Lowest Available Fares Ein nod bob amser yw cynnig ein pris tocyn isaf ar i chi pan fyddwch chi'n prynu tocynnau trwy ein gwefan, ap, swyddfeydd tocynnau, neu beiriant gwerthu tocynnau.

Byddwn yn rhoi gwybodaeth gywir, amserol a chyfredol i chi am y prisiau pan fyddwch chi’n prynu i’ch helpu i ddod o hyd i’n prisiau rhataf.

Os byddwch chi’n dod i wybod y gallech chi fod wedi prynu tocyn rhatach am yr un siwrne, bydd gennych chi hawl i gael ad-daliad am y gwahaniaeth rhwng y prisiau cyn pen 28 diwrnod i ddyddiad y daith ar eich tocyn. Cysylltwch â’n hadran Cysylltiadau Cwsmeriaid ni drwy anfon e-bost neu ffurflen ar y we gan nodi’r wybodaeth berthnasol.