu cymorth ymlaen llaw.

Mae ein gwasanaeth Cymorth i Deithwyr ar gael i'r rheini sydd angen cymorth ychwnaegol i deithio.  Rydym yn argymell bod teithwyr yn archebu cymorth cyn teithio - bydd yn help mawr i ni wrth gynllunio a sichrau nad ydych yn gorfod aros am y cymorth.

Rydyn ni eisiau i bawb deithio'n hyderus. Dyna pam, os ydych chi’n bwriadu teithio gyda gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, gallwch ofyn am cymorth archeb ymlaen llaw – nawr hyd at 2 awr cyn y disgwylir i’ch taith ddechrau, unrhyw adeg o’r dydd.

Byddwch yn ymwybodol y gallwch chi bob tro “troi fyny a mynd” heb archebu cymorth ymlaen llaw, neu os ydych wedi archebu lle ar-lein nad yw wedi'i gadarnhau eto. Byddwn yn darparu cymorth i fynd â chi i ben eich taith.
 

Mae sawl ffordd o archebu:

  • Ar-lein wrth brynu eich tocynnau: dewiswch yr help sydd ei angen arnoch o'n hamrywiaeth o opsiynau
  • Ar-lein - drwy ddefnyddio ein ffurflen archebu cymorth
  • Dros y ffôn: ffoniwch ein tîm Cymorth i Deithwyr ar 03330 050 501 (Ar agor 24 awr y dydd bob dydd, heblaw am Ddiwrnod Nadolig).
  • Drwy wasanaeth Testun y Genhedlaeth Nesaf: ffoniwch ein tîm Cymorth i Deithwyr drwy'r gwasanaeth cyfnewid testun ar 18001 03330 050 501 (Ar agor 24 awr y dydd, bob dydd. heblaw am Ddiwrnod Nadolig).

Gall ein tîm Cymorth wrth Deithio hefyd werthu tocynnau i chi a neilltuo seddi neu le i gadair olwyn (ar drenau lle mae'n bosibl cadw sedd/lleoedd)

Os nad ydych wedi archebu cymorth i deithio, byddwn bob amser yn gwneud ein gorau i’ch helpu, ond gallai gymryd ychydig mwy o amser i drefnu’r cymorth sydd ei angen arnoch.

Ar gyfer National Rail

Nid yw galwadau’n costio mwy na ffonio rhifau daearyddol (01 neu 02), ac mae’n bosib eu bod wedi’u cynnwys mewn munudau cynhwysol a chynlluniau disgownt yn yr un modd.

  • Ein hymrwymiad Cymorth i Deithwyr (Passenger Assist)
    • Mae Cymorth i Deithwyr yn system genedlaethol sy’n cael ei defnyddio gan bob cwmni trên, sy’n helpu gweithredwyr i drefnu Cymorth i Deithwyr ar gyfer cwsmeriaid anabl neu gwsmeriaid ag anawsterau symud.
    •  
    • Rydym am i bawb deithio gyda hyder.  Dyna pan, os ydych chi am deithio ar wasanaethau Trenau Trafnidiaeth Cymru, gallwch wneud cais am gymorth ymlaen llaw - nawr hyd at 2 awr cyn dechrau eich taith, unrhyw amser o'r dydd.
    •  
    • Mae ein tîm Cymorth i Deithwyr ar gael ar y ffôn 24 awr y dydd (heblaw am Ddiwrnod Nadolig), neu gallwch ddefnyddio ein proses archebu ar-lein 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos (heblaw am Ddiwrnod Nadolig).  Gweler adran C Gwneud Rheilffyrdd yn Hygyrch TrC: Canllaw i Bolisïau a Gweithdrefnau.
    •  
    • Cofiwch y gallwch chi ddewis 'troi i fyny a theithio' heb drefnu cymorth ymlaen llaw, neu os ydych chi wedi prynu'ch tocyn ar-lein sydd eto i gael ei gadarnhau. Fe wnawn ni ein gorau glas i'ch cael i ben eich taith.

 

Hygyrchedd trên

Dysgwch fwy am gyfleusterau mynd ar y trên i’ch helpu i drefnu eich taith.

Cofiwch fod trenau sydd heb gyfleusterau cwbl hygyrch, gan gynnwys toiledau, yn gweithredu ar rai llwybrau.  Rydyn ni’n gweithio’n galed i wella ein rhwydwaith drenau cyhoeddus, gan gynnwys darparu mwy o drenau hygyrch.