Dewiswch yr opsiwn gorau i chi neu darllenwch am y mathau gwahanol o Docynnau Tymor

Math o docyn

Multiflex

Tymor Wythnosol

Tymor Misol

Tymor Blynyddol

Y dewis gorau ar gyfer: Gallwch chi ddefnyddio tocynnau Multiflex i’r naill gyfeiriad rhwng y gorsafoedd o un pen y daith i’r llall. Mae’r tocyn yn ddilys am dri mis ar ôl ei brynu. 1 wythnos o deithio  1 mis o deithio Teithio am 10 mis
Esboniad 12 tocyn unffordd am bris 10. Rhaid iddynt fod yr un ddwy gyrchfan yn unig.  Prynwch docyn ar yr ap yn unig Gallwch ddefnyddio’r tocyn unrhyw bryd dros unrhyw saith niwrnod ar ôl ei gilydd  Mae tocyn misol yn ddilys am un mis calendr llawn Mae tocyn blynyddol yn ddilys am flwyddyn galendr lawn, gan arbed hyd yn oed fwy na phrynu 10 neu fwy o docynnau misol
Ar gael ar Gerdyn Clyfar? ✖  Nac ydy ✔  Ydy ✔  Ydy ✔  Ydy
Rhatach na thocyn safonol? ✔  Ydy* ✔  Ydy ✔  Ydy ✔  Ydy
Ar gael gyda chynllun Tocyn Tymor corfforaethol? ✖  Nac ydy ✖  Nac ydy ✖  Nac ydy ✔  Ydy

*Mae 12 Tocyn Taith Unffordd Multiflex yn costio llai na 5 Tocyn Diwrnod Dwyffordd Unrhyw Bryd sy’n cael eu prynu ar ddiwrnod y daith am yr un siwrnai.

  • Multiflex
    • Y dewis gorau ar gyfer: Teithio ar yr un llwybr ychydig o weithiau dros gyfnod o 3 mis
      Esboniad 12 tocyn unffordd am bris 10. Rhaid iddynt fod yr un ddwy gyrchfan yn unig.  Prynwch docyn ar yr ap yn unig
      Ar gael ar Gerdyn Clyfar? ✖  Nac ydy
      Rhatach na thocyn safonol? ✔  Ydy
      Ar gael gyda chynllun Tocyn Tymor corfforaethol? ✖  Nac ydy
  • Tymor Wythnosol
    • Y dewis gorau ar gyfer: 1 wythnos o deithio
      Esboniad Gallwch ddefnyddio’r tocyn unrhyw bryd dros unrhyw saith niwrnod ar ôl ei gilydd
      Ar gael ar Gerdyn Clyfar? ✔  Ydy
      Rhatach na thocyn safonol? ✔  Ydy
      Ar gael gyda chynllun Tocyn Tymor corfforaethol? ✖  Nac ydy
  • Tymor Misol
    • Y dewis gorau ar gyfer: 1 mis o deithio
      Esboniad Mae tocyn misol yn ddilys am un mis calendr llawn
      Ar gael ar Gerdyn Clyfar? ✔  Ydy
      Rhatach na thocyn safonol? ✔  Ydy
      Ar gael gyda chynllun Tocyn Tymor corfforaethol? ✖  Nac ydy
  • Tymor Blynyddol
    • Y dewis gorau ar gyfer: Teithio am 10 mis
      Esboniad Mae tocyn blynyddol yn ddilys am flwyddyn galendr lawn, gan arbed hyd yn oed fwy na phrynu 10 neu fwy o docynnau misol
      Ar gael ar Gerdyn Clyfar? ✔  Ydy
      Rhatach na thocyn safonol? ✔  Ydy
      Ar gael gyda chynllun Tocyn Tymor corfforaethol? ✔  Ydy

Mae Tocynnau Tymor yn ffordd wych o arbed arian os ydych chi’n teithio’n rheolaidd

Os ydych chi’n gwneud yr un daith fwy na 3 gwaith yr wythnos, gallech chi arbed arian drwy gael Tocyn Tymor. Po hiraf yw cyfnod y tocyn, y mwyaf o arian fyddwch chi’n ei arbed*. Defnyddiwch y tabl rhyngweithiol uchod i ddod o hyd i’r Tocyn Tymor sy’n addas i chi.

 

Tocynnau Tymor ar eich Cerdyn Clyfar

Gallwch gael Tocynnau Tymor ar eich Cerdyn Clyfar TrC trenau er mwyn teithio’n ddigyswllt. 

Smartcard

Prynu

Prynwch eich Tocynnau Tymor ar ein ap neu ar ein gwefan.

Llwytho

Llwythwch docynnau ar eich Cerdyn Clyfar TrC drwy ei dapio ar ddallenydd Cerdyn Clyfar mewn gorsaf neu drwy ddefnyddio eich ffôn clyfar.

Teithio

Rydych chi'n barod i fynd

App 1Prynu

Prynwch eich Tocynnau Tymor ar ein ap neu ar ein gwefan.

 

App 2Llwytho

Llwythwch docynnau ar eich Cerdyn Clyfar TrC drwy ei dapio ar ddallenydd Cerdyn Clyfar mewn gorsaf neu drwy ddefnyddio eich ffôn clyfar.

 

App 3Teithio

Rydych chi'n barod i fynd

 

Does gennych chi ddim Cerdyn Clyfar TrC trenau? Cliciwch y botwm isod i gael eich cerdyn am ddim 

 Archebu eich Cerdyn Clyfar

 

 

Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ein cynllun Tocyn Tymor corfforaethol?

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch ni ar 0844 856 0688 neu anfonwch e-bost at business.bookings@tfwrail.wales

Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Gwener 08:30 – 16:00 

 

Alla i uwchraddio o docyn Safonol i docyn Dosbarth Cyntaf?

Gallwch uwchraddio o docyn Dosbarth Safonol i Ddosbarth Cyntaf ar ein gwasanaethau, lle mae’n bosib gwneud hynny.  Mae hyn yn berthnasol i'n holl docynnau Safonol gan gynnwys Tocyn Sengl Unrhyw Amser ac Ymlaen Llaw, Tocyn Dychwelyd, Tocynnau Tymor a thocynnau Rover a Ranger.  Rhowch wybod i'r tocynnwr os hoffech uwchraddio gan y bydd angen iddynt gadarnhau bod lle yn y cerbyd(au) Dosbarth Cyntaf.  Cofiwch y bydd cost ychwanegol hefyd am unrhyw brydau a archebwch ar y trên os ydych yn uwchraddio i docyn Dosbarth Cyntaf.

 

Eich cydymaith teithio

Arbedwch arian, amser ac ymdrech gydag ap TrC.

Mae ap TrC yn hawdd i'w ddefnyddio, ac mae'n darparu gwybodaeth ddefnyddiol i chi gan gynnwys nodweddion fel diweddariadau byw ar bob amser trên, gan eich gwneud chi'n ymwybodol o unrhyw oedi a'ch helpu chi i olrhain eich taith a'n Gwiriwr Capasiti sy'n eich helpu i ddod o hyd i drenau sydd â lle arnynt. Mae ap TrC yn ddewis di-bapur heb unrhyw ffioedd archebu, a’r opsiwn o ad-daliad am oedi os bydd eich trên yn hwyr neu’n cael ei ganslo.

Darganfod mwy

 

Cwestiynau cyffredin

  • Sut mae prynu tocyn Tymor?
    • Gallwch brynu Tocynnau Tymor ar ein gwefan, ein ap, mewn rhai peiriannau tocynnau hunanwasanaeth a swyddfeydd tocynnau.

      Os ydych chi’n defnyddio ein Cerdyn Clyfar i deithio, gallwch brynu ac adnewyddu eich tocyn Tymor ar ein gwefan neu ar ein ap. Fydd dim angen cerdyn llun National Rail arnoch i brynu tocynnau tymor ar Gerdyn Clyfar ar gyfer ein gwasanaethau, ond rydyn ni yn gofyn i chi gario cerdyn adnabod ffotograffig pan fyddwch chi'n teithio gyda ni.

      Ar gyfer y rhan fwyaf o docynnau Tymor eraill, bydd angen cerdyn llun National Rail arnoch. Byddwn yn darparu un am ddim yn swyddfeydd tocynnau’r orsaf os oes gennych chi ddau lun diweddar ohonoch eich hun ar ffurf llun pasbort.

  • Sut ydw i’n archebu ac yn llwytho fy nhocyn Tymor ar fy Ngherdyn Clyfar?
    • Cyn i chi allu archebu eich Cerdyn Clyfar, bydd angen i chi fewngofnodi neu greu cyfrif ar ein gwefan neu drwy ddefnyddio ein ap.

      Gallwch brynu eich tocynnau Tymor yma (dolen at yr adnodd prynu tocynnau) neu ar eich ap TrC. Ar ôl i chi brynu eich tocynnau, gallwch ddewis eu llwytho ar eich Cerdyn Clyfar yn yr orsaf wreiddiol drwy ei daro ar y darllenydd Cerdyn Clyfar melyn wrth gatiau tocynnau gorsafoedd, ar beiriannau tocynnau hunanwasanaeth, Dilyswyr Platfform neu yn y swyddfa docynnau.

      Gallwch hefyd ddewis llwytho tocynnau i’ch cerdyn clyfar drwy’r Ap pan fyddwch wedi cysylltu â WIFI. Agorwch y waled docynnau ar eich dyfais Android neu iOS, dewis Tymor, a daliwch eich Cerdyn Clyfar yn gadarn ar gefn y ddyfais Android neu ar flaen y ddyfais iOS. Ar ôl i chi lwytho eich Cerdyn Clyfar, rydych chi’n barod i fynd. Rhagor o wybodaeth.

  • Sut mae prynu tocyn Tymor papur?
    • Os oes gennych chi gerdyn llun National Rail yn barod, gallwch brynu tocyn Tymor ar y diwrnod yn un o’n peiriannau tocynnau hunanwasanaeth neu ein swyddfeydd tocynnau, neu cyn i chi deithio ar ap neu wefan TrC.

      Cofiwch, wrth brynu ar ein ap fod yna rai llwybrau na fydd modd i chi brynu tocyn tymor papur ar eu cyfer. Bydd tocynnau Tymor Cerdyn Clyfar yn cael eu cynnig yn eu lle mewn sefyllfa o’r fath.

  • Sut mae adnewyddu fy nhocyn Tymor?
    • Gallwch adnewyddu’r rhan fwyaf o docynnau Tymor ar ein ap neu wefan hyd at 28 diwrnod cyn i’ch tocyn presennol ddod i ben*.

      Cofiwch, wrth brynu ar ein ap fod yna rai llwybrau na fydd modd i chi brynu tocyn tymor papur ar eu cyfer. Bydd tocynnau tymor cerdyn clyfar yn cael eu cynnig yn eu lle mewn sefyllfa o'r fath.

      Gallwch chi adnewyddu eich tocyn Tymor yn un o’n swyddfeydd tocynnau*.

      Gallwch chi adnewyddu tocynnau tymor misol a 7 diwrnod mewn peiriannau tocynnau hunanwasanaeth.*

      Gallwch chi adnewyddu tocynnau Tymor 7 diwrnod ar y trên ar rai gwasanaethau, pan fo'r cyfleusterau adwerthu yn caniatáu hynny*.

      Sylwch: dim ond ar ôl hanner dydd ar y diwrnod cyn y dyddiad dechrau sydd ar y tocyn y cewch brynu tocyn papur 7 diwrnod.*

      Rhaid i chi fod â Cherdyn Llun National Rail dilys er mwyn adnewyddu eich tocynnau tymor papur ar ein gwefan, drwy ein ap, mewn swyddfeydd tocynnau, mewn peiriannau tocynnau hunanwasanaeth ac ar y trên.
  • Sut mae cael ad-daliad am docyn Tymor?
    • Os ydych chi wedi prynu tocyn Tymor ac nad ydych chi eisiau ei ddefnyddio mwyach, rhaid i chi wneud cais am ad-daliad cyn gynted â phosibl naill ai drwy gysylltu â’r tîm Cymorth i Gwsmeriaid, neu drwy fynd i’ch swyddfa docynnau leol.

      Ni fyddwn yn prosesu ad-daliad oni bai fod y tocyn tymor wedi’i brynu gan Trafnidiaeth Cymru. Os ydych chi wedi prynu eich tocyn yn rhywle arall, cysylltwch â’ch adwerthwr gwreiddiol.

      Mae ad-daliad tocyn Tymor yn seiliedig ar y gwahaniaeth rhwng y pris rydych chi wedi’i dalu, a chost tocyn am y cyfnod y daliwyd y tocyn Tymor. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan National Rail

  • Sut mae prynu tocynnau Multiflex?
    • Gallwch brynu tocynnau Multiflex ar ein ap neu ar ein gwefan. Cofiwch, bydd angen i chi fod wedi llwytho ein ap i lawr i ddefnyddio eich tocynnau.
       
      Ar ein ap: Yn ein cynllunydd teithiau, nodwch fan cychwyn a chyrchfan eich taith, cliciwch yr eicon Multiflex a bwrw ymlaen i brynu. Ar ein gwefan: Yn ein cynllunydd teithiau, nodwch fan cychwyn a chyrchfan eich taith, cliciwch y togl Multiflex a phwyso “Chwilio a Phrynu” i fwrw ymlaen i brynu.

  • Pryd alla i ddefnyddio fy nhocynnau Multiflex?
    • Mae gennych 3 mis i ddefnyddio eich tocynnau Multiflex o’r pwynt prynu. Gellir teithio ar bob un o’r 12 taith unigol yn eich tocyn Multiflex unrhyw bryd yn ystod y cyfnod dilys. Rhaid i chi roi un tocyn ar waith a gyfer pob taith a wneir, a hynny cyn i chi fynd ar y trên

  • Beth ddylwn i ei wneud os ydw i wedi colli fy nhocyn Tymor neu fy Ngherdyn Clyfar?
    • Os byddwch yn colli eich Tocyn Tymor neu os caiff ei ddwyn, rhowch wybod ar unwaith i’r adwerthwr y gwnaethoch ei brynu ganddo. Os na allwch chi neu ni adfer y tocyn sydd wedi cael ei golli neu ei ddwyn, byddwn wedyn yn ystyried cais am Docyn Tymor Dyblyg, os oedd y Tocyn Tymor gwreiddiol yn ddilys am gyfnod o fis neu fwy. Nid ydym yn cyhoeddi Copïau Dyblyg mewn perthynas â Thocynnau Tymor 7 Diwrnod neu Docynnau Tymor Hyblyg sydd wedi cael eu colli neu eu dwyn. Efallai y byddwn yn gofyn i chi neu eraill am wybodaeth. Codir tâl gweinyddu pan fyddwn yn cyhoeddi Tocyn Tymor Dyblyg.

      Os ydych chi wedi colli eich Cerdyn Clyfar, bydd angen i chi archebu un newydd. Gallwch drosglwyddo eich tocyn presennol i’r cerdyn newydd ar yr amod ei fod yn docyn tymor Misol neu Flynyddol gyda 7 diwrnod a mwy ar ôl.