Gall ein tîm Teithio Grŵp arbenigol eich helpu i gynllunio'ch taith a dod o hyd i'r pris gorau i chi.

 

Tocynnau Diwrnod i Grwpiau Bach - 3 i 9 o bobl

  • Os oes rhwng tri a naw ohonoch yn teithio gyda'ch gilydd, gallwch arbed arian trwy brynu tocyn Diwrnod i Grŵp Bach sy'n cynnig gostyngiad o 25% ar Docynnau Diwrnod Safonol Dwyffordd.
  • Yn ddilys ar rwydwaith Trafnidiaeth Cymru ar ôl 09:30 (mae'r tocyn diwrnod grŵp bach ar gael dim ond pan fydd Tocyn Diwrnod Safonol Dwyffordd ar gael) o ddydd Llun i ddydd Gwener, drwy'r dydd ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc.
  • Rhaid i bob aelod o'r grŵp deithio gyda'i gilydd bob amser i sicrhau bod y tocynnau'n ddilys.
  • Gellir prynu tocynnau ar-lein, drwy’r ap ac o beiriant tocynnau neu eich swyddfa docynnau leol.

 

Grwpiau Mawr - 10 neu fwy o bobl

  • Arbed 25% ar ein prisiau safonol. Mae nifer ein tocynnau Grŵp yn gyfyngedig a rhaid eu harchebu o leiaf saith diwrnod ymlaen llaw.
  • Yn ddilys ar rwydwaith Trafnidiaeth Cymru ar ôl 09:30 (mae'r tocyn diwrnod grŵp ar gael dim ond pan fydd Tocyn Diwrnod Safonol Dwyffordd ar gael) o ddydd Llun i ddydd Gwener, drwy'r dydd ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc.
  • Rhaid i bob aelod o'r grŵp deithio gyda'i gilydd bob amser i sicrhau bod y tocynnau'n ddilys.

Gallwch wneud ymholiad ynghylch archebu tocynnau trwy lenwi'r ffurflen isod a bydd ein tîm yn cysylltu â chi o fewn 2 ddiwrnod gwaith.

Neu gallwch ffonio'r tîm ar 08448 560 688 Dydd Llun - Dydd Gwener 09:00 - 17:00

 

Ble yr hoffech chi deithio?

Dosbarth teithio

Dyddiad ac amser teithio

Dewiswch y math o amserlen
Ydych chi'n dychwelyd?
Dewiswch y math o amserlen

Eich manylion

Sylwch mai dim ond ar gyfer rhwng 10-30 o bobl y gallwn wneud trefniadau ar gyfer grŵp

Enw
Teitl
Teitl
  • Miss
  • Ms
  • Mr
  • Mrs
  • Dr
  • Arall...
Cyfeiriad
Modd cysylltu o ddewis
This question is for testing whether or not you are a human visitor and to prevent automated spam submissions.

 

Pethau i'w hystyried pan yn teithio fel rhan o grŵp

  • Rhaid i'ch grŵp deithio gyda'i gilydd ar yr un trenau.
  • Nid ydym yn cynnig gostyngiadau i blant gyda thocynnau Diwrnod Grwpiau Bach ond gall plant eu defnyddio.
  • Gall mynd a dod oddi ar drenau mewn grwpiau mawr achosi oedi. Felly gofynnwn yn garedig i gydlynydd eich grŵp sicrhau bod pawb yn barod i ddod oddi ar y trên yn brydlon.  Yn yr orsaf, rhaid i chi gyrraedd y platfform o leiaf ddeg munud cyn i'ch trên adael.  Ar y trên - cyn cyrraedd - dylai eich grŵp gasglu ei holl eiddo a bod yn barod i ddod oddi ar y trên yn brydlon hefyd.