Rydyn ni’n cynnig Cynllun Teithio â Chŵn Cymorth mewn partneriaeth ag Assistance Dogs (UK).

Nod y cynllun yw codi ymwybyddiaeth o anghenion perchenogion cŵn cymorth ymhlith staff rheilffyrdd a chwsmeriaid.

Mae cŵn cymorth yn cael hyfforddiant dwys i’w paratoi i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus. Maen nhw’n cael eu hyfforddi i eistedd wrth draed eu perchennog ac mae angen lle arnyn nhw i eistedd neu i orwedd yn ystod eu taith.

Mae Assistance Dogs (UK) yn cynrychioli wyth elusen gofrestredig: Guide Dogs, Canine Partners, Dog A.I.D, The Seeing Dogs Alliance, Hearing Dogs for Deaf People, Medical Detection Dogs, Support Dogs a Dogs for Good.

 

Sut mae'r cynllun teithio Ci Cymorth yn gweithio

Mae'r cynllun yn helpu cŵn cymorth a'u perchnogion i deithio'n gyfforddus ac yn ddiogel ar ein trenau. Rhoi ffordd i’n cwsmeriaid â chwn tywys hysbysu cwsmeriaid eraill o’u presenoldeb o dan y bwrdd ac mewn man eistedd i bob pwrpas. Mae'r cynllun hwn yn rhoi 'lle gwarchodedig' i'r ci tywys.

Rydych chi'n cael cerdyn personol, hynod weladwy ac amldro 'Cŵn Cymorth Dan Sedd' y gellir ei ddefnyddio mewn dwy ffordd.

  1. Lle mae slotiau ar gael gall y cerdyn 'Ci Cymorth Dan Sedd' slotio i mewn i'r daliwr sedd safonol ar ben y sedd wrth ymyl yr un rydych chi'n eistedd ynddi.
  2. Fel arall, gellir gosod y cerdyn 'Ci Cymorth Dan Sedd' ar y bwrdd yn union o flaen y sedd wrth ymyl yr un yr ydych yn eistedd neu ar y sedd ei hun.

Mae hyn yn rhoi gwybod i gwsmeriaid eraill y dylid cadw'r sedd, a'r gofod oddi tani, yn rhydd i'ch ci.

Trafnidiaeth Cymru Cerdyn Ci Cymorth

 

Gwneud cais am eich cerdyn

Anfonwch e-bost atom gan roi eich enw a’ch cyfeiriad: community@tfwrail.wales

Byddwn ni’n postio’r cerdyn atoch cyn pen saith diwrnod gwaith. Gallwch ei ddefnyddio ar unrhyw wasanaeth trenau a weithredir gennym.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y cynllun, cysylltwch â’n tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid ar 03333 211 202 neu anfonwch e-bost i community@tfwrail.wales.

 

Archebu seddi

Ar gyfer gwasanaethau lle gellir cadw seddau, gall y tîm Teithio â Chymorth hefyd gadw dwy sedd - un i chi a'r llall i gi cymorth orwedd o'i flaen.