Rydyn ni’n gwella’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.

Dewch o hyd i wybodaeth ychwanegol am ein hamcanion, sut rydyn ni’n gweithredu a’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni.

 

Perfformiad y rheilffyrdd

Mae ein teithwyr yn haeddu gwasanaeth safonol, dibynadwy a phrydlon, felly rydyn ni wedi cyflwyno set newydd o fesurau perfformiad - unigryw i TrC - sy’n canolbwyntio ar ddarparu gwell profiad i’n teithwyr. 

Yn y gorffennol, câi targedau rheilffordd eu mesur gan Fesurau Perfformiad Cyhoeddus a oedd yn golygu y byddai’n dderbyniol i drên fod yn hwyr am y rhan fwyaf o siwrnai dim ond iddo gyrraedd ar amser yn yr orsaf olaf yr oedd i fod i stopio ynddi. Yn aml, câi hyn ei gyflawni drwy beidio â stopio mewn gorsafoedd lle’r oedd trên i fod i alw er mwyn ‘dal i fyny’ â'r amserlen.

Nid yw TrC yn credu bod gweithredu fel hyn yn iawn i’n teithwyr, felly rydyn ni’n mesur tri pheth hanfodol, i helpu i wella’n gwasanaethau ni a siwrneiau cwsmeriaid: Amser mae Teithwyr yn ei Golli, Canslo a Ffurfiannau Byr. Mae’r rhain yn canolbwyntio ar brydlondeb, dibynadwyedd a chapasiti yn y drefn honno.

Mae Amser mae Teithwyr yn ei Golli yn fetrig newydd sy’n mesur prydlondeb (o fewn 3 munud) ym mhob gorsaf lle mae’r trên i fod i stopio, gan ystyried nifer y teithwyr sy’n cyrraedd pen eu taith. Mae hyn yn ein galluogi i olrhain profiadau ein cwsmeriaid gyda’r nod o sicrhau bod teithwyr yn cyrraedd pen eu taith yn brydlon.

Mae Canslo yn mesur dibynadwyedd y gwasanaeth, ac mae Ffurfiannau Byr yn ystyried capasiti’r gwasanaeth drwy fesur canran y gwasanaethau sy’n cael eu ffurfio gan lai o gerbydau teithwyr nag a gynlluniwyd yn y cynllun ar gyfer y trên.

Cyfnod 13 | 2023/24

Darparu gwasanaethau

Enw’r Dangosydd Perfformiad Allweddol Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad Allweddol Cyfnod Go Iawn Cyfnod Blaenorol Go Iawn Blwyddyn Flaenorol MAA Cyfnod
Amser mae Teithwyr yn ei Golli - Llinellau Craidd y Cymoedd Canran y gwasanaethau sy’n cyrraedd o fewn 3 munud i’r amser cyrraedd ar yr amserlen, gan ddefnyddio pwysoliad i leoliadau sy’n gwasanaethu ein nifer uchaf o gwsmeriaid ar draws Llinellau Craidd y Cymoedd. Mae oedi mewn lleoliadau lle mae mwy o bobl yn cael mwy o effaith ar ganran yr amser mae teithwyr yn ei golli. 90.2% 88.4% 87.0% 86.5%
Amser mae Teithwyr yn ei Golli - Cymru a’r Gororau Canran y gwasanaethau sy’n cyrraedd o fewn 3 munud i’r amser cyrraedd ar yr amserlen, gan ddefnyddio pwysoliad i leoliadau sy’n gwasanaethu ein nifer uchaf o gwsmeriaid ar draws Llinellau Cymru a’r Gororau. Mae oedi mewn lleoliadau lle mae mwy o bobl yn cael mwy o effaith ar ganran yr amser mae teithwyr yn ei golli. 80.2% 78.6% 73.0% 69.7%
Ffurfiannau Byr Nifer y gwasanaethau sy’n gweithredu o dan y capasiti sydd ei angen yn yr amserlen. 9.82% 11.51% 9.66% 12.63%
Cyfanswm y Canslo Canran y gwasanaethau a gafodd eu canslo (dibynadwyedd gwasanaethau) ar draws y rhwydwaith. I gyd-fynd â safonau’r diwydiant a Network Rail, mae nifer y gwasanaethau a gafodd eu canslo wedi cael ei hail-gyfrifo gan gymryd 0.5 ar gyfer rhai a gafodd eu canslo’n rhannol ac 1.0 ar gyfer y rhai a gafodd eu canslo’n llwyr. 2.38% 3.70% 6.98% 4.99%

 

Effeithiolrwydd

Enw’r Dangosydd Perfformiad Allweddol Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad Allweddol Cyfnod Go Iawn Cyfnod Blaenorol Go Iawn Blwyddyn Flaenorol MAA Cyfnod
km teithwyr Cyfanswm y cilometrau a deithiwyd gan deithwyr. 87.37M 86.36M 69.16M 83.06M
Refeniw Teithwyr a Thocynnau Mae’r refeniw a enillir drwy werthu tocynnau yn cael ei alw’n Refeniw Teithwyr (er bod Incwm Tocynnau yn cael ei ddefnyddio’n gyfnewidiol ar draws y diwydiant). £11.81M £11.60M £9.61M £11.41M
Cyfanswm y Teithwyr a Gludwyd Cyfanswm y teithwyr â thocynnau a gludwyd ar draws y rhwydwaith 2,266,433 2,243,084 1,642,458 2,044,543

 

Cwsmer

Enw’r Dangosydd Perfformiad Allweddol Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad Allweddol Cyfnod Go Iawn Cyfnod Blaenorol Go Iawn Blwyddyn Flaenorol MAA Cyfnod
Bodlonrwydd Cwsmeriaid Sgôr bodlonrwydd cwsmeriaid gan Wavelength. Adnodd sy’n gwrando, deall, mesur a gwerthuso adborth ein cwsmeriaid 78% 85% 83% 82%

 

Effeithlonrwydd Cost

Enw’r Dangosydd Perfformiad Allweddol Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad Allweddol Cyfnod Go Iawn Cyfnod Blaenorol Go Iawn Blwyddyn Flaenorol MAA Cyfnod
Cost fesul km Teithwyr Cyfanswm cost weithredol fesul km teithwyr a deithiwyd. £0.57 £0.50 £0.50 £0.49
Cost fesul Teithwyr a Gludwyd Cyfanswm cost weithredol fesul teithiwr a gludwyd. £21.85 £19.28 £20.97 £19.73
Allyriadau NOx fesul km Teithwyr Swm allyriadau gronynnau NOx a gynhyrchir gan danwydd trên yn unig fesul km teithwyr a deithiwyd. 0.02 0.02 0.02 0.02
Allyriadau CO2 fesul km Teithwyr Swm yr allyriadau Carbon Deuocsid a gynhyrchir gan ein gwasanaethau am bob km teithwyr a deithiwyd. 0.11 0.09 0.11 0.10