Changing Places

Ni all 1/4 miliwn o bobl anabl ddefnyddio toiledau hygyrch safonol.

Mae gan doiledau Changing Places fwy o le a'r offer iawn, gan gynnwys mainc newid a theclyn codi.

 

Ble maen nhw

Ar wefan Changing Places ceir map defnyddiol i ddod o hyd i’r cyfleusterau agosaf pan fyddwch chi allan. Rydym yn darparu cyfleuster Changing Places yn y gorsafoedd a ganlyn:

  • Aberystwyth - rhagor o wybodaeth yma
  • Pen-y-bont ar Ogwr - rhagor o wybodaeth yma
  • Llandudno - rhagor o wybodaeth yma
  • Parcffordd Port Talbot - rhagor o wybodaeth yma
  • Rhyl - rhagor o wybodaeth yma
  • Abertawe - rhagor o wybodaeth yma

 

Pwy sy’n cael defnyddio cyfleusterau Changing Places?

Mae'r cyfleusterau ar gyfer unrhyw un sydd eu hangen - nid oes rhaid i chi fod yn un o’n cwsmeriaid i ddefnyddio'r cyfleusterau. Bydd angen allwedd radar arnoch i'w hagor yn annibynnol (er bod gan staff yn y gorsafoedd allwedd hefyd). Bydd angen i chi ddod â'ch sling eich hun i ddefnyddio'r teclynnau codi.

Os oes gennych chi gwestiynau am y cyfleusterau, cysylltwch gyda’n ffurflen ar-lein neu 03333 211 202 24/7 bob dydd (ac eithrio Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan).