Y Cynllun Waled Oren

Mae’r Cynllun Waled Oren yn brosiect ar y cyd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o strategaeth Anhwylderau Sbectrwm Awtistig Cymru Gyfan.

Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus i hyrwyddo’r Waled Oren fel offeryn cyfathrebu ar gyfer teithwyr.

Os ydych chi’n rhan o fusnes, sefydliad neu ysgol ac yn awyddus i ddarparu Waledi Oren i staff, cwsmeriaid neu fyfyrwyr, cysylltwch â’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn uniongyrchol. Bydd y tîm hefyd yn gallu rhoi rhagor o gymorth neu wybodaeth i chi.

Cofiwch mai dim ond yng Nghymru y mae hyn yn cael ei gydnabod ar hyn o bryd.

 

Ar gyfer pwy mae’r cynllun?

Mae’r Waled Oren ar gyfer unrhyw un a allai ei chael hi’n anodd cyfleu eu hanghenion wrth deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus ac a hoffai gael cymorth i gyfathrebu â staff wrth deithio ar fws neu drên. Mae wedi’i chynllunio’n arbennig i deithwyr ag Anhwylderau Sbectrwm Awtistig. Fodd bynnag, gall unrhyw un ag anabledd cudd ei ddefnyddio os byddai’n well ganddo gyfathrebu â staff heb ddefnyddio iaith lafar.

 

Sut mae’n gweithio

Mae gan y Waled Oren bocedi plastig lle gallwch ychwanegu geiriau a lluniau i ddweud wrthym am eich anghenion. Dangoswch y waled i’n goruchwylwyr a’n staff yn yr orsaf pan fyddwch chi’n teithio neu’n prynu tocyn. Maen nhw wedi cael hyfforddiant i adnabod y waled ac i roi’r help priodol.

 

Sut mae creu geiriau a lluniau

Gallwch lawrlwytho templedi ar-lein neu greu eich templed eich hun drwy dorri darn o bapur i fesur 90x60mm.

Taflen Argraffu Waled Oren | Agor ar ffurf PDF

Mae rhagor o bethau i’w lawrlwytho ar gyfer y Waled Oren ar gael o wefan Awtistiaeth Cymru.

 

Mewn argyfwng

Rydyn ni’n argymell eich bod yn cadw manylion cyswllt y person yr hoffech i ni ei ffonio mewn argyfwng yn eich Waled Oren. Dangoswch eich waled i aelod o staff i ddangos bod angen help arnoch chi.

 

Cael eich Waled Oren

Os gallai’r Waled Oren eich cefnogi chi wrth deithio gyda ni, cysylltwch â ni gyda’ch cyfeiriad llawn ac fe anfonwn ni waled atoch chi: